Bysus Llundain, neu be? Mae hwn yn bendi-bus o flogiad, sy’n cael ei yrru gan rhywun sy heb fod tu ôl i’r llyw ers sbel, felly ymddiheuriadau am hynny, a gobeithio bod hyn yn wneud ryw fath o synnwyr. Ni chyrhaeddwn ni ben y daith gyda hyn, chwaith, hyd yn oed ar ôl mil a mwy o eiriau.
Ail ddrafft yw hwn, ac er mod i wedi wedi cael gwared o’r cyfatebiaeth hirwyntog am The Good Life, mae’r llun isod jyst yn rhy hyfryd i’w wastraffu. Edrych ar y bobl da.

Mae dau lyfr dw i wedi’u darllen yn diweddar wedi effeithio rhywfaint ar y ffordd dw i’n meddwl am newid hinsawdd, a’m rôl i fel “rhan o’r broblem”. Er i mi bryderu y bydd trafod hyn ar y blog yn wneud i fi swnio fel, wel, twat hunanfodlon, dyma fi’n mentro i ffau’r llewod.
Pa mor wael yw bananas?
Y llyfr cyntaf yw How Bad Are Bananas, gan Mike Berners-Lee, sy’n dechrau gyda thri chynosodiad sylfaenol, sef:
- Mae newid hinsawdd yn broblem enfawr
- Ninnau sy’n ei achosi fe
- Gallwn ni wneud rhywbeth amdano fe
Dydy e ddim hyd yn oed yn wastraffu inc yn y llyfr, na gwynt yn ei fywyd bob dydd, mewn dadlau gyda’r rhai sy’n gwadu bod newid hinsawdd yn digwydd, neu sy’n pw-pwio un o’r tri gosodiad uchod, a dw i’n cytuno â fe. Mae pawb wedi clywed yr un am reslo gyda moch, reit?

Roedd hyn ynddo ei hunan yn helpgar iawn; mae derbyn y ffaith bod dadlau am y ffeithiau gwyddonol gyda phobl sy ddim eisiau newid eu meddylau yn wastraff llwyr o amser yn rhyddhad annisgwyl. Mae neges graidd y llyfr arall, Carbon Detox gan George Marshall yn cadarnhau y safbwynt yma (fi sy biau’r cyfieithiad):
Yr unig beth sy’n cyfri yw’r llinell isaf
Yn y llyfr hwn rwy am i chi feddwl am eich cyfraniad chi i newid hinsawdd fel pwysau, fel rhywbeth mae’n bosibl i’w bwyso i’r gram olaf un. Ac rwy am i chi feddwl am golli rhan ohono fe. Cewch chi ei symud o un gweithgaredd i’r llall a dewis pa damaid ohono yr ydych am ei ollwng yn gyntaf, ond rhaid i chi gadw, fel eich prif amcan, colli cymaint ohono ag sy’n bosibl.
Mae perygl mewn cymryd y llwybr yma, wrth gwrs. Yng nghanol y 90au, pan dechreuais i ddarllen mwy am amgylcheddaeth ac ati, a cheisio addasu fy ffordd o fyw rhywfaint, ro’n i’n arfer dilyn datblygiadau yn y mudiad Ecoleg Ddofn, a dw i’n cofio erthygl mewn rhyw ffansîn Americanaidd am ddyn ifanc oedd wedi ffeindio’r ffordd ddelfrydol o ysgafnhau ei olion-traed; efo rhaff y crogwr yn ei garej. Y peth mwya dychrynllyd am hyn oedd gweld cymaint o bobl oedd yn barod i’w longyfarch am fod mor ddewr.
Ffyc ddat.
Dw i eisiau byw.
Beth sy’n wych am y llyfrau yma yw eu bod nhw’n edrych ar y sefyllfa gyda llygaid clir, ac yn ei thrafod heb flew ar eu tafodau, ond heb anobaith yn eu calonau chwaith. “Dydyn ni ddim yn gallu wneud popeth,” mae’r awduron yn dweud, “ond ni’n gallu wneud lot mwy nag ydyn ni’n wneud ar hyn o bryd.” Mae pawb (ond y gwadwyr) yn gwybod hyn, ond fel mae Marsh yn ei ddweud, dyn ni ddim yn byw fel ein bod ni’n ei gredu fe.
Mae’r bwlch yma, rhwng gwybod rhywbeth fel ffaith a chredu ynddo fe fel “credo” yn un sy’n gallu bod yn faen tramgwydd i’r rhai ohonon ni sy’n galw ein hunain yn rhesymolwyr, gyda’n rhagfarn ynglyn â “ffydd dall”, ond mae rhaid i ni ddysgu bod sut peth â “ffydd goleuedig” hefyd yn bosibl.
Dydw i ddim yn esbonio hyn yn dda; rhaid i chi ddarllen y llyfr.
I’r cwestiwn “Pa mor wael yw bananas?” mae’r ateb yn eitha positif: dydy bananas ddim mor wael ag o’n i’n meddwl (ond dydy Berners-Lee ddim yn treulio lot o amser poeni am sefyllfa gweithwyr yn y De, felly mae’n bosibl bod dy fananas di yn wael iawn, jyst ddim yn yr ystyr carbon-aidd). Maen nhw’n cael eu cludo ar longau, a chan bod nhw’n cael eu torri tra’n wyrdd, dydyn nhw ddim yn gorfod cael eu rheweiddio ar eu taith. O gymharu â rhywbeth fel asbaragws, maen nhw’n eitha da.
Mae Berners-Lee yn dda iawn am wneud ei bwynt trwy anecdotau. Ar ddechrau’r llyfr, lle mae’n trafod y pethau sydd â’r effaith lleiaf yn nhermau carbon, mae’n adrodd hanes dyn oedd yn gofyn iddo fe ym mha ffordd y dylai fe sychu ei ddwylo mewn ar ôl eu molchi nhw mewn tŷ bach cyhoeddus. Mae B-L yn trafod y gwahaniaethau rhwng defnyddio tywel llaw, neu rhai papur, neu’r wahanol fathau o beiriannau sychu dwylo, ac mae hyn yn ddifyr, a braidd yn annisgwyl. Sychwyr modern fel yr Airblade yw’r gorau, mae’n debyg, ond mae’n amcanrifo bod defnyddio tywel go iawn yn waeth na defnyddio un tywel papur, oherwydd y perygl o ddal rhyw haint o’r tywel. (Does dim llawer sy’n waeth i’ch ôl-draed carbon na gorfod treulio amser yn yr ysbyty.) Ond os ti’n defnyddio dau tywel papur bob tro, byddai’n well i ti gymryd sbin ar y lliain rhôl seimllyd.
Ond prif bwrpas y stori yw ei diweddglo: y dyn sy’n gofyn y cwestiwn yn sôn yn benodol am y tai bach ar yr awyrennau mae’n defnyddio i hedfan o Lundain i Efrog Newydd rhyw chwe gwaith y flwyddyn. Pe tasai fe’n hepgor un o’r hediadau yna, gallai fe sychu ei ddwylo ar dywelon sidan ffresh bob tro mae’n piso, llosgi’r peth wedyn, a dal yn arbed carbon.
Nes ymlaen, mae’n trafod “ffetish y bag plastig”, y ffordd mewn un tameidyn o bolyethylen wedi dod i sefyll am ddrygioni ein ffordd o fyw afradlon. Mewn gwirionedd, mae cymaint o garbon mewn un bag plastig cyffredin ag sydd yn y petrol sy’n gyrru car rhyw hanner canllath. Wrth gwrs mae’n well peidio gwastraffu adnoddau ar bethach di-angen fel bagiau plastig, ond bob tro ti’n gyrru 10 milltir di-angen, wyt ti’n defnyddio yr un carbon ag sydd mewn 320 o fagiau plastig.
O’r gorau, dechrau diflasu fy hunan nawr, ac un o fy amcanion personol i yw “peidio eistedd wrth y cyfrifiadur am oriau maeth, ti ddim mor ifanc ag o’t ti, beth am fynd am dro bach?”.
Mwy yn y man. Methu aros, eh?