Apology Aberystwyth

Apology

Yn anffodus nid oes copi Cymraeg o’r tudalennau hyn ar gael ar hyn o bryd.

A fyddech cystal â defnyddio’r botwm English ar y porwr er mwyn mynd nôl i’r dudalen Saesneg.

Mynd nôl? Sa i wedi gweld y tudalen Saesneg a does dim lot o ddiddordeb ’da fi, dweud y gwir.

Dych chi erioed wedi gweld tudalen “Apology” fel hyn sy’n ymddirheuro nid yw’r fersiwn Saesneg ar gael?

Eric Kissane ar deipograffiaeth

Erthygl dda am deipograffiaeth ar y we yn y rhifyn newydd A List Apart.

Wrth sgwennu ar y flog ’ma, dw i’n teipio pethau fel “â” (i wneud â) bob dydd ond, fel arfer, dw i’n anghofio am y collnodau a dyfynodau cyrliog sy’n helpu wneud testun ar wefannau yn fwy darllenadwy.

Ydyn nhw’n helpu? Ydy “hyn” yn edrych yn well na “hyn”? Ydy hi’n wir taw yn y manylion mae Duw yn byw ? Neu ydw i’n mynd bach yn rhy refrol?

Ac yn fwy pwysig byth, fydda i’n cael llawer mwy o ymwelwyr yma trwy gor-ddefnyddio geiriau fel rhefrol a chontiau yn fy sylwadau? Gawn ni weld.

Malu Cachu ar y teledu

Os diddordeb ’da chi mewn bod ar y teledu? Mae Cwmni Hon am wneud rhaglen am y wefan Clwb Malu Cachu ac maen nhw’n moyn dysgwraig (neu ddysgwr, maen nhw’n mynd yn ddesperet!) sy wedi defnyddio’r safle ac sy’n fodlon i ymddangos ar S4C Digidol. Byddan nhw’n ffilmio yn Llambed dydd Iau nesa.

Os oes diddordeb, cysylltwch â Catrin Mears.

Normaleiddiad ieithyddol

Wedi bod yn siarad â’m ffrind Maff am normaleiddiad ieithyddol: syniad anodd iddo fe, fel Saes uniaith i’w ddeall. Wrth trafod y peth gyda fe (a chwarae teg iddo, faint o Saeson sydd gyda diddordeb yn y fath peth?) roedd rhaid i mi feddwl yn ddyfnach.

Un peth sy’n holl bwysig, yw’r angen i weithio mewn cyd-destun rhyngwladol ac i beidio bod yn ynysol: does dim byd arbennig i’n sefyllfa yng Nghymru.

Mae’r erthygl hon yn sôn am y ffordd mae’r we wedi datblygu fel ffenomen amlieithog. Mae ’na lot yn yr erthygl dw i ddim yn cytuno â fe, ond mae hyn yn taro tant:

Until a critical mass of internet penetration in a country builds up, and a corresponding mass of content exists in the local language, the motivation to switch from English-language sites will be limited to those for whom issues of identity outweigh issues of information.

Yma yng Nghymru, dyn ni’n gwastraffu egni ar gwyno bod Yahoo yn gwbl Saesneg neu bod angen diweddiad dot cym cyn i ni ddechrau creu’r we Gymraeg.

Mae hyn yn warthus. Dych chi moyn pori’r we yn y Gymraeg? Llwytho Opera a’i phecyn ieithoedd Celtaidd. Dych chi moyn ymchwilio’r we yn y Gymraeg? Defnyddiwch Google Cymraeg. Dych chi mo’yn cynnwys, annibynnol, anfasnachol. Creuwch fe eich hunain! Mae ’na degau o filoedd o bobl yn defnyddio Blogger ond, am wn i, dim ond un person sy’n cadw gwe-flog Cymraeg ei hiaith. Y cwyn o’r sîn blogio’n Saesneg yw bod popeth yn rhy losgachol, gyda phawb yn cyplysu eu blogiau â blogiau eu ffrindiau a neb yn dweud unrhywbeth newydd. Rhaid bod y sîn blogio’n Gymraeg yr un mwya mastyrbaidd ar y we!

</rhefru>

Chwilio am gymdeithas Wga-Bwga ar y We

Ers dros blwyddyn, dw i wedi bod yn aelod o’r “weflog gymunedol” MetaFilter. Os ydy hi’n bosib i greu cymuned ar y we, MeFi yw’r esiampl orau sy ’da ni, am wn i. Dyma’r sylwadau un aelod ar pam mae cymunedau ar-lein yn bwysig.

Mae gan MetaFilter dros 11,000 o aelodau, gyda falle 10% ohonyn nhw yn postio’u sylwadau’n gyson (dydw i ddim un o’r cyfranwyr mwya cyson – fel dwedodd y bardd, dw i’n sgwennu Saesneg fel iaith farw…). Fel arfer mae ’na rhyw 20-30 o bynciau newydd i’w trafod bob dydd. Mae pethau wedi mynd bach yn wallgo ers digwyddiadau yn Efrog Newydd a DC, gyda llawer o aelodau newydd, a bron bob cadwyn trafodaeth newydd yn sôn am yr ymosodiadau bu neu’r rhai sy’n dod. Ond, fel arfer mae ’na beth wmbredd o bynciau i’w trafod, gyda man dechrau bob un yn ddolen i rywbeth diddorol rhywle ar y we.

Fel cymuned go iawn, gallwch chi ddod ar draws bob math o berson a phob math o farn. Mae rhan fwya o’r aelodau’n dod o Ogledd America, ond mae ’na ddigon o bobl Ewrop, Asia a lleoedd eraill i atal yr Iancs rhag mynd yn rhy hunan-obsesiynol. A nage, nid fi yw’r unig Cymro. Mae goleddf “rhydfrydig” (yn yr ystyr Americanaidd o’r gair) ar y safle, ond mae ’na hefyd geidwadwyr sy’n cymryd rhan yn gyson. Mae croeso i bawb a’i farn, ond dydy’r cymuned ddim yn diodde pobl sy’n treillio (trolling? – pobl sy’n dweud pethau cas dim ond i wylltio pobl eraill) neu bobl sy anwybyddu llinellau mynegi‘r cymuned, a gafodd eu creu gan berchen y cymuned, Matt Haughie.

Pam ydw i’n sôn cymaint am MetaFilter, sydd, wedi’r cyfan, gwefan Americanaidd, Saesneg ei hiaith? Achos mod i’n meddwl am greu MeFiCymru, gan ddefnyddio’r côd “ffynnon agored” sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Fy syniad yw cael seiat trafodaeth Cymraeg ei hiaith ble y gallwn ni “rannu, cyfoethogi a’n dysgu ein gilydd”.

“Ond mae seiadau trafodaeth ’da ni’n barod, y twpsin”, dw i’n eich clywed chi’n dweud yn syn.

Oes, ond ar hyn o bryd dim ond un (am wn i) sy’n cael ei defnyddio’n gyson, sef Seiat y Cynganeddwyr. Mae Negesfwrdd y Cymry Cwl yn beth eitha newydd, ond erbyn hyn mae rhan fwya o’r cadwynau trafodaeth wedi bod yn araf iawn i ddatblygu ac mae nifer o hybysebion arni hi’n cynyddu bob wythnos. Hefyd, mae ’na leoedd fel Cylch Trafod Cymuned, ond mae llinell blaid mewn lleodd felly’n gallu troi’n gylch hudol sy’n cadw’r anghyfarwydd ma’s. Mae sawl rhestr e-bostio ’da ni wrth gwrs, ond dim byd (eto, am wn i) sy’n uniaith Cymraeg neu sy’n trafod unrhywbeth ond y Gymraeg. Mae Usenet yn wlad y sbamwyr a’r treillwyr erbyn hyn, ondyfe?

Dydw i ddim yn debyg i wneud unrhywbeth ymarferol yn fuan. Ond unwaith bydd y côd ar gael, bydda i’n dechrau chwarae gyda fe ac ymchwilio’r posibiliadau. Os oes awgrymiadau ’da chi, defnyddiwch y blwch trafod isod neu ebostiwch nhw ataf. Diolch.