Dim ond gair i ddweud mod i wedi cyfieithu Thematic, y thema WordPress dw i’n ei ddefnyddio’r dyddiau ’ma. Ddim yn gwybod pryd byddan nhw’n ychwanegu’r ffeiliau Cymraeg i’r pecyn cyfredol, felly os oes diddordeb ’da rhywun, cewch chi ffeiliau fan hyn:
Gwegofiaduron newydd
Dyma dyrniad o wegofiaduron newydd dw i wedi dod ar draws heddi. Llawer o stwff da i archwilio
Fiends [sic] Reunited
Dw i wedi ail-gysylltu â sawl hen ffrind trwy Friends Reunited a dwi’n edrych ymlaen at gwrdd â rhai ohonyn nhw dros yr Wyl. Ond mae’n beth rhyfedd iawn i weld enwau hen fwlïaid o ddyddiau ysgol. Ro’n i’n synny pa mor grac o’n i’n teimlo wrth weld un enw newydd yn enwedig. Tro diwetha welais i’r boi, o’n i’n trïal amddiffyn fy mhen rhag ei Doc Martins. Calonogol iawn i weld fod e wedi llwyddo dod â thri o blant i’r byd. Pob lwc iddynt.
Ta beth, dydyn nhw ddim wedi clywed bod gwefan arbennig iddyn nhw, ble fydd neb yn cilchwerthin ar ei sgiliau teipio?
Dw i’n gwybod bod hyn yn fychander, ond ’na ni. Ces i wefr euog wrth weld rhywun naeth fy mwlio i (pan o’n i’n saith neu wyth oed) yn cael ei gosb haeddiannol mewn ffrae tafarn ugain mlynedd yn ddiweddarach.
Fyddwn i ddim yn dda fel Cristion, na fyddwn?
Post Metafilter gorau erioed?
Blog ffrwythlon dros ben
Cymdeithas, schymdeithas
Sylwad diddorol am y gair cydymdeithas ar glosses.net (yr unig flog arall yn y byd lle mae’r Gymraeg ar gael…)
Ffeirws Newydd
Mae ’na ffeirws newydd yn mynd o gwmpas, a dw i wedi ei ddal. Mae’n broblem os dych chi’n defnyddio Internet Explorer ac Outlook Express, felly dw i wedi troi yn ôl i Opera.
Yr unig broblem nawr yw Blogger. Does dim cefnogaeth i Opera, a dyw rhan fwya o bethau handi sy’n gweithio gyda IE5 ddim yn gweithio gyda’r porydd ’ma. (Ac mae MorfaBlog yn edrych yn warthus – rhyw broblem gyda’r CSS, dw i’n meddwl.)
Sut i beidio cyfieithu gwefan
National Assembly for Wales: Healthplanonline – credwch neu beidio, mae’r ddolen honna yn anelu at dudalen Gymraeg ei hiaith, er fod y llabed <title>, bob llabed <meta>, sawl llabed <alt> a hyd yn oed enw’r ffeil ei hunan yn uniaith Saesneg. Dw i’n hoff iawn o’r linc ‘Saesneg’ gyda’r testun <alt> sy’n dweud ‘Cymraeg’. Darllen heb ddarluniau? Tyff.
Hanes Gweflogiadau
Gweflogiau: hanes byr. Cyflwyniad da at hanes datblygiad y weflog fodern, oddi wrth un arall o’m hoff gyfranwyr Metafilter.
Nid Cawl yw Waeguk
Nid Cawl yw Waeguk – gweflog gan un o’m hoff gyfranwyr Metafilter. Mae Stavros/Bosco yn byw yn Ne Korea, ac mae e’n sgwennu am ei wlad fabwysiedig gyda chymysgedd egnïol o hiwmor, casineb a Jack Daniels. Gwerth ei ddarllen, ond nid i’r gwangalon.
Shamanaidd Arwynebol
Nos Sadwrn, adeiladais i dân yn y stafell ffrynt a setlais i lawr i wylio Derwyddion – Byd y Shaman ar S4C. Syndod mawr (not), oedd y rhaglen yn rwtsh arwynebol ar y cyfan, a ddysgais bron ddim byd diddorol ond y ffaith bod Dai the Drop yn gweithio fel rhyw fath o iachwr oes newydd y dyddiau hyn.
Am well gyflwyniad at shamanyddion y byd modern, dyma rhestr o erthyglau am entheogens (nawr, dyna gair sy ddim yn ymddangos yng Ngeiriadur Bruce) o’r weflog abuddhas memes.
Gofalu am y pethau bychain
Faint sydd ynddo fe? Sawl pecyn bach o sos coch allwch chi roi mewn un botel blastic Heinz? Ac yn y blaen.
[via metafilter]
Lluniau cefndiroedd
Lluniau cefndiroedd i’ch cyfrifiadur. Dw i’n defnyddio hwn ar hyn o bryd.
Gwersi teip
Ffontiau am ddim
Wireframe
Nawr ‘te, mae hwn yn lot o hwyl.
Wikipedia
Wikipedia: Welsh language – gall unrhywun ychwanegu neu newid tudalennau Wikipedia – bydda i’n chwarae gyda’r dudalan hon nes ymlaen.
Iawn, diolch
Croeso arbennig i bwy bynnag sy wedi’n ffeindio ni o Siapan.
Glosses
::glosses.net:: – gweflog gan myfyriwr/wraig ieithoedd. So’r wefan yn llwytho i fi ar hyn o bryd, ond hoffwn i weld mwy o stwff fel hyn am y Mabinogi.
Daypop
Newydd ychwanegu bwlch chwilio Daypop (lawr ar waelod y dudalen) ar ôl ffindio’r ddau stori isod trwyddo fe.

