Briws Ar Lein

Fel mae pawb yn gwybod erbyn hyn dw i’n siwr, mae Geiriadur yr Academi bellach ar gael arlein, yn rhad ac am ddim, ac wedi bod ers sawl diwrnod erbyn hyn.

Doeddwn i ddim yn sylweddoli tan heddi faint mae hyn yn mynd i effeithio arna i. Cliw bach: edrych ar ddyddiad y blogiad cyn yr un ’ma.

Mae’n wych o beth gael defnyddio adnodd mor gynhwysfawr, sy’n hawdd i’w ddefynddio, ag sydd, bron â bod, yn wneud popeth fyddet ti moyn iddo fe wneud. Ond tan y bore ’ma, pan ddechreuais i ei ddefynddio yn fwy trylwyr, i gyd oeddwn i wedi trydar amdanynt oedd y manion bethau oeddwn i’n eu gweld sy’n ymharu â phrofiad y defnyddwyr. Felly, gadewch i fi fod yn glir am hyn: mae’r manion bethau yma yn fanion; rydw i wrth fy modd gyda’r geiriadur, ac yn gwerthfawrogi gwaith pawb sy wedi bod ati i ddod â’r Briws i’r byd arlein.

Un o’r pethau wnes i gonan amdano oedd y ffaith bod dim URL deca i’r geiriadur. Es i mor bell â chofrestru briwsarlein.com, ar ôl i mi ffeindio am y trydedd tro mod i angen y peth a ddim wedi wneud nod tudalen ohono. Nawr dw i’n gweld bod Bangor wedi cofrestru GeiriadurYrAcademi.com, er bod e ddim yn gweithio hyd yn hyn.

Dw i ar ddeall bod cynllun ar y gweill i adael i bobl wneud adroddiadau pan byddan nhw’n dod ar draws bylchau yn y rhestr geiriau, sef siwr o fod y peth mwya pwysig o’r datblygiadau byddai ar fy wishlist i, ond dyma rhai o’r pethau sy wedi fy nharo:

Telerau ac amodau

Rhaid derbyn y telerau ac amodau canlynol er mwyn defnyddio’r wefan hon.

Chwarae teg, ond oes rhaid i mi wneud hynny hanner dwsin o weithiau bob dydd? Ydy rhywun wedi anghofio gosod briwsionyn ar y Briws?

Dim fersiwn symudol

Mae’n gweithio ar y ffôn poced, ond heb fersiwn symudol pwrpasol, mae’n lletchwith. Eto, debyg iawn bod hyn ar y rhestr o bethau i’w wneud.

Dim modd wneud dolen i gofnod

Mae geiriadur y BBC yn gadael i’r defynddiwr greu linc i gofnod penodol, pam nad yw’r Briws?

Dim modd integreiddio gyda rhwydweithiau cymdeithasol

Dim dolenni “rhannu hwn”, dim botymau Twitter na dim byd tebyg. Pe tasai modd cael URL am gofnodion unigol, fyddai hyn ddim yn broblem (i bobl gyda digon o glem), ond byddai’n syniad wneud pethau yn haws i’r defnyddwyr rhannu cofnodion ar eiriau gwych. Fy hoff air newydd hyd yn hyn yw “coegaddurniadau” ond does dim modd i fi ddangos i chi beth yw hwnna yn Saesneg*.

Gormod o destun ar y sgrîn

Falle mod i’n dywysoges, a dyma un o fy mhys, ond pan dw i’n defnyddio offeryn i wneud job, dw i ddim eisiau lot o, hei, coegaddurniadau o’i gwmpas. Gweler y sgrinluniau uchod. Dw i’n derbyn na fydd modd cyhoeddi’r gwefan heb y logos a’r cydnabyddiaeth arferol, ond oes wir angen cael hanes y Geiriadur ar y tudalen chwilio?

Diolch i fy sgils gwallgo gyda ategyn Chrome, dw i wedi llwyddo troi hyn:

Gwefan Geiriadur Yr Academi

i hyn:

ac mae popeth yn iawn yn fy myd.

Wedi dweud hynny, mae’r tudalen yna yn cynnwys:

Mae’r gwaith o fireinio’r fersiwn ar-lein yn parhau, ac mae croeso i ddefnyddwyr yrru neges at post@byig-wlb.org.uk ynghylch y fersiwn hwn. Yr oedd y geiriadur print gwreiddiol yn eiriadur Saesneg i Gymraeg. Mae modd chwilio’r fersiwn ar-lein gyda rhyngwyneb Saesneg neu ryngwyneb Cymraeg.

Felly, fel dwedais i ar y top, dw i ddim yma i feirniadu’r Briws, dim ond i ganmol y gwaith sy wedi ei wneud eisioes, ac i ddynodi rhai o’r newidiadau byddwn i’n eu wneud, pe bawn i’n frenin, ym lle dim ond yn dywysoges. Fel y mae, a chyda’r mân newidiadau dw i wedi wneud trwy fy mhorwr, mae e wedi newid y ffordd dw i’n sgwennu ar y cyfrifiadur.

Llongyfarchiadau i bawb ar y brosiect.

* “frippery” – gair gwych yn y ddwy iaith!

CCofnoda dy blydi Sylw!

AAAAAArrrrrgh! Mae hyn yn hala fi’n grac tu hwnt. Dw i’n siwr ei fod e’n hawdd iawn ei drwshio fe, ond dw i’n methu’n llwyr, a dw i wedi bod ati am rhyw awr y bore ‘ma.

Mae ‘na wall bach yng nghyfieithiad Cymraeg WordPress, sy’n achosi hyn, ar y ffurflen hala sylwadau:

Dw i’n gallu ffeindio’r gwall yn y ffeil cy.mo, ar lein 887:

..ond dw i’n methu golygu’r ffeil .mo heb ei dorri.

Dw i’n gallu golygu’r ffeil cy.po, ond yn hwnna, dw i’n methu ffeindio’r gwall.

Oes ‘na feistr Jedi ma’s yna gyda 5 munud i sbâr?

Mynwenta Morfablog

Dw i’n dal ati, mynd trwy archif Morfablog, tacluso teitlau cofnodion a gafodd eu stwnsho blynyddoedd yn ôl wrth fewnforio cynnwys y blog i WordPress, ac yn y blaen, ac yn y blaen.

Braidd yn siomedig gweld cynlleiad o gynnwys y we o’r flwyddyn 2001 sy dal yn bodoli, neu’n hytrach, sy dal yn bodoli yn yr un lle. Er bod rhai, fel y BBC, y Guardian, a’r Register wedi bod yn ofalus i gadw eu cynnwys o dan yr un URLiau, mae llawer iawn gormod o sefydliadau sy ddim yn poeni iot am hyn.

(Dw i’n byw mewn tŷ gwydr fan hyn, wrth gwrs, gan fy mod i wedi symud o Blogger i Movable Type i WordPress, a newid cyfeiriadau cofnodion yma o leia tair gwaith wrth wneud.)

Un peth dw i’n dysgu wrth wneud y gwaith yma, yw pa mor bwysig yw e i gynnwys dyfyniadau mewn cofnodion blog. Yn aml iawn, byddwn i’n dod ar draws cofnod fel hyn, gweld bod un o’r dolenni naill ai wedi marw neu wedi’i thorri, a chan mod i ddim wedi dyfynnu dim byd, mae’n amhosibl ffeindio’r cynnwys eto. Yn yr achos hwn, roedd e’n lwcus mod i wedi cynnwys y linc i’r stori yn y Register, ac eu bod nhwthau wedi dyfynnu geiriau Rhodri Morgan; dim ond wedyn oedd yn bosibl i ffeindio y datganiad i’r wasg yn ei hafan newydd.

Felly, nodyn i fy hun, dyfynna wrth flogio, ychan.

Arbrofi ag #adolygiad

(Ypdêt 16/08/11: mae adolygiad.com bellach yn fyw. Tagiwch eich twîts ag #adolygiad i chwarae gyda ni.)

Rhywbryd yn gynharach yr wythnos ’ma, wnaeth Seimon Brooks ddechrau postio adolygiadau sydyn o dai bwyta ac ati i’w ffrwd Twitter, ac yn defnyddio’r hashtag #adolygiad arnynt.

Mae wythnos yn amser hir ar Twitter. Yn fuan iawn, wnaeth y Twitfyd Cymraeg ddechrau efelychau syniad Seimon, ac mae’r hashtag eisioes wedi ennill ei le yn y pantheon o dagiau defnyddiol.

Wedyn, y prynhawn ’ma, dyna sgwrs bach yn arwain at hyn:

@ @ @ Sa'n wych sa na rywle i archifo adolygiadau Cymraeg - bwyd, diodydd, llyfau etc - hashtag #adolygiad
@SeimonBrooks
Simon Brooks

…ond aeth ymlaen i ddweud

@ @ @ Ond basa rhaid i un ohonoch chi drefnu'r ochr dechnegol - dwi'n deall fawr ddim amdani #adolygiad
@SeimonBrooks
Simon Brooks

Os dw i’n deall Seimon yn iawn, beth sy gyda fe mewn meddwl yw rhywle sy’n casglu pob twît sy’n defnyddio’r tag #adolygiad, er mwyn creu archif chwiliadwy o adolygiadau sydyn. Gwendid Twitter yw er bod pob neges yn cael ei harchifo, nid yw’n hawdd dod ar draws hen stwff.

Yn dangos fy niffyg dealltwriaeth llwyr o bethau technegol, dwedais i:

@ @ Debyg bod 'na ffordd o wneud "blog awtomatig" ma's o ffrwd RSS hashtag - bydde @ yn gwybod
@nicdafis
Nic Dafis

Dylwn i fod wedi gadael i Carl ateb hwnna, cyn i mi ruthro mewn fel ffŵl ac ychwanegu

… sy ddim hyd yn oed yn wneud synnwyr. Yn anffodus, wnaeth Seimon ddeall beth o’n i’n meddwl, ac wedi derbyn fy nghynnig.

Felly, fel y gwelwch chi yn y cofnod hwn, dw i wedi llwyddo ffeindio ategyn WordPress sy’n gadael i rhywun cynnwys twît “brodorol” mewn cofnod blog, ond dw i’n methu’n llwyr (hyd yn hyn) dod ar draws ffordd o awtomeiddio’r broses. Dw i ddim hyd yn oed yn siwr a fyddai’n syniad da i adael i’r peth fod yn hollol awtomatig: byddai hynny’n gadael y peth ar agor i sbamwyr a phob math o abiws.

Amser swper. Beth dych chi’n feddwl? Oes modd wneud hyn yn awtomatig?

Ffugio Trydar y Blaid

Des i i wybod trwy Hedd Gwynfor ddoe bod rhywun “wedi hijacio” cyfrif Twitter Plaid Cymru. Ond nid cyfrif swyddogol y Blaid yw’r un mae Hedd yn sôn amdano.

@plaid_cymru – swyddogol

@PlaidCymru – “dychanol”

Dw i ddim yn gwybod pwy sydd tu ôl i’r cyfrif ffug, os taw dyna beth yw e, ond mae’n edrych i fi fel bod rhywun yn chwarae gêm hir iawn. Ac mae wedi bod yn llwyddiannus, chwarae teg. Mae gan y cyfrif ffug 1,300 o ddilynwyr; ddim cymaint â chyfrif swyddogol y Blaid (2,200) ond digon i’w wneud yn edrych yn kosher. Tan y cynladledd diweddar, doedd dim byd yn cael ei bostio ar y cyfrif ond pethau wedi’u awtomeiddio o ffrwdd RSS, ond yn sydyn, wnaeth y cyfrif ddechrau postio ypdêts llawer mwy diddorol.

Fel y gwelwch chi uchod, mae’r cyfrif yn disgrifio ei hunan fel “100% unofficial”, ond am wn i does neb yn gwybod pwy sydd tu ôl iddo fe. Mae’r usual suspect wedi gwadu taw ei waith yw e, ac dydy hwnna byth wedi dweud celwydd yn ei fyw.

Ond o leia mae Taylor yn gwybod taw “spoof account” yw e, sy mwy na lot o aelodau Plaid Cymru. Ymysg y dilynwyr mae sawl aelod amlwg o’r Blaid, gan gynnwys Elin Jones… ac, ym… yr Elin Jones arall!

Curiouser and curiouser…

Dim amser sgwennu mwy nawr, ond bydd yn ddiddorol gweld sut mae hyn yn datblygu.


[Y bore wedyn. Y rheswm dw i’n dweud “dychanol” mewn dyfyniadau uchod, yw bod y cyfrif yn amlwg wedi’i greu i dwyllo dilwynwyr Plaid Cymru, nid dim ond dychanu’r Blaid. Mae rhywun yn y sylwadau (a phobl ar Twitter ddoe) yn gofyn a yw hyn yn anghyfreithlon: nac ydy, diolch byth. Ond fel mae Carl yn dweud, mae’n bendant ei fod e’n torri telerau cyfrifau parodi Twitter:

  • Username: The username should not be the exact name of the subject of the parody, commentary, or fandom; to make it clearer, you should distinguish the account with a qualifier such as “not,” “fake,” or “fan.”
  • Name: The profile name should not list the exact name of the subject without some other distinguishing word, such as “not,” “fake,” or “fan.”
  • Bio: The bio should include a statement to distinguish it from the real identity, such as “This is a parody,” “This is a fan page,” “Parody Account,” “Fan Account,” “Role-playing Account,” or “This is not affiliated with…”
  • Communication with other users: The account should not, through private or public communication with other users, try to deceive or mislead others about your identity. For example, if operating a fan account, do not direct message other users implying you are the actual subject (i.e., person, band, sports team, etc.) of the fan account.

Mae’r cyfrif ffug yn torri bob un o’r rheolau yna, er gwaethaf yr “100% Unofficial”. Mae hyn oll yn gwynto mor gryf o NatWatch, dw i’n mynd braidd yn hiraethus.

Fel mae’r canllawiau yma yn ei wneud yn glir taw dim ond y “person” sy’n cael ei ddynwared, neu rhywun sy’n cynrychioli’r person hwnnw’n gyfreithiol, sydd â’r gallu cwyno i Twitter a chael gwared o’r cyfrif dychan. Felly, peidiwch gwastraffu amser sgwennu at Twitter, sgwennwch at y bobl ym Mhlaid Cymru sydd yn gallu wneud rhywbeth amdano.

Hwyl fawr Delicious, croeso mawr i Pinboard

Ar yr un diwrnod i mi ail-osod y teclyn sy’n postio fy nolenni Delicious fel un blogiad, mae Yahoo yn datgan bod Delicious yn mynd i farw.

Diolch i’r trafodaeth ar Metafilter, dw i wedi ffeindio Pinboard, gwasanaeth sy’n wneud mwy neu lai’r un peth ag oedd Delicious yn ei wneud, ond gyda llawer llai o “cruft”.

Mae rhaid talu i gofrestru ar Pinboard, felly mae sbam yn llai o broblem iddyn nhw hefyd. Mae’r pris cofrestru yn mynd i fyny wrth i fwyfwy o bobl ymuno, sy’n syniad diddorol iawn. Talais i ryw $7.50, os dw i’n cofio’n iawn; llai na £5, ta beth.

Os wyt ti’n defnyddio Delicious, mae’n werth meddwl am allforio dy nodiadau o fan’na, hyd yn oed os dwyt ti ddim am symud nhw i rywle arall. Dyw e ddim yn debyg y bydd Yahoo yn dileu cynnwys y safle yn syth, heb roi digon o rybudd, ond ar ôl beth ddigwyddodd i GeoCities, synnwn i ddim os na fydd Yahoo yn dileu cynnwys Delicious yn y pen draw.

Mae’r “blog-bach-ar-yr-ochr” bellach yn cael ei bweru gan Pinboard a’r ategyn WordPress. Mae’n ddigon hawdd mewnforio nodiadau Delicious mewn i sustem Pinboard, ond mae’n bach yn araf ar hyn o brud – cymerodd rhyw 7 awr (dros nos) i fi.

Beth yw blog?

Ro’n i’n gwenu wrth ddarllen hyn gan Ifan Morgan Jones yn ddiweddar:

Mae [Morfablog] wedi tawelu dros y blynyddoedd a bellach yn debycach i ffeil ble all yr awdur Nic Dafis gadw pethau y mae o’n taro ar eu traws wrth bori’r we.

Fel rhyw fath o “log” o’r “web”, felly. Drueni bod dim gair taclus i ddisgrifio rhywbeth fel ’na.

Mae Ifan hefyd yn dweud “byddai’n rhaid cau’r blog yma i lawr cyn ei bod hi’n gadael fy 10 uchaf i”, sy’n garedig dros ben, ond dyw e ddim yn ysgogiad arbennig o dda i flogiwr mor ddiog â fi. Dw i’n ddiolchgar am y geiriau caredig, ond dw i ddim yn gweld blogio fel cystadleuaeth, a’r peth ola dw i moyn yw i fod rhyw fath o “elder statesman” o’r we Gymraeg, sy’n cael ei gynnwys mewn pethau fel hyn yn otomatig, gan fod yr archif mor ddwfn, a thrwy rhyw wyrth dw i dal yn gallu cofio sut i bostio blogiad bob hyn a hyn.

Wedi dweud hynny, dw i’n edrych ar ffyrdd o bostio cofnod otomatig i fy nolenni beunyddiol Delicious (sy hyd yn hyn yn ymddangos yn yr adran “Pigion” ar y dde), yn y gobaith y bydd o leia rhywbeth yma i bobl i ddarllen. Does dim lot o bwynt cadw’r blog ar agor fel arall, ond am resymau hiraethus.

Llun Llangrannog a’r Comins Creadigol

Rhag ofn eich bod chi wedi colli’r ddolen iddo reit lawr ar waelod y blog, dyma’r llun o draeth Llangrannog sy bellach yn addurno’r hen flog, yn ei lawn ogoniant:

The annual Llangrannog beachorama / traethorama 2007

Mae’r llun gan papalamour, hen gyswllt i fi ar Flickr – mor hen, dw i ddim yn cofio’n iawn sut des i ar draws ei ffrwd, ond debyg taw trwy’i luniau gwych o Langrannog des i i nabod ei waith. Diolch iddo fe am gyhoeddi ei luniau dan drwydded Comins Creadigol, sy’n golygu bod unrhywun yn gallu eu hail-ddefynddio, ac hyd yn oed eu hail-ficsio nhw, cyhyd ag y rhoddir cydnabyddiaeth i waith gwreiddiol papalamour, a ddim yn wneud arian ma’s o’r gwaith newydd.

Tra bod ni ar y pwnc, mae Carl Morris wedi bod yn meddwl yn uchel am hawlfraint yn diweddar, ac yn y bôn dw i’n cytuno â fe. Wedi dweud hynny, dw i ddim yn cytuno bod angen sustem hawlfraint newydd i Gymru, a ddim yn gweld sut byddai hynny’n gweithio tra bod Cymru a Lloegr yn rhannu cyfundrefn cyfreithiol yn gyffredinol. Pan daw’r chwyldro gogoneddus, wrth gwrs, bydd popeth yn wahanol, ond tan hynny dylai fod yn ddigon i hybu defnydd o’r Comins Creadigol mor eang ag sy’n bosibl, yng Nghymru fel yng ngweddill y byd.

Blogsbam cyntaf yn yr heniaith

Newydd weld sylw sbamllyd ar hen flogiad sy wedi llwyddo dod trwy fy hidlau sbam gan ei fod yn Gymraeg. Dw i ddim cweit yn siwr beth yw ystyr

Ydych chi wedi bod yn twyllo wyneb i lawr

ond mae’n ddigon diddorol i gael aros yna.

Dw i’n gweld o Google bod martinbrooksdesk@gmail.com yn gwneud yr un peth ar flogiau mewn sawl iaith gwahanol, ond dydyn nhw ddim wedi gadael dolen i unrhyw wefan gyda’r sylw, felly dw i ddim yn siwr beth yw’r pwynt. Dw i’n gywbod mod i wedi dweud bod Google Translate yn mynd i newid y byd, ond do’n i ddim yn disgwyl hyn.

Ydy rhywun arall wedi cael hyn eto?

Pethau Bychain

Prin iawn bod chi ddim wedi clywed am hyn eto, ond mae’n ddiwrnod Pethau Bychain heddiw ’ma, ac mae’r rhithfro ar dân fel Ysgol Fomio Penyberth ers talwm. Yn anffodus, bydd rhaid i mi golli’r rhan fwya o’r miri wrth iddo ddigwydd, gan ein bod ni’n disgwyl ymwelwr arbennig yn y man, ond byddai’n trial dal i fyny nes ymlaen.

Dw i wedi dechrau blog bach ar yr ochr, sy jyst yn gasgliad (dyddiol? gawn ni weld) o gerddi dw i wedi dod ar eu traws ac yn hoffi am un rheswm neu’r llall.

Diwedd y Byd O’r Parsel Canol

Ddim yn siwr sut ydw i wedi colli hwn hyd yn hyn, ond mae’r blog O’r Parsel Canol yn edrych yn wych. Does dim amser ’da fi nawr i fynd trwy ei archif i gyd (dechreuwyd y blog ym mis Ebrill y llynedd) gan ein bod ni ar ein ffordd heddi i dreulio wythnos wlyb mewn pabell yn sir Faesyfed (syniad da ar y pryd). Ro’n i’n ddiolchgar iawn i weld bod Gwenddolen wedi postio manylion sioe Troedyrhiw Diwedd y Byd; gwelon ni hwn neithiwr yng Nghapel Crannog, ac roedd e’n fendigedig. Os cewch chi gyfle i weld un o’r perfformiadau sydd ar ôl, ewch, da chi.

Nos Sul, 11 Gorffennaf (7.30) – Capel Bethesda, Llanwrtyd, Sir Frycheiniog
Nos Fawrth, 13 Gorffennaf (8.00) – Yr Hen Gapel, Llanuwchllyn, Gwynedd
Nos Fercher, 14 Gorffennaf (7.30) – Capel Siloam, Cwmystwyth, Ceredigion
Nos Iau, 15 Gorffennaf (8.00) – Capel Trelech, Sir Gaerfyrddin
Nos Fercher, 28 Gorffennaf (7.30) – Capel Seion, Crymych, Sir Benfro

Pob tocyn: £4.00

Gan ein bod ni’n mynd i Bowys nawr, dw i’n meddwl am fynychu’r perfformiad nos Sul yn Llanwrtyd, er ei fod yn clasho gyda rownd derfynol Cwpan y Byd. Naill ai hwnna, neu’r un nos Fercher yng Nghwmystwyth. Yn bendant, mae’n rhywbeth sy’n werth ei weld mwy nag unwaith, os cewch chi gyfle.

Reit, bant â ni!

Daytum

Daytum - Cwrw yr Wythnos Hon

Wedi cofrestru ar Daytum, safle digon syml sy’n gadael i ddyn gasglu gwybodaeth am bethau pwysig ei fywyd, fel faint o gwrw mae’n yfed mewn wythnos, ac yn fwy pwysig byth, faint o gwrwau gwahanol mae’n llyncu.

Erbyn i chi ddarllen hwn, bydd y data uchod wedi newid, gan fod un botel Wainwright ar ôl ’da fi lawr stâr.

17 peint mewn wythnos. Lightweight.

Canllawiau Twpsynod a Blogiau Newydd

The Cadw Swn guide to speaking Welsh painlessly and easily.

Idiots’ Guide

I’ve met a few idiots who speak Cymraeg. Some even mutate in the right places and conjugate their prepositions. They wouldn’t know
a preposition if you covered it in lard and pushed it through their letterbox. You’re obviously not an idiot, but here’s a guide anyway:

  1. Start a statement with a verb, unless you want to emphasise
    something.
  2. Get your tenses right. God forbid, if necessary learn them! No, really; it works. Get them absolutely right. Every time. You’ve got a piece of paper with them all on somewhere. It’s blue, and there’s not a huge amount on it. It’ll take you two days maximum.
  3. Don’t bother with Yes and No unless you want to become a gibbering wreck. Just throw in the odd ‘Oes’ whenever it seems right. Otherwise please use IE and NA. Pretty please.
  4. Don’t get tied up with mutations. You know how to mutate, but you’re not certain when. The simple fact is that if you worry about it you will mutate in the wrong places. Just forget it, and you will naturally speak as everyone else does. Which may not always be 100% correct, by the way.
  5. If you don’t know how to say something, don’t. Say something else. Or nothing. Because the moment you turn to English the spell is broken. They just won’t speak to you in Cymraeg again. That’s how their minds work.
  6. Obviously, if you don’t know the word for something use the English, but don’t say ‘I can’t say this in Welsh so I’ll say it in English.’ Unless you’re a doctor.

Chwarddais i, do, yn uchel. Dw i’n lico’r agwedd, mae’r awgrymiadau i gyd yn wneud sens i fi, a dw i’n hoff iawn o’r ffordd mae Colin Jones yn siarad ar y clipiau sain; mae’n fel cael Wncl Bryn Gavin and Stacey yn dweud stori fin nos i chi.

Mae’n braf gweld cymaint o amrywiaeth yn y deunydd dysgu sy’n ymddangos arlein yn diweddar. Er mod i dal yn credu taw mewn dosbarth mae’r rhan fwya yn dysgu’n well, mae cyrsiau fel Cadw Swn a Say Something in Welsh yn ymestyn i farchnad newydd, ac yn denu mwy o bobl at y Gymraeg mewn ffordd cyrhaeddadwy i bawb.

Fel bydd y darllenwr cyson wedi dyfalu o’r tawelwch a fu ar yr henflog yn diweddar, dw i nôl ar dethau cysurus Azeroth, a felly bach ma’s o gyswllt â’r rhithfro. Ond mae fel petai blog newydd diddorol yn cael ei eni bob dydd ar hyn o bryd – heddi des i ar draws blog Siân Tir Du, un o’r cyfeillion oedd yn rhannu baich o gymedroli maes-e â fi. Mae mab Siân, Guto Dafydd, hefyd wedi dechrau blogio ers mis Tachwedd – tybed a fydd gweddill y teulu yn ymuno yn y man? Trefor bydd prifddinas y blogfyd os felly. Ac un arall gwelais i heddi ar dudalen flaen WordPress yw O Bell, blog Cymraeg gan Andy Bell, newyddiadur sy bellach yn byw yn Melbourne.

Ai dim ond fi yw e, neu ydyn ni mewn rhyw adeg ffrwythlon newydd o dyfiad yn y byd blogio Cymraeg? Oes rhai newydd eraill dw i wedi eu colli? Beth sy’n tanio eich darllenwyr RSS chithau ar hyn o bryd?

Gwefannau y Canolfannau

Dw i wedi cael cynnig bach o waith cynnal a chadw y gwybodaeth ar wefan Canolfan Cymraeg i Oedolion y Ganolbarth, sy’n hala i fi feddwl am strwythr darpariaeth Cymraeg i Oedolion, ac yn enwedig ei bresenoldeb ar y we.

Cafodd maes CiO ei ail-strwythro yn sylfaenol sawl blwyddyn yn ôl, pan sefydlwyd chwe chanolfan rhanbarthol sydd erbyn hyn yn gyfrifol am ddarparu dosbarthiadau. Mae Canolfan y Ganolbarth yn cyfro ardal eang iawn, ac yn contracto ma’s y darpariaeth; yng Ngheredigion, i Brifysgol Aberystwyth sy’n darparu cyrsiau dwys, Wlpanaidd, ac i Gyngor Sir Ceredigion sy’n wneud y cyrsiau unwaith-yr-wythnos. Mae’r Ganolfan hefyd â chyfrifoldeb dros Powys a Meirionydd, a sa i’n siwr pwy sy’n gyfrifiol am y dosbarthiadau yna. Mae’r sefyllfa yn rhannau eraill Cymru yn debyg, am wn i, gyda Chanolfannau yn gweithio mewn partneriaeth â darparwyr y dosbarthiadau, ac yn gyfrifol yn uniongyrchol am bethau fel marchnata cyrsiau ac hyfforddi staff.

Mae gan pob un o’r chwe Chanolfan ei gwefan ei hunan, sef (yn nhrefn eu pellder o Gaerdydd, natch):

Reit. Dyma fy mhwynt cyntaf. Heb edrych yn ôl at y rhestr uchod, dych chi’n gallu cofio un o’r URLiau? Dim ond un ohonyn nhw sy’n cynnwys enw y ganolfan, mae dau ohonyn nhw bron yn union yr un peth, un arall yn debyg iawn, a’r ddau ola yn byw mewn is-ffolder ar wefannau’r colegau sy’n rhoi llety i’r Canolfannau.

Pa mor anodd byddai prynu un parth a rhoi un cyfeiriad sy’n wneud synnwyr, ac sy’n hawdd i gofio, i bob Canolfan? Rhywbeth fel hyn:

Gwaith 5 munud oedd creu’r cyfeiriadau yna, ond dw i nawr yn gallu dweud wrthoch chi beth yw cyfeiriad gwe pob Canolfan Cymraeg i Oedolion trwy Cymru gyfan, a dyw e ddim wedi costio dim byd i’r Cynulliad.

Hei, croeso.

Pwynt dau. Gan fod pwrpas a chynnwys pob un o’r gwefanau yn debyg iawn i’w gilydd, pam oedd rhaid talu i ddatblygu chwe gwefan hollol newydd yn y lle cyntaf?

O’r gorau, mae ateb i hwnna tu hwnt i fi.

Hen Bysgodyn

Syndod i weld Morfablog mewn rhestr o 10 Blog “Amatur” Gorau ar wefan Golwg360. Ddim yn siwr beth dw i wedi wneud i haeddu’r fath sylw. Fel mae’r erthygl yn awgrymu, prif nodwedd Morfablog yn diweddar yw fy mod i’n sôn byth a beunydd am roi’r gorau i’r blogio yn gyfan gwbl.

Mae Carl yn tynnu sylw at y gair “amatur” yn y darn. Ond fel dwedais i yn mewn sylw ar yr un cofnod, mae’n fwriad gen i i beidio bod mor negyddol trwy’r amser, felly dw i am gofleidio’r anrhydedd â chalon agored, a dechrau gweithio ar strategaeth i adael i fi oddiweddyd Dogfael a Rhys erbyn Nadolig. Bydd pasio gîcs Metastwnsh yn hawdd wedyn. Byddan nhw i gyd yn rhy fishi chwarae gyda’r teclynnau newydd mae Siôn Corn wedi stwffio yn eu sanau i sylwi bod yr hen bysgodyn am godi eto.

Bwahaha!

Dal Dim Gair

Mae dros 6 blynedd ers i mi sgwennu cofnod yma a oedd yn dwyn y teitl Dim Gair Diolch. Cwyno o’n i yn y cofnod hwnna bod pobl yn tueddu anfon dogfennau MS Word fel atodiadau, heb feddwl a fyddai’r bobl oedd yn eu derbyn yn gallu eu hagor, ac heb boeni chwaith am yr amser sy’n cael ei wastraffu yn y broses. Soniais i yn 2003 am yr ymgyrch yn erbyn atodiadau MS Word; dw i’n falch o weld bod y wefan yna dal yn bodoli, ond prin iawn bod ei neges wedi lledu yn bell.

Ces i ebost neithiwr oedd yn cario atodiad 560KB Microsoft Word.

Am hwyl, ar ôl i mi lawrlytho’r peth, a’i agor yn Google docs, wnes i copi a gludo’r testun mewn i Textedit, i weld faint o wybodaeth defnyddiol oedd wedi’i gynnwys yn yr hanner megabeit yna.

4KB.

Continue reading

Bookmarkify

Newydd ychwanegu Bookmarkify, a gyda cryn dipyn o drafferth, wedi llwyddo ei gyfieithu, ac i’w gael yn y lle iawn. Wnaeth e gymryd rhyw awr i fi ffeindio’r ffeil cywir yn Thematic i’w olygu er mwyn ychwanegu’r teclyn ble dw i moyn e. Y pethau dyn ni’n wneud.

Mae’r teclyn yn dod â rhestr o dros 50 o safleoedd rhwydweithio cymunedol a bookmarcio ac ati; y rhan fwya ohonyn nhw dw i ddim wedi clywed amdanyn nhw o gwbl. Felly dw i ond wedi cynnwys saith hyd yn hyn, ac un sy’n gadael i chi hala linc mewn ebost yn hawdd (ddim bod copio a gludo linc o’r we mewn i ebost yn ormod i ddarllenwyr annwyl Morfablog, wrth gwrs).

Oes ’na wasanaethau dw i ddim wedi eu cynnwys, oherwydd fy niglem-rwydd, sy’n anhepgor i syrffwyr ymyl don gwaedlyd y we yn yr unfed ganrif ar hugain*? Oes ’na unrhywun sy’n darllen Morfablog sy’n ysu rhannu fy mherlau gyda darllenwyr Fark, er enghraifft? Fel y hwren yr ydwyf, dw i moyn wneud e mor hawdd ag sy’n bosibl i chi hybu fy mlog dros y we i gyd.

Oherwydd ei fod mor bwysig, dych chi’n gweld?

* Sori, ond pan dw i’n cymysgu fy metafforau, maen nhw’n aros yn gymysglyd.