About Nic Dafis

Morfablog yw blog personol Nic Dafis, sy'n ddigon hen i wybod yn well.

Tynnu lawr y ryc

[Golygwyd, 27 Mawrth 2011. Mae hyn yn rhagrith llwyr, ond dw i wedi golygu'r cofnod isod tamaid bach, er mwyn peidio defnyddio enw llawn y dyn, a chael gwared o'r linc uniongyrchol i'w flog. Gan fod y blogiad mewn cwestiwn wedi'i ddileu erbyn hyn (gweler y sylwadau isod), dw i ddim yn gweld pwynt hybu Googlerank y boi, a'i helpu gwerthu mwy o lyfrau. Cewch gyrraedd y blog, os oes diddordeb, trwy dilyn y linc i drydar gwreiddiol Guto, a ddaeth â'r peth at fy sylw yn y lle cyntaf. Mae enw cyntaf y dyn yn y cofnod yma o hyd, ac mae ei gyfenw yn yr URL o hyd, ond dw i ddim eisiau golygu hwnna.]


 

Er mor braf yw’r tywydd, dw i wedi treulio’r rhan fwya o’r dydd yma wrth y sgrîn, yn mynd trwy archifau Morfablog, ac yn eu twtio. Mae llawer iawn o gofnodion sy heb gategorïau, er enghraifft, o’r adeg wnes i fewnforio popeth o Moveable Type i WordPress.

Ces i fy nistracto, fel sawl un arall o drigolion y blogo- a Twitter-sffêr Cymraeg y prynhawn ’ma, gan drydar Guto Dafydd, ambytu sgwrs difyr rhwng Hefin (Jones?) a rhyw awdur Eingl-Gymreig. Dyma’r geiriau, a wnaeth sbarduno’r sgwrs:

Now I have great admiration for our Welsh literary heritage and creative output, but what I cannot stand is the Welsh language itself. It is pure and utter nonsense at the best of times.

That may sound shocking considering I’m a Welsh author, but cards on the table, this particular form of communication sounds like a turkey being strangled and should, like the Dodo, have been confined to the history books years ago.

Constantly having this gobbledygook rammed down my throat is too much. It’s made me miss my train on more than a few occasions I can tell you.

Do, yr oedd Julian, druan, wedi colli ei drên bwyddiwrnod, ond am unwaith nid ar Arriva oedd y bai, ond ar yr iaith Gymraeg ei hunan. Dyw e ddim yn glir (hyd yn hyn!) sut mae’r iaith wedi llwyddo atal y best selling author rhag gyrraedd y trên yng Nghaerdydd, ond mae’n debyg nid hwnna oedd y tro cyntaf iddo cael ei drysu gan y basdad peth.

Fel mae Julian yn dweud, mae dim ond 20% o bobl Cymru yn defnyddio’r iaith ddi-werth yma, ac mae’n amlwg i bawb bod y boblach yna jyst yn esgus ei siarad ta beth. Y peth gorau yw i bob un ohonyn nhw — rhyw 600,000 o bobl, os mae fy syms yn iawn — symud i Batagonia neu rywle a mynd â’u hiaith goblidigŵcaidd gyda nhw. Wedyn fyddai Julian yn gallu teithio mewn hedd, heb gael ei hymbygo gan cytseiniaid amhersain iaith y Celt.

It’s the least we can do, Julian. It’s your country, after all.

Suren y Coed

Suran y Coed

Diwrnod bendigedig eto; mae bob dydd yn well na’r un blaenorol ar hyn o bryd. Cerddais i adre trwy’r coed yng Nghwmhawen Fach y bore ’ma, a gweld y planhigyn hyfryd uchod am y tro cyntaf eleni.

Suren y Coed yw e, Wood Sorrel yn Saesneg. Roedd fy nhad yn arfer ei alw yn salt ‘n’ vinegar, oherwydd blas sur ei ddail, ac mae’n bosibl taw hwn yw’r bwyd gwyllt cyntaf i fi ei flasu.

Plethu Amser

Tridiau mewn i “fis ola” Morfablog, ac mae rhaid i fi lawrlwytho gêm newydd sy’n bwyta amser.

Ei fwyta fe, ei blethu, troi fe nôl, wneud iddo redeg mewn dau gyfeiriad yr un “pryd”, ac yn fy ngadael yn gegrwth.

Mae ar gael ar Steam i’r Mac a’r PC, neu i’r Xbox, am ryw £8. Beth bynnag ti’n wneud, paid edrych ar gliwiau i’r gêm fach arbennig; am unwaith mae spoilers wedi’u henwau yn iawn.

Mae gofod yn ddwfn

(Oddi wrth d’ewythr Dyl Mei.)

Wnaeth rhywun sylwi taw’r unig dro mae’r Athro Brian Cox yn edrych fel dyn 42 oed normal, yw pan mae e mewn peiriant disgyrchiant, a dan 5G o bwysau? Dorian Gray byd ffiseg, neu be?


“Brian Cox”, ddoe.


Llun ffeindiwyd ddoe mewn cwpwrdd yn CERN.

Dw i wrth fy modd gyda Cox a’i raglenni, a dw i ddim yn meddwl am eiliad ei fod e’n cymryd ei hunan mor o ddifri ag mae rhai eraill yn esgus wneud. Fel rhywun gyda chefndir yn y byd MTVaidd o ganu pop y 90au, dw i’n siwr ei fod e’n gwybod yn iawn pa mor chwerthinllyd mae’n edrych, cerdded yn slo-mo, heb edrych dros ei ysgwydd, wrth i hen garchar ffrwydro tu ôl iddo fe.

Roedd e’n hurt, ac roedd e’n berffaith.

Wrth gwrs, mae’n bosibl bod esboniad arall am wên llydan Brian: mae’r boi off ei dethau.

So Carlo’n bodio

Hitchhiker.jpg

Fe fues i ar y radio heddiw; do, ar Taro’r Post. Fi oedd y filler, yr eitem “Ac yn ola…”, yn llenwi’r pwt bach rhwng y ddadl ffyrnig ynglŷn ag enw newydd cynyrch Hufenfa De Arfon a Newyddion Un.

Fel arfer, fyddwn i ddim wedi cytuno bod ar y rhaglen. Dim byd yn erbyn y rhaglen ei hunan, dim ond mod i ddim yn hoffi clywed fy hunan ar y radio. Dw i wastad yn meddwl mod i’n swnio fel Hwntwr sy’n trial yn galed i beidio dynwared Gog, neu efallai fel Gog sy ddim eisiau swnio fel Cardi, neu rhyw gyfuniad o bob posibiliad yna.

Smo fi’n leicio fo, ’na beth dw i’n treial gwêd, ‘sti?

Ta waeth, pan ges i’r galwad y bore ’ma, oedd y cwestiwn “fasech chi’n fodlon siarad am dy brofiadau bodio/hitch-heico?” mor annisgwyl, ro’n i wedi cytuno cyn i fi gofio mod i ddim yn leico bod ar y radio.

Ro’n i ar ddeall byddai criw bach o bobl ar y lein i drafod bodio, ond na, fi wrth fy hunan diflas bach, treial meddwl am hanesion diddorol o’m hamser fel Prif-Fodiwr Ffordd Blaenau’r Cymoedd (1987 i 1992), cyn i ferch o’r Llyfrgell Genedlaethol ddod arno i siarad am Islwyn Roberts, Llanbedr, boi wnaeth lwcdeithio o gwmpas y byd, am sbort. Roedd e’n rhoi fy stori i am ba mor anodd oedd e cael lifft ma’s o Gaerdydd ar Gyffordd 32 mewn rhyw fath o berspectif. (Am fwy o berspectif, dyma boi o Ffindir sy’n byw heb arian, ac yn bodio ei ffordd trwy Ewrop.)

Ta waeth. Un o’r cwestiynau gofynnodd Dylan i fi oedd ambyti “profiadau annifyr”, ac oedd rhaid i mi ei siomi, gan mod i ddim erioed wedi cael y fath brofiad ar wahan i un boi meddw ar yr M4. Roedd hwnna eisiau i mi ddarllen un o’r cylchgronau arbennig oedd ’da fe yn y blwch menig, ac i “ymlacio”. Ro’n i wedi gweld Two Lane Blacktop digon o weithiau i wybod ble oedd hynny am fynd. Ond hyd yn oed wedyn, i gyd wnaeth y boi oedd pwdu tipyn bach pan ofynnais i iddo fy ngadael wrth ymyl y ffordd ger Swindon yn lle mynd “yr holl ffordd” i Gaerdydd gyda fe.

Fel dwedais i ar y rhaglen, dim ond profiadau braf dw i wedi cael wrth fodio, oherwydd mai dim ond pobl neis sy’n rhoi lifftiau i fodwyr. Ar wahan i ambell hilgi o yrrwr lori, does ’na un person sy wedi rhoi lifft i fi yn yr 25 mlynedd dw i wedi bod wrthi na fyddwn i’n fodlon mynd am beint gyda nhw.

Beth na ddwedais i, ond dylwn i fod wedi, yw bod yr unig bobl gas ti’n debyg i ddod ar eu traws wrth i chi fodio unrhywle ym Mhrydain yw’r cociau dryw sy’n codi eu bodiau nhwthau atat ti wrth gyrru heibio dan chwerthin. Byddai hyn yn digwydd o leia unwaith bob hanner awr o aros, ble bynnag fues i. Ond hyd yn oed wedyn, doedd hyn ddim yn fy hala fi’n grac. Does dim cylchdro glawiog yn y byd sy’n fwy diflas na gorfod rhannu car gyda rhywun â’r lefel ’na o hiwmor, felly o’n i bob tro yn diolch iddyn nhw am beidio stopio.

Ond wnes i ddim dweud hynny. Wnes i ddim hyd yn oed meddwl amdano, tan pum mumud ar ôl i fi ddod off y ffôn. Dyna rheswm arall dw i ddim yn rhy hoff o fod ar y radio. Dw i wastad yn meddwl am y pethau dylwn i fod wedi eu dweud pan mae’n rhy hwyr.

Lwcus bod blog ’da fi.

Oes ’na fodwyr, neu gyn-fodwyr, eraill ma’s fan’na? Rhywun sy wedi cael un o brofiadau annifyr bondigrybwyll yna?

Mis #120

Gallu beth?

Ers sgwennu’r cofnod isod, dw i wedi bod yn meddwl rhagor am y blog, fy rhesymau dros ei ddechrau (i wellau fy Nghymraeg, yn bennaf), a’m perthynas â’r iaith yn gyffredinol.

Buon ni mewn noson dathlu penblwydd John Evans Caffi’r Emlyn bwynoson, a wnes i sylweddoli mod i’n dal yn Ddysgwr, gyda D mawr, i’r llawer o’r Cymry lleol, ac eu bod nhw yn llygaid eu llefydd, hefyd. Dw i’n hoff iawn o ddweud wrth y dysgwyr yn fy nosbarthiadfau i bod rhaid iddyn nhw gymryd cyfrifoldeb am eu defnydd iaith a pheidio disgwyl i bobl iaith gyntaf arafu ar eu cyfer, ond nos Sadwrn ffeindiais i fy hunan yn gofyn troeon i bobl ail-ddweud pethau. Dim ond hyn a hyn o weithiau mae rhywun yn gallu wneud hynny cyn penderfynnu taw esgus deall yw’r peth gorau, a gwisgo “wyneb arbennig y dysgwr”, chwedl Jac Ackroyd yn Golwg ers talwm.

Pan dw i’n gwrando ar rywun heb ddeall gair, dw i’n defnyddio fy wyneb “arbennig” sy’n mynegi pob emosiwn ar yr un pryd ac sy’n golygu popeth i bawb. Wedi’r cwbl, pan dych chi ddim yn siwr os ydi’r person sy’n cael ei drafod wedi:
a) marw,
b) ennill y pŵls,
c) rhedeg i ffwrdd gyda dyn y llaeth,
ch) cael ei restio,
y mae’n bwysig bod eich wyneb yn dangos cydymdeimlad, llawenydd, arswyd, diddordeb, sioc a dealltwriaeth – i gyd ar yr un pryd, rhag ofn.

Neu’n yng ngeiriau twtiach Dave Datblygu:

[Dwi'n] chwerthin pan mae pawb arall yn.

Dw i’n sylwi hefyd, mod i wedi bod yn postio mwy yn yr iaith fain ar Facebook yn diweddar, a bod hyd yn oed fy nyddiadur bach du wedi troi o fod bron yn uniaith Gymraeg i fod bron yn uniaith Saesneg. Ers i mi ddarganfod discogs, a thrwy hynny ail-ddarganfod fy nghasgliad feinyl, yr unig beth dw i wedi darllen yn Gymraeg yw cefnau cloriau Tony ac Aloma. Er mor ddifyr yw’r rheiny, dyn nhw ddim yn fy helpu deall jôcs Arwel Jones.

Mae yn union mis i fynd cyn i Morfablog gyrraedd ei benblwydd yn ddeg oed. Felly, am y mis nesa, bydda i’n ceisio postio rhywbeth yma bob dydd, fel oeddwn i’n arfer wneud. Os dw i’n ffeindio bod hynny’n amhosibl, am beth bynnag rheswm, bydda i’n rhoi’r ffidl yn y to i’r blogio yn gyfan gwbl.

Morfa Bychan

Sdim llawer o eiriau ’da fi ar hyn o bryd, ond dw i’n twlu fy nolenni at ei gilydd fan hyn, os oes diddordeb. Yn fwy na dim, oedd angen rhywle i roi stwff er mwyn peidio sbamio Facebook gormod.


[Gol. 18/4/11] Ddim yn siwr os bydd hyn yn gweithio, ond os chi’n darllen hwn yn Google Reader neu rywbeth tebyg, mae’n bosibl taw hwn yw’r cofnod diwetha i chi’n ei weld yna. Dw i ddim wedi rhoi’r ffidl yn y to, ond dw i wedi llwyddo torri y ffrwd RSS ar y blog. Mae cofnod newydd sy’n esbonio pethau, hyd y gallwn i.

Sero

Eira'r Eglwys

Dod adre o gyfarfod staff neithiwr, a thrafod sustem gwres ein cyd-diwtor a rhoddwr-lifft, Richard Vale, sef “pwmp gwres o’r awyr”, rhywbeth do’n i ddim wedi clywed amdano o’r blaen.

Yn y bôn, mae’n gweithio fel oergell, ond y ffordd arall rownd; mae’n tynnu gwres o’r awyr tu allan, ac yn ei ail-ddosbarthu yn y tŷ. Yn ôl Richard, mae’r sustem yn gweithio mewn tymheredd mor isel â -15° Celsius. Hynny yw, yn y tywydd oer ofnadwy cawson ni adeg y Dolig, roedd sustem Richard yn twymo ei dŷ gan dynnu gwres o’r awyr tu allan – awyr oedd yn oerach na’r awyr wedi bod yng Nghymru ers meityn.

Nawr, ro’n i wedi blino ar ôl holl gyffro’r cyfarfod staff, wrth reswm, felly do’n i ddim yn dweud beth oedd yn fy meddwl, rhag ofn mod i’n swnio’n dwp: sut yn y byd mae rhywbeth yn gallu sugno gwres ma’s o awyr sy 15 gradd o dan y rhewbwynt?

A dim ond y bore ’ma ydw i’n sylweddoli pa mor dwp fyddai’r cwestiwn yna. Dydy’r ffaith bod dŵr yn rhewi ddim yn golygu bod dim gwres yn yr awyr, dim ond bod dim digon i gadw dŵr mewn ffurf hylifol. Yn fy meddwl bach i, mae “minws pymtheg gradd” yn golygu un deg pump gradd o oerfel, yn hytrach nag 258 gradd o wres.

Felly, yn hytrach nag edrych yn dwp o flaen Richard a Philippa, dw i wedi sgwennu blogiad amdano. Lwcus bod dim sut peth â thwpdra absoliwt.

Ar Goll

Fforest Ffwng

Gan mod i ddim yn chwarae pocyr yn y dafarn ar hyn o bryd, naci’n yfed chwaith, dw i yn fy ngwely cyn tri o’r gloch nos Fercher, sy’n anarferol. Fel canlyniad, dw i’n cael gweld bore dydd Iau, ac yn cerdded gyda Philippa i’r bws (dw i ddim yn gweithio ddydd Iau, oni bai am ddosbarth nos nes ymlaen). Y bore ’ma, roedd popeth mor anhygoel o hardd, dan ei flanced o rew crisial, a’r lleuad llawn yn suddo yn euraidd dros y caeau, a phob dim yn dawel, roedd yn anodd poeni am ddim byd. Ar goll. Meddwl am eiriau Annie Dillard ar gerdded yn y bore:

…and my left foot says Glory and my right foot says Amen

Mae’r hen fyd ’ma mor anhygoel, a ni yw’r mynciod mwya lwcus arno fe.

Cwrwydro – Y Llong, Llangrannog

Y Ship, Llangrannog

Y Llong / The Ship,
Llangrannog,
Ceredigion, SA44 6SL
01239 654510
GoogleMap | Facebook | Twitter | Tumblog

(Blogiad wedi’i addasu o fan hyn.)

Fy local arall, er mod i ddim yn mynychu’r Llong cweit mor aml ag ydw i’r Pentre. Ers i’r dafarn gael ei phrynu gan deulu o Gymry â gwreiddiau dwfn yn Llangrannog, mae’r hen Ship wedi ennill enw i’w hunan fel y dafarn fwya Cymraeg yn yr ardal, yn ogystal â bod â bwydlen wych a dewis eang o gwrwau bendigedig. A gwin, sbo.

Mae o leia tri chwrw ar gael fel arfer, gyda’r pwyslais yn diweddar ar gynnyrch bragdy y Mŵs Piws.

Mae grwp CYD Llangrannog yn cwrdd yn y Llong ar y nos Fercher gyntaf a’r tryddedd bob mis, o hanner awr wedi saith ymlaen.

(Diolch i Rhys am y llun uchod, ac am y trwydded Comins Creadigol sydd arno. Methu credu bod dim llun deca ’da fi fy hun o’r hen Ship.)

Cwrwydro – Pentre Arms, Llangrannog

Jude a Chris, Pentre Arms, Chwefror 2007

Pentre Arms,
Llangrannog,
Ceredigion, SA44 6SP
01239 654345
pentrearms.co.uk
GoogleMap

Dw i siwr o fod wedi cael mwy o beintiau yn y dafarn fach hyfryd yma nag mewn unrhyw dafarn arall yn y byd. Fy local ers 1997, dyma un o’r rhesymau ro’n i am symud o Gaerdydd i Langrannog yn y lle cyntaf, ar ôl i mi ddod yma yn ystod adeg o wirfoddoli ar dyddyn organig lleol.

Mae gyda’r dafarn hanes hir o fod yn ganolfan i feirdd. Na, nid yr un mae’r Saeson wedi clywed amdano (er taw hwnna yw’r unig un gyda phlac yn ei enw ar y wal tu allan) ond beirdd Cymraeg o fri, sef Bois y Cilie a’u dilynwyr, gan gynnwys y prifeirdd T.Llew Jones a Dic Jones.

Yn ôl y Good Beer Guide mae’r dafarn yn arguably Ceredigion’s finest seaside village, ond mae’n anodd credu byddai unrhyw un yn dadlau gyda hynny.

Y cwrw arferol yw Tribute o Gernyw, ac mae un cwrw gwestai ar gael fel arfer. Ar hyn o bryd, Seafarers yw hwnna.

Creu Lle ar y We i’r Iaith

(“Dwi’n gwneud addewid i greu un peth bach ar-lein yn y Gymraeg ddydd Gwener 3 Medi 2010″)

Gwadwn y byd digidol
yn ein hiaith llawn-edrych-nôl.
Iaith ar y gwynt, iaith ar gof,
iaith ddi-reg, iaith yr ogof,
iaith ddiwerth ei hawen
yw’n hiaith os cedwir hi’n hen.

Ond “Na!” yw’n datganiad ni
heddiw; ymrown i’w noddi
oblegid y mae blogwyr
a mil sy’n dân yn y mur,
bloedd cannoedd yn bywiocáu,
yn trydar mewn catrawdau.
Rhaid i’r hen iaith frwydro’n ôl –
Y Gad yw’r byd digidol!

Osian Rhys Jones

Hen Dudalen “Ambytu”

Fel y gwelwch, dw i wedi symleiddio’r blog rhywfaint, a chael gwared â llawer o bethach. Un o’r rhain yw’r tudalen “ambytu”, felly dyma fi adael copi o beth oedd ar y tudalen hwnnw.

(Get the gist with Google Translate.)

Morfablog yw blog personol Nic Dafis. Brodor o’r Waun yn yr hen Sir Ddinbych ydw i. Ar ôl coleg yn Nhrefforest es i i fyw yng Nghaerdydd am ryw 7 mlynedd, lle dysgais i fy Nghymraeg yn nosbarthiadau Wlpan y Brifysgol.

Yn 1997, symudais i Langrannog, ac erbyn hyn wedi symud gyda fy nghymer i Bontgarreg, pentre cyfagos. Ers 1998 dwi’n gweithio i Brifysgol Aberystwyth fel tiwtor Cymraeg i Oedolion.

Dechreuais chwarae ambytu ar y we o ddifri yn 2000, a dechrau fy mlog cyntaf (yn Saesneg) yn y flwyddyn honno. Ym mis Ebrill 2001, dechreuais i flog newydd yn y Gymraeg, er mwyn gwella fy Nghymraeg, yn bennaf. Enwyd y blog ar ôl y tyddyn lle roeddwn i’n byw ar y pryd, Maes y Morfa.

Yn mis Awst 2002, mewn cydweithrediad â chriw o ddefnyddwyr gwe Cymraeg eu hiaith, fe wnes i sefydlu maes-e.com. Ar ôl pum mlynedd o fod wrth y llyw, cymerais i ymddeoliad cynnar ar ddiwedd 2007, gan drosglwyddo’r safle i Hedd Gwynfor, un o aelodau cyntaf y maes.

Dw i hefyd yn ddefnyddiwr Delicious, Twitter, Flickr a last.fm.

Cewch gysylltu â fi ar nicdafis@gmail.com.

Hwyl fawr Delicious, croeso mawr i Pinboard

Ar yr un diwrnod i mi ail-osod y teclyn sy’n postio fy nolenni Delicious fel un blogiad, mae Yahoo yn datgan bod Delicious yn mynd i farw.

Diolch i’r trafodaeth ar Metafilter, dw i wedi ffeindio Pinboard, gwasanaeth sy’n wneud mwy neu lai’r un peth ag oedd Delicious yn ei wneud, ond gyda llawer llai o “cruft”.

Mae rhaid talu i gofrestru ar Pinboard, felly mae sbam yn llai o broblem iddyn nhw hefyd. Mae’r pris cofrestru yn mynd i fyny wrth i fwyfwy o bobl ymuno, sy’n syniad diddorol iawn. Talais i ryw $7.50, os dw i’n cofio’n iawn; llai na £5, ta beth.

Os wyt ti’n defnyddio Delicious, mae’n werth meddwl am allforio dy nodiadau o fan’na, hyd yn oed os dwyt ti ddim am symud nhw i rywle arall. Dyw e ddim yn debyg y bydd Yahoo yn dileu cynnwys y safle yn syth, heb roi digon o rybudd, ond ar ôl beth ddigwyddodd i GeoCities, synnwn i ddim os na fydd Yahoo yn dileu cynnwys Delicious yn y pen draw.

Mae’r “blog-bach-ar-yr-ochr” bellach yn cael ei bweru gan Pinboard a’r ategyn WordPress. Mae’n ddigon hawdd mewnforio nodiadau Delicious mewn i sustem Pinboard, ond mae’n bach yn araf ar hyn o brud – cymerodd rhyw 7 awr (dros nos) i fi.

Pigion 16 Rhagfyr 2010

Beth yw blog?

Ro’n i’n gwenu wrth ddarllen hyn gan Ifan Morgan Jones yn ddiweddar:

Mae [Morfablog] wedi tawelu dros y blynyddoedd a bellach yn debycach i ffeil ble all yr awdur Nic Dafis gadw pethau y mae o’n taro ar eu traws wrth bori’r we.

Fel rhyw fath o “log” o’r “web”, felly. Drueni bod dim gair taclus i ddisgrifio rhywbeth fel ’na.

Mae Ifan hefyd yn dweud “byddai’n rhaid cau’r blog yma i lawr cyn ei bod hi’n gadael fy 10 uchaf i”, sy’n garedig dros ben, ond dyw e ddim yn ysgogiad arbennig o dda i flogiwr mor ddiog â fi. Dw i’n ddiolchgar am y geiriau caredig, ond dw i ddim yn gweld blogio fel cystadleuaeth, a’r peth ola dw i moyn yw i fod rhyw fath o “elder statesman” o’r we Gymraeg, sy’n cael ei gynnwys mewn pethau fel hyn yn otomatig, gan fod yr archif mor ddwfn, a thrwy rhyw wyrth dw i dal yn gallu cofio sut i bostio blogiad bob hyn a hyn.

Wedi dweud hynny, dw i’n edrych ar ffyrdd o bostio cofnod otomatig i fy nolenni beunyddiol Delicious (sy hyd yn hyn yn ymddangos yn yr adran “Pigion” ar y dde), yn y gobaith y bydd o leia rhywbeth yma i bobl i ddarllen. Does dim lot o bwynt cadw’r blog ar agor fel arall, ond am resymau hiraethus.