About Nic Dafis

Morfablog yw blog personol Nic Dafis, sy'n ddigon hen i wybod yn well.

Paid siarad Cymraeg: bydd yn siaradwr Cymraeg

Diddorol darllen erthygl ar Language Log sy’n sôn am y gwahaniaeth rhwng defnyddio enwau a berfau mewn cwestiynau holiadur. Ceir ymatebion llawer mwy positif trwy defnyddio enwau: “Are you a voter?” yn hytrach na “Do you vote?”.

Tybed a fyddai’n werth wneud ymchwil ymysg pobl di-Gymraeg sy’n arbrofi â’r effaith newid “Would you like to learn Welsh?” i “Would you like to be a Welsh speaker?”

Môn – Mynydd Parys a Phlas Newydd

Dydd Mawrth, tywydd gwaetha’r wythnos, os dw i’n cofio’n iawn. Ac mae’n bosbl mod i ddim, gan fod hyn yn bythefnos yn ôl, erbyn hyn. Fi yw blogiwr arafa’r byd.

Cyrraedd Amlwch yn gynnar, yn y glaw. Difaru gwisgo siorts, nid oherwydd y glaw, ond achos nid yw bob ffarmwr yn cadw ei lwybrau cyhoeddus mor glir â’i gilydd, ac mae un lôn werdd yn arbennig sy’n llawn meiri a dail poethion, ac yn malu nghoesau’n chwilfriw. Ni phoener, does dim lluniau.

Mae Mynydd Parys wedi’i gloddio am ei gopr ers Oes yr Efydd, ac am gyfnod yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, Amlwch oedd y ganolfan allforio copr fwya brysur yn y byd. Mae’r canrifoedd wedi gadael eu marc ar y mynydd; mae’r tirwedd arallfydol yn TARDISio fi yn ôl at y seithdegau, ond er gwaethaf y llu o gyfeiriadau ato ar Google, dw i’n methu ffeindio unrhyw dystiolaeth bod y mynydd wedi cael ei ddefnyddio fel lleoliad yr un bennod Doctor Who na Blake’s Seven. Digon hawdd i weld pam fyddai sut gymaint o bobl yn meddwl hynny:

Gan ein bod ni wedi dechrau mor gynnar, er bod y wâc yn ddigon hir roedden ni yn ôl yn y car erbyn amser cinio. Roedd y tywydd wedi bod yn ddigon braf, os yn oer yng ngwynt copa’r mynydd, ond yn ôl yn Amlwch closiodd y glaw o’n cwmpas eto, felly doedd dim awydd crwydro’r dre. Coesau bach yn rhy drwm am fwy o gerdded heddi, felly penderfynnu mynd i ymweld â Phlas Newydd, ger Llanfairpwll.

Prif nodwedd y Plas, i’r rhai sy’n hoff o luniau, yw ei gysylltiad â Rex Whistler, ac yn enwedig y murlun enfawr ganddo yn y stafell fwyta. Er mor drawiadol yw hwnna, ac yn gamp technegol, doedd y murlun ddim yn cyffwrdd ynddo i rhywsut. Gwell o lawer oedd y lluniau llai o faint, yn enwedig cwpl o’i “gariad”, Caroline Paget (chwaer ei noddwr, “Lord Anglesey”): un ohonyn nhw’n noethlun oedd yn destun cryn drafod yn ei amser, a’r llall yn bortread llawer mwy manwl. Dw i’n methu ffeindio copi o hwnna unrhywle ar y we, sy’n bryfoclyd iawn, ond oedd ’na rhywbeth llawer noethach am y portread bach o ben ac ysgwydd y ferch nag sydd i’w weld yn y noethlun go iawn, sy’n edrych i fi fel y llun wnaeth Leonardo DiCaprio jyst cyn i’r Titanic fynd i lawr.

Ar y llaw arall, dw i wedi darganfod, wrth sgwennu hwn o flogiad, taw Whistler oedd yn gyfrifol am y lluniau isod, sy’n rhoi esgus i fi ddefnyddio’r gwychair “plith-draphlith” am yr eildro ar y blog:

"¡OHO!" gan Lawrence a Rex Whistler (clawr)
"¡OHO!" gan Lawrence a Rex Whistler (dalennau clawr)

Jiawl, ddim wedi cyrraedd amser swper nos Fawrth eto, ac mae’n amser cinio yma yn y presennol, pythefnos wedyn. Bydda i’n lwcus i bennu blogio am Fôn cyn i ni fynd i Wrecsam

Môn – Ynys Llanddwyn a Choedwig Niwbwrch

Dydd Llun: hwn oedd y diwrnod gorau o’r gwyliau ar ran tywydd; perffeithrwydd, trwy’r dydd.

Wrth cyrraed Niwbwrch, aethon ni ar goll, trwy gam-ddarllen arwydd ffordd: mae “Llys Llewelyn” yn edrych yn debyg iawn i “Ynys Llanddwyn”, o’r pellter, mewn car, yn y bore, dim digon o goffi, ac yn y blaen.

Wedi ffeindio ein ffordd i’r maes parcio cywir, wnaethon ni sylwi bod dim amser gyda ni i wneud y wâc yn ein llyfryn yn y drefn iawn, pe hoffen ni gyrraedd yr ynys lanw cyn iddi gael ei hynysoli gan y môr. (Fel oedd yn digwydd, doedd dim rhaid i ni boeni, gan fod y llanw mor isel. Hyd yn oed ar ei uchelbwynt, gallen ni fod wedi rhydio’r stribed cul o ddŵr rhwng yr ynys a’r traeth yn hawdd, heb wlychu’n penliniau.) Penderfynnu, felly, i wneud pethau’n bendraphen. Wastad yn syniad da.

Mae Ynys Llanddwyn yn lle anhygoel, un o’r llefydd mwya trawiadol dw i wedi ymweld â fe erioed. Oedd hi’n helpu bod y tywydd mor berffaith, wrth gwrs, ac ein bod ni wedi cyrraedd cyn y torfeydd. Mae yn natur “Ynys y Cariadon” bod peth rhamant o’i chwmpas, ond mae’r gofalwyr wedi gwrthsefyll y temptasiwn i’w hail-frandio yn ormodol ar gyfer twristiaid. Mae ’na dwtshys bach o darth y Celt ambytu’r lle, ond hyd yn oed i sinig rhonc fel fi, mae pethau fel hyn yn tynnu gwên, yn hytrach na gwg:

Ar ben draw’r ynys fach, mae bwthynnod pilotiaid, lle mae arddangosfa fach sy’n olrhain hanes/myth Dwynwen, hanes mwy diweddar yr ynys, a pheth am fyd natur y lle.

Erbyn i ni wneud ein ffordd yn ôl i’r tir mawr, oedd yr ynys fach yn dechrau llenwi â thwristiaid. Sylwer beth wnes i yna.

Cerdded wedyn trwy’r coed ac at, mewn theori, Llys Rhosyr, ond gan mod i’n methu darllen y map yn iawn, aethon ni’r ffordd hir rownd, a cherdded rhyw dair milltir ma’s o’n llwybr. Ymyl arian y gwyriad oedd dod ar draws patsyn o goed ceirios gwyllt, a chael gwledd suddlon i’n cadw i fynd tan cinio.

Ceirios

Rhaid dweud bod Llys tywysogion Gwynedd braidd yn siomedig ar ôl yr henebion gwelon ni y diwrnod cynt, ond mae’n siwr bydd y safle traphwysig yma yn datblygu mewn amser; am wn i, mae’r gwaith cloddio dal yn mynd yn ei flaen.

Darn olaf y daith oedd ar hyd ffin Cwningar Niwbwrch, ond heb ddigon o amser/egni i fynd yn unlle ond yn ôl i’r car, welon ni ddim llawer ohono.

Gyda’r nos, ac wedi’n “swper pabell” arferol, ma’s i dafarn y Llong, Traeth Coch. Tafarn dda ar ran cwrw (Rampart, bragdy Conwy, perffaith ar ran lleoliad, ac yn hollol Seisnig ar ran naws y lle. Hyn oedd un o themau’r gwyliau; “I’m sorry?” yw Saesneg sir Fôn am “Do I look Welsh to you?”, mae’n debyg.

Serch hynny, ar ôl diwrnod bendigedig, a sychedig, y cwrw ffein a’r olygfa wych oedd yn plesio mwy na’r Seisnigwrydd yn digalonni.

O.N. Dyma fi’n blogio’n hirwyntog. Joio.

Môn – Traeth Lligwy a Din Lligwy

Dydd Sul diwetha, a ninnau’n llawn brecwast bendigedig Brynarth, bant â’r cart at Ynys Môn. (Rhaid bod bach o le yn y boliau o hyd, gan bod ni wedi stopio yn Pete’s Eats ar y ffordd i gael tamaid i ginio.)

Cyrraedd ein gwersyllfa ger Brynteg a chodi’r babell mewn llai o amser nag erioed. Dim amser i deimlo’n rhy smyg am hyn, gan fod ’na waith cerdded i’w wneud.

Llyfryn bach o deithiau cerdded sy gyda ni, yn yr iaith fain, sef Walks Around Ynys Môn, gan David Berry. Mae mewn cyfres dyn ni wedi defnyddio o’r blaen, ac yn ffitio yn y poced yn dwt. Wâcs rhwng dwy a hanner ac wyth milltir sy yma, a chan fod dim llawer o amser gyda ni cyn amser swper, penderfynnu ar un gweddol byr, a digon agos aton ni, sef yn ardal Moelfre. Dilyn llwybr yr arfordir o’r pentre at y gogledd, hyd at Draeth Lligwy. Ar y ffordd, gwelwn ni iêt mochyn arbennig (i rywun):

O draeth rhagorol Lligwy, a syched braf arna i, bach o siom yw ffeindio bod y “Dafarn Rhos” sy’n cael ei grybwyll yn y llyfryn, bellach yn dŷ haf yn hytrach na nhafarn o unrhyw iws i ddyn. Ond anghofio’r siom yn ddigon clou wrth gyrraedd Din Lligwy, olion pentre Brythonaidd-Rufeinig, mewn sefyllfa coediog â golygfeydd gwych o’r bae trwy’r coed. Llai na chwarter milltir o’r safle, mae heneb arall, o gyfnod cynharach byth, sef siambr gladdu Llugwy.

Crwydro yn digon sionc wedyn nôl i’r car ym Moelfre, a nôl i Ad Astra i fwyta un o’n “swperau pabell” arbennig (nwdls, ffa menyn, jar saws posh). Gyda’r nos, cwpl o beints o’r Ungorn yng Ngwesty’r California, Brynteg.

Dyn ni ar ein gwyliau!

Aside

Chwarae gyda’r patrymlun, a sylwi ei bod yn anodd iawn addasu teclynau heb droi’r iaith yn ôl i’r Saesneg. Felly os ydy pethau’n edrych braidd yn Seisnig am sbel, dyna pam…

Tlysau Tregaron

Wythnos yn ôl, ar ein ffordd i Ynys Môn, treulion ni noson yn Nhregaron, gan fod ffrind yn dathlu ei phen-blwydd yn nharfarn y Talbot. Cyrraedd yn gynnar, braidd, er mwyn sieco mewn i’n gwely a brecwast, ac hefyd i gael cip yn siop ac oriel Rhiannon.

Mae’r siop wrthi’n dathlu ei phen-blwydd ei hunan eleni, a phedwar deg o flynyddoedd o greu gemwaith Cymreig yng ngogledd Ceredigion. Fel rhan o’r dathliadau, mae Rhiannon wedi penderfynnu arddangos ei chasgliad personol o emwaith y Celtiaid, mewn Amgueddfa Geltaidd fach newydd. Mae ’na wledd o bethau hyfryd yn y casgliad, a dyna fi’n difaru’n barod mod i wedi dod ar wyliau heb gamera ond yr un sy ar y ffôn newy’, ac felly dyma’r unig lun sy gyda fi sy ddim yn hollol ddiwerth, sef pedwar anifail bychan:

Ymlaen at y parti, a rhyfeddu ar y gwaith adnewyddu sy’n mynd ymlaen yn y Talbot. Dw i’n ei gofio fel lle go dywyll, o’r tro diwetha bues i yn ei berfeddion; erbyn hyn mae’r golau yn llenwi’r lle trwy ffenestri to. Yn y brif stafell fwyta, mae gwaith y ffotograffydd Rolant Dafis, astudiaethau o fyd natur sy hefyd yn taflu golau mewn i’r stafell.

Parti da, ’fyd. Canwyd cerdd dant gan y teulu a chlasuron pop Cymraeg gan bawb eraill. Ymunais yn y “la la las” a’r Mawredd Mawrion, do. Lot o sbort.

Treulion ni’r nos mewn gwely a brecwast yn Lledrod, tra bod y teulu wedi bwcio’r dafarn i gyd rhyngddynt, ond oedd y gwesty bach yn braf iawn, a’r jam cartref eirin Mair yn arbennig o dda.

RSS wedi diflannu

Diolch i Dafydd am dynnu fy sylw at y ffaith bod ffrwd RSS Morfablog ddim yn gweithio ers dechrau mis Mawrth. Rhaid cyfadde mod i ddim yn deall sut mae’r RSS yn gweithio yn iawn ar WordPress, ac ar ôl treulio awr a hanner pori trwy fforymau cymorth, newid patrymluniau, tynnu ma’s bob ategyn (a’u rhoi nhw yn ôl), dw i’n methu’n lân ffeindio beth sy’n achosi’r broblem. Ac mae’r haul yn gwenu, ac mae llwth mawr o goed tân ’da fi i’w torri.

I gyd dw i’n gallu awgrymu, i chi’r bobl sy’n defnyddio Google Reader, yw tanysgrifio i’r ffrwd Atom, gan gopio a gludo’r linc

feed://morfablog.com/feed/atom/

yn y bocs “Add a Subscription”.

Mae hwnna’n gweithio i fi, ta beth.

Mae’n flin ’da fi am y ffwdan, a byddaf yn ddiolchgar iawn ’sai rhywun yn gallu awgrymu sut alla i gael y pethach RSS yn ôl.

27 di-derfyn

Dw i wedi dechrau defnyddio fuelly.com i gadw llygad ar faint o danwydd ni’n llosgi yn y car, ac am y tro cyntaf erioed, dw i’n sylwi beth yw pris petrol, i’r ceiniog. I’r degfed rhan o’r ceiniog, i fod yn fanwl gywir.

Y bore ’ma, rhoddais i werth £37 yn union, am 136.9c y liter, ond anghofiais i sgwennu lawr sawl liter oedd wedi mynd mewn. Nawr dw i’n sylwi bod 3700 / 136.9 = 27.027027027027027 ac yn y blaen, ac mae hyn wedi codi fy nghalon. Ond yw rhifau’n bert?

Ydw, dw i’n darllen Alex’s Adventures in Numberland o hyd. Ac hefyd, 2666.

Fuelly

Cer yn y fan

Y llyfr dw i arno nawr yw Our Band Could Be Your Life, sef hanes y sîn cerddoriaeth danddaearol yn America rhwng 1981 (blwyddyn gyntaf gyda Reagan yn y Tŷ Gwyn) a 1991 (y flwyddyn torrwyd pync). Ynddo, mae Michael Azerrad yn dilyn hanes 13 o fandiau “hardcore” (diffiniad sy’n siwto rhai ohonyn nhw yn well nag eraill), gan ddechrau gyda Black Flag a mynd trwy’r Minutemen, Big Black, Hûsker Dû, Sonic Youth yr holl ffordd i Dinosaur Jr. Mae’n cynnwys sawl band dw i’n dwlu arnyn nhw ers canol yr wythdegau (y pedwar ola yna), rhai dw i wedi anghofio amdanyn nhw (Fugazi!) a rhai dw i erioed wedi clywed o’r blaen, fel y criw yma:

Mae’r llyfr yn wych, werth ei ddarllen i unrhywun gyda diddordeb yn y fath ’ma o sŵŵŵŵŵŵŵn hardd, neu jyst mewn cerddoriaeth yn gyffredinol. Gyda’r holl ffws yn ddiweddar am “farwolaeth y sîn roc Gymraeg”, mae’n chwa o awyr ffres darllen am fandiau sy’n chwarae o’r ffycin galon, heb boeni bod radio a theledu y gwladwriaeth ddim yn wneud digon i’w cefnogi.

Lladd Iaith Cernyw – Pwy, Pam, a Phryd?

Shifft Ieithyddol yng Nghernyw, 1300-1750 (Wikipedia)

Shifft Ieithyddol yng Nghernyw, 1300-1750 (Wikipedia)

Where Cornish was Spoken and When: a Provisional Synthesis, gan Matthew Spriggs yn Cornish Studies, 2003. Erthygl academaidd ar hanes y Gernyweg o gyrhaeddiad yr Eingl-Sacsoniaid tan ei “marwolaeth” yn yr ail ganrif ar bymtheg. Difyr iawn, ac yn ddadleuol, dwedwn i.

We know from the laws of Ine of the late seventh century that British subjects of Anglo-Saxon kings were treated in a discriminatory manner compared with English ones. But by that time who were the British? The definition must surely have been essentially linguistic. Language shift in the case represented a shift in ethnicity. The British were not genocidally dispersed; by language shift they too became English.

Doedd yr un peth ddim wedi digwydd trwy’r adeg oedd y Rhufeiniaid ym Mhrydain; roedd y Brythoniaid wedi cadw eu hiaith, er iddynt fenthyg o’r Lladin. Dim ond dan y Sacsoniaid ddiflanodd y Frythoneg o’r tir a fyddai’n dod yn “Lloegr” yn y pen draw.

(Ymwadiad diangen: Nid Ydwyf yn Ieithydd Hanesyddol. Os ydych chi’n deall y stwff yn well na fi, neu yn gwybod lle alla i ddarllen rhagor er mwyn deall yn well, defnyddiwch y blwch sylwadau, da chi.)

Diolch i Robert Humphries (ar Facebook) am y linc i’r erthygl.

Ffugio Trydar y Blaid

Des i i wybod trwy Hedd Gwynfor ddoe bod rhywun “wedi hijacio” cyfrif Twitter Plaid Cymru. Ond nid cyfrif swyddogol y Blaid yw’r un mae Hedd yn sôn amdano.

@plaid_cymru – swyddogol

@PlaidCymru – “dychanol”

Dw i ddim yn gwybod pwy sydd tu ôl i’r cyfrif ffug, os taw dyna beth yw e, ond mae’n edrych i fi fel bod rhywun yn chwarae gêm hir iawn. Ac mae wedi bod yn llwyddiannus, chwarae teg. Mae gan y cyfrif ffug 1,300 o ddilynwyr; ddim cymaint â chyfrif swyddogol y Blaid (2,200) ond digon i’w wneud yn edrych yn kosher. Tan y cynladledd diweddar, doedd dim byd yn cael ei bostio ar y cyfrif ond pethau wedi’u awtomeiddio o ffrwdd RSS, ond yn sydyn, wnaeth y cyfrif ddechrau postio ypdêts llawer mwy diddorol.

Fel y gwelwch chi uchod, mae’r cyfrif yn disgrifio ei hunan fel “100% unofficial”, ond am wn i does neb yn gwybod pwy sydd tu ôl iddo fe. Mae’r usual suspect wedi gwadu taw ei waith yw e, ac dydy hwnna byth wedi dweud celwydd yn ei fyw.

Ond o leia mae Taylor yn gwybod taw “spoof account” yw e, sy mwy na lot o aelodau Plaid Cymru. Ymysg y dilynwyr mae sawl aelod amlwg o’r Blaid, gan gynnwys Elin Jones… ac, ym… yr Elin Jones arall!

Curiouser and curiouser…

Dim amser sgwennu mwy nawr, ond bydd yn ddiddorol gweld sut mae hyn yn datblygu.


[Y bore wedyn. Y rheswm dw i’n dweud “dychanol” mewn dyfyniadau uchod, yw bod y cyfrif yn amlwg wedi’i greu i dwyllo dilwynwyr Plaid Cymru, nid dim ond dychanu’r Blaid. Mae rhywun yn y sylwadau (a phobl ar Twitter ddoe) yn gofyn a yw hyn yn anghyfreithlon: nac ydy, diolch byth. Ond fel mae Carl yn dweud, mae’n bendant ei fod e’n torri telerau cyfrifau parodi Twitter:

  • Username: The username should not be the exact name of the subject of the parody, commentary, or fandom; to make it clearer, you should distinguish the account with a qualifier such as “not,” “fake,” or “fan.”
  • Name: The profile name should not list the exact name of the subject without some other distinguishing word, such as “not,” “fake,” or “fan.”
  • Bio: The bio should include a statement to distinguish it from the real identity, such as “This is a parody,” “This is a fan page,” “Parody Account,” “Fan Account,” “Role-playing Account,” or “This is not affiliated with…”
  • Communication with other users: The account should not, through private or public communication with other users, try to deceive or mislead others about your identity. For example, if operating a fan account, do not direct message other users implying you are the actual subject (i.e., person, band, sports team, etc.) of the fan account.

Mae’r cyfrif ffug yn torri bob un o’r rheolau yna, er gwaethaf yr “100% Unofficial”. Mae hyn oll yn gwynto mor gryf o NatWatch, dw i’n mynd braidd yn hiraethus.

Fel mae’r canllawiau yma yn ei wneud yn glir taw dim ond y “person” sy’n cael ei ddynwared, neu rhywun sy’n cynrychioli’r person hwnnw’n gyfreithiol, sydd â’r gallu cwyno i Twitter a chael gwared o’r cyfrif dychan. Felly, peidiwch gwastraffu amser sgwennu at Twitter, sgwennwch at y bobl ym Mhlaid Cymru sydd yn gallu wneud rhywbeth amdano.

Awr am y Ddaear

Peth cyntaf clywais i am Earth Hour oedd pan oedd pobl yn dechrau sôn amdano ar Twitter a Facebook, jyst dros awr yn ôl. Mae’n swnio i fi fel un o’r pethau ’na sydd yn amhosibl bod yn erbyn, gan fod e siwr o fod yn cael rhyw effaith positif, ond mae’n anodd iawn bod yn gryf o blaid chwaith.

Better to blow out one candle than to curse…

Na, sori, dyw hynny ddim yn mynd i weithio, nag yw?

Wnes i bostio rhywbeth lot fwy sarcastig ar Twitter, wedyn meddwl ‘to a’i ddileu fel y cachgi yr ydwyf. Dw i’n mynd i wneud fy rhan i nawr trwy troi off y cyfrifiadur, cyn i mi ddechrau postio fideos Plane Stupid a cholli ffrindiau.

Bwrw’r Bol

Mynd i briodas wythnos nesa, a does gen i ddim byd i’w wisgo, felly bant â fi heddi i’r metropolis i brynu siwt newydd. Wel, i brynu siwt, atalnod llawn. Dw i heb wisgo siwt ers fy mhriodas fy hunan yn 1994, a gadawais i hwnna yng Nghaerdydd gyda’r gyn-wraig.

Bach yn siomedig i ffeindio mod i’n methu ffito mewn i drowser 38″ bellach, ac oedd rhaid prynu rhai 40″, ond oedd pethau gwaeth i ddod. Prynais i grys yn Fat Face, heb foddran ei geisio, gan ei fod yn Extra Extra Large. Pan ges i hwnna adre, wnes i ffeindio fod e’n ffito, mewn ffordd, ond dim ond os dw i ddim eisiau eistedd, neu symud, neu ddim byd felly.

Mae Philippa, sy’n berson caredig, yn dweud bod meintiau dillad yn amrywio o siop i siop, ac mae’n siwr ei bod hi’n iawn. Ond dw i wedi dod lan stâr nawr i sieco bod pedwar batri AA ar gael yn y swyddfa. Mae’n amser dod â Wii Fit ma’s o’i ymddeoliad cynnar.

Dw i wedi bod yn un o’r bobl roli-poli sy’n rolio a pholio ambytu’r lle erioed, a dw i wedi bod yn dewach na hyn hyd yn oed (amser o’n i’n briod, natch). Ond nôl yn 2003-4 collais i rhyw tair stôn a hanner, dim ond i’w hail-ennill dros y ddwy flynedd nesa. Amser ‘ny, o’n i wedi dechrau cael problemau gyda fy mhenliniau hefyd, ac mae’r problemau yna wedi dod yn ôl. Mewn siop elusen y prynhawn ’ma, ar ôl i mi bennu mynd trwy’r bocs feinyl (el-pî Bois y Felin!), ces i uffarch o job codi ‘to. Wneu rhyw jôc gael am record collector’s knee, ond mae’n digwydd bach yn rhy aml y dyddiau yma.

Felly, ie, mae gen i bwyntiad gyda’r Wii bore fory am 8 o’r gloch, a bydda i nôl ar yr unig ddeiat sy wedi’i brofi i weithio: bwyta llai o bopeth, a symud ambytu’r lle mwy. Dosbarthu dros y Blaid yn Sarnau yn y bore yn ffordd dda i ddechrau.