Ni wedi colli un o’r mawrion, bois.
Methu meddwl o ddim byd call i’w ddweud, ond rhannu’r llun uchod a gobeithio ei fod e’n dweud digon. Ddim yn cofio bod yn ei gwmni heb chwerthin.
Mae’r fideo uchod, gan John Green, a dw i’n addo bydd cofnodion Morfablog sy dim yn cynnyws un o’r Brodyr Flog cyn bo hir, yn sôn am sut mae
Dw i’n aelod Kiva ers 2008, ac yn y pedair blynedd ers i mi sgwennu amdano o’r blaen, mae fy $100 gwreiddiol wedi cael ei fenthyg, fesul $25, i ddeunaw o brosiectau ledled y byd. Mae bob benthyciad dw i wedi ei wneud hyd yn hyn wedi ei ad-dalu o fewn y cyfnod priodol, a dw i’n gallu darllen am y prosiectau dw i wedi helpu eu noddi trwy wefan Kiva.
Ar hyn o bryd, mae Kiva yn cynnig $25 am ddim i aelodau newydd (diolch i rodd gan Reid Hoffman, sefydlwr LinkedIn), felly cei di ddechrau helpu pobl, a gweld sut mae’r sustem yn gweithio heb roi dim o dy arian dy hunan mewn.
Dw i’n gwybod mod i wedi addo fydd dim mwy o Vlogbrothers fan hyn, ond dyma Hank yn ei ôl, yn ystod y heip am “Koby 2012″, yn sôn am pam mae’n meddwl taw Kiva yw’r ffordd orau i bobl “cyfoethog” y gogledd helpu pobl sy heb ein manteision.
Reit, dw i’n addo addo. Dim mwy o’r Brodyr Flog.
Byddwch yn wych. Cerwch i Kiva.
Wedi bod â diddordeb mewn bioleg erioed, ac un o’r pethau dw i’n difaru o’m dyddiau ysgol yw mod i ddim wedi mynnu astudio bioleg a Saesneg hyd at lefel A, fel yr oeddwn i eisiau, ond wedi astudio ffiseg a mathematig (a’u methu’n llwyr) fel oedd fy athrawon eisiau. Stori hir.
Wedi meddwl troeon am ail-gydio yn y pwnc, ac es i mor bell â chofrestru ar gwrs gyda’r Brifysgol Agored rhyw dro, ond newid daeth i’r byd, a rhaid oedd ei ohiro. Stori hir arall.
Braf felly, yw dod ar hyd i Gwrs Carlam Bioleg gan Hank Green. Cwrs fideo yw e, wedi’i wneud gan rhywun sy’n gwybod sut i wneud fideos bachog (un o’r Brodyr Vlog yw Hank), ac wedi cynhyrchu at safon uchel iawn. Dydy ei ddull cyflwyno ddim yn mynd i fod at ddant pawb, mi wn, ond mae’n fy siwto i i’r dim, gan fy mod i’n ddwyieithog: Cymraeg ac Americaneg yw fy nwy iaith erbyn hyn, mae’n debyg.
Mae’r Brawd Vlog arall, John Green, hefyd yn cynnal Cawrs Carlam, a ffocws hwnna yw Hanes y Byd. Mae hefyd yn werth ei wylio, a dw i am ddal i fyny gyda fe ar ôl cinio heddi.

Perl bach o golofn “Atgofion Bore Oes” gan B. Watkins, o’r Teifi-Seid yn 1932. Sôn am ei ddyddiau ysgol ym Mhontgarreg mae e, a’r defnydd cyson o’r Welsh Not gan y sgwlyn:
Cof gennyf un tro mewn cysylltiad a’r uchod am un hogyn mwy cyfrwys na’r gweddill ohonom, yn arbed y gosp trwy ddichell. Gofynnwyd i’w gyhuddwr beth oedd y geiriau ddefnyddiodd, ac atebodd yntau, “Saf fanna.”
“Please, sir,” meddai y llall, “Savannah is a seaport town in America.” Bu raid i’r ysgolfeistr chwerthin, a chafodd yr hogyn lonydd am y tro.
Llawer mwy yng nghasliad toriadau gwasg Ceredigion, er bod rhaid i chi ddefynddio’r fersiwn Saesneg i ddod o hyd i’r rhan fwya o’r cynnwys.
Diolch yn fawr i’r Cneifiwr, am f’atgoffa am yr adnodd gwych yma.
Bysus Llundain, neu be? Mae hwn yn bendi-bus o flogiad, sy’n cael ei yrru gan rhywun sy heb fod tu ôl i’r llyw ers sbel, felly ymddiheuriadau am hynny, a gobeithio bod hyn yn wneud ryw fath o synnwyr. Ni chyrhaeddwn ni ben y daith gyda hyn, chwaith, hyd yn oed ar ôl mil a mwy o eiriau.
Ail ddrafft yw hwn, ac er mod i wedi wedi cael gwared o’r cyfatebiaeth hirwyntog am The Good Life, mae’r llun isod jyst yn rhy hyfryd i’w wastraffu. Edrych ar y bobl da.

Mae dau lyfr dw i wedi’u darllen yn diweddar wedi effeithio rhywfaint ar y ffordd dw i’n meddwl am newid hinsawdd, a’m rôl i fel “rhan o’r broblem”. Er i mi bryderu y bydd trafod hyn ar y blog yn wneud i fi swnio fel, wel, twat hunanfodlon, dyma fi’n mentro i ffau’r llewod.
Y llyfr cyntaf yw How Bad Are Bananas, gan Mike Berners-Lee, sy’n dechrau gyda thri chynosodiad sylfaenol, sef:
Dydy e ddim hyd yn oed yn wastraffu inc yn y llyfr, na gwynt yn ei fywyd bob dydd, mewn dadlau gyda’r rhai sy’n gwadu bod newid hinsawdd yn digwydd, neu sy’n pw-pwio un o’r tri gosodiad uchod, a dw i’n cytuno â fe. Mae pawb wedi clywed yr un am reslo gyda moch, reit?
Roedd hyn ynddo ei hunan yn helpgar iawn; mae derbyn y ffaith bod dadlau am y ffeithiau gwyddonol gyda phobl sy ddim eisiau newid eu meddylau yn wastraff llwyr o amser yn rhyddhad annisgwyl. Mae neges graidd y llyfr arall, Carbon Detox gan George Marshall yn cadarnhau y safbwynt yma (fi sy biau’r cyfieithiad):
Yr unig beth sy’n cyfri yw’r llinell isaf
Yn y llyfr hwn rwy am i chi feddwl am eich cyfraniad chi i newid hinsawdd fel pwysau, fel rhywbeth mae’n bosibl i’w bwyso i’r gram olaf un. Ac rwy am i chi feddwl am golli rhan ohono fe. Cewch chi ei symud o un gweithgaredd i’r llall a dewis pa damaid ohono yr ydych am ei ollwng yn gyntaf, ond rhaid i chi gadw, fel eich prif amcan, colli cymaint ohono ag sy’n bosibl.
Mae perygl mewn cymryd y llwybr yma, wrth gwrs. Yng nghanol y 90au, pan dechreuais i ddarllen mwy am amgylcheddaeth ac ati, a cheisio addasu fy ffordd o fyw rhywfaint, ro’n i’n arfer dilyn datblygiadau yn y mudiad Ecoleg Ddofn, a dw i’n cofio erthygl mewn rhyw ffansîn Americanaidd am ddyn ifanc oedd wedi ffeindio’r ffordd ddelfrydol o ysgafnhau ei olion-traed; efo rhaff y crogwr yn ei garej. Y peth mwya dychrynllyd am hyn oedd gweld cymaint o bobl oedd yn barod i’w longyfarch am fod mor ddewr.
Ffyc ddat.
Dw i eisiau byw.
Beth sy’n wych am y llyfrau yma yw eu bod nhw’n edrych ar y sefyllfa gyda llygaid clir, ac yn ei thrafod heb flew ar eu tafodau, ond heb anobaith yn eu calonau chwaith. “Dydyn ni ddim yn gallu wneud popeth,” mae’r awduron yn dweud, “ond ni’n gallu wneud lot mwy nag ydyn ni’n wneud ar hyn o bryd.” Mae pawb (ond y gwadwyr) yn gwybod hyn, ond fel mae Marsh yn ei ddweud, dyn ni ddim yn byw fel ein bod ni’n ei gredu fe.
Mae’r bwlch yma, rhwng gwybod rhywbeth fel ffaith a chredu ynddo fe fel “credo” yn un sy’n gallu bod yn faen tramgwydd i’r rhai ohonon ni sy’n galw ein hunain yn rhesymolwyr, gyda’n rhagfarn ynglyn â “ffydd dall”, ond mae rhaid i ni ddysgu bod sut peth â “ffydd goleuedig” hefyd yn bosibl.
Dydw i ddim yn esbonio hyn yn dda; rhaid i chi ddarllen y llyfr.
I’r cwestiwn “Pa mor wael yw bananas?” mae’r ateb yn eitha positif: dydy bananas ddim mor wael ag o’n i’n meddwl (ond dydy Berners-Lee ddim yn treulio lot o amser poeni am sefyllfa gweithwyr yn y De, felly mae’n bosibl bod dy fananas di yn wael iawn, jyst ddim yn yr ystyr carbon-aidd). Maen nhw’n cael eu cludo ar longau, a chan bod nhw’n cael eu torri tra’n wyrdd, dydyn nhw ddim yn gorfod cael eu rheweiddio ar eu taith. O gymharu â rhywbeth fel asbaragws, maen nhw’n eitha da.
Mae Berners-Lee yn dda iawn am wneud ei bwynt trwy anecdotau. Ar ddechrau’r llyfr, lle mae’n trafod y pethau sydd â’r effaith lleiaf yn nhermau carbon, mae’n adrodd hanes dyn oedd yn gofyn iddo fe ym mha ffordd y dylai fe sychu ei ddwylo mewn ar ôl eu molchi nhw mewn tŷ bach cyhoeddus. Mae B-L yn trafod y gwahaniaethau rhwng defnyddio tywel llaw, neu rhai papur, neu’r wahanol fathau o beiriannau sychu dwylo, ac mae hyn yn ddifyr, a braidd yn annisgwyl. Sychwyr modern fel yr Airblade yw’r gorau, mae’n debyg, ond mae’n amcanrifo bod defnyddio tywel go iawn yn waeth na defnyddio un tywel papur, oherwydd y perygl o ddal rhyw haint o’r tywel. (Does dim llawer sy’n waeth i’ch ôl-draed carbon na gorfod treulio amser yn yr ysbyty.) Ond os ti’n defnyddio dau tywel papur bob tro, byddai’n well i ti gymryd sbin ar y lliain rhôl seimllyd.
Ond prif bwrpas y stori yw ei diweddglo: y dyn sy’n gofyn y cwestiwn yn sôn yn benodol am y tai bach ar yr awyrennau mae’n defnyddio i hedfan o Lundain i Efrog Newydd rhyw chwe gwaith y flwyddyn. Pe tasai fe’n hepgor un o’r hediadau yna, gallai fe sychu ei ddwylo ar dywelon sidan ffresh bob tro mae’n piso, llosgi’r peth wedyn, a dal yn arbed carbon.
Nes ymlaen, mae’n trafod “ffetish y bag plastig”, y ffordd mewn un tameidyn o bolyethylen wedi dod i sefyll am ddrygioni ein ffordd o fyw afradlon. Mewn gwirionedd, mae cymaint o garbon mewn un bag plastig cyffredin ag sydd yn y petrol sy’n gyrru car rhyw hanner canllath. Wrth gwrs mae’n well peidio gwastraffu adnoddau ar bethach di-angen fel bagiau plastig, ond bob tro ti’n gyrru 10 milltir di-angen, wyt ti’n defnyddio yr un carbon ag sydd mewn 320 o fagiau plastig.
O’r gorau, dechrau diflasu fy hunan nawr, ac un o fy amcanion personol i yw “peidio eistedd wrth y cyfrifiadur am oriau maeth, ti ddim mor ifanc ag o’t ti, beth am fynd am dro bach?”.
Mwy yn y man. Methu aros, eh?
Fel mae pawb yn gwybod erbyn hyn dw i’n siwr, mae Geiriadur yr Academi bellach ar gael arlein, yn rhad ac am ddim, ac wedi bod ers sawl diwrnod erbyn hyn.
Doeddwn i ddim yn sylweddoli tan heddi faint mae hyn yn mynd i effeithio arna i. Cliw bach: edrych ar ddyddiad y blogiad cyn yr un ’ma.
Mae’n wych o beth gael defnyddio adnodd mor gynhwysfawr, sy’n hawdd i’w ddefynddio, ag sydd, bron â bod, yn wneud popeth fyddet ti moyn iddo fe wneud. Ond tan y bore ’ma, pan ddechreuais i ei ddefynddio yn fwy trylwyr, i gyd oeddwn i wedi trydar amdanynt oedd y manion bethau oeddwn i’n eu gweld sy’n ymharu â phrofiad y defnyddwyr. Felly, gadewch i fi fod yn glir am hyn: mae’r manion bethau yma yn fanion; rydw i wrth fy modd gyda’r geiriadur, ac yn gwerthfawrogi gwaith pawb sy wedi bod ati i ddod â’r Briws i’r byd arlein.
Un o’r pethau wnes i gonan amdano oedd y ffaith bod dim URL deca i’r geiriadur. Es i mor bell â chofrestru briwsarlein.com, ar ôl i mi ffeindio am y trydedd tro mod i angen y peth a ddim wedi wneud nod tudalen ohono. Nawr dw i’n gweld bod Bangor wedi cofrestru GeiriadurYrAcademi.com, er bod e ddim yn gweithio hyd yn hyn.
Dw i ar ddeall bod cynllun ar y gweill i adael i bobl wneud adroddiadau pan byddan nhw’n dod ar draws bylchau yn y rhestr geiriau, sef siwr o fod y peth mwya pwysig o’r datblygiadau byddai ar fy wishlist i, ond dyma rhai o’r pethau sy wedi fy nharo:
Rhaid derbyn y telerau ac amodau canlynol er mwyn defnyddio’r wefan hon.
Chwarae teg, ond oes rhaid i mi wneud hynny hanner dwsin o weithiau bob dydd? Ydy rhywun wedi anghofio gosod briwsionyn ar y Briws?
Mae’n gweithio ar y ffôn poced, ond heb fersiwn symudol pwrpasol, mae’n lletchwith. Eto, debyg iawn bod hyn ar y rhestr o bethau i’w wneud.
Mae geiriadur y BBC yn gadael i’r defynddiwr greu linc i gofnod penodol, pam nad yw’r Briws?
Dim dolenni “rhannu hwn”, dim botymau Twitter na dim byd tebyg. Pe tasai modd cael URL am gofnodion unigol, fyddai hyn ddim yn broblem (i bobl gyda digon o glem), ond byddai’n syniad wneud pethau yn haws i’r defnyddwyr rhannu cofnodion ar eiriau gwych. Fy hoff air newydd hyd yn hyn yw “coegaddurniadau” ond does dim modd i fi ddangos i chi beth yw hwnna yn Saesneg*.
Falle mod i’n dywysoges, a dyma un o fy mhys, ond pan dw i’n defnyddio offeryn i wneud job, dw i ddim eisiau lot o, hei, coegaddurniadau o’i gwmpas. Gweler y sgrinluniau uchod. Dw i’n derbyn na fydd modd cyhoeddi’r gwefan heb y logos a’r cydnabyddiaeth arferol, ond oes wir angen cael hanes y Geiriadur ar y tudalen chwilio?
Diolch i fy sgils gwallgo gyda ategyn Chrome, dw i wedi llwyddo troi hyn:
i hyn:
ac mae popeth yn iawn yn fy myd.
Wedi dweud hynny, mae’r tudalen yna yn cynnwys:
Mae’r gwaith o fireinio’r fersiwn ar-lein yn parhau, ac mae croeso i ddefnyddwyr yrru neges at post@byig-wlb.org.uk ynghylch y fersiwn hwn. Yr oedd y geiriadur print gwreiddiol yn eiriadur Saesneg i Gymraeg. Mae modd chwilio’r fersiwn ar-lein gyda rhyngwyneb Saesneg neu ryngwyneb Cymraeg.
Felly, fel dwedais i ar y top, dw i ddim yma i feirniadu’r Briws, dim ond i ganmol y gwaith sy wedi ei wneud eisioes, ac i ddynodi rhai o’r newidiadau byddwn i’n eu wneud, pe bawn i’n frenin, ym lle dim ond yn dywysoges. Fel y mae, a chyda’r mân newidiadau dw i wedi wneud trwy fy mhorwr, mae e wedi newid y ffordd dw i’n sgwennu ar y cyfrifiadur.
Llongyfarchiadau i bawb ar y brosiect.
* “frippery” – gair gwych yn y ddwy iaith!
“Will & Ed Walking Around Great Britain” – Rhan 1 a Rhan 2. Ffilm fer gan Molly King, myfyrwraig o Bournemouth.
Gwefan Will ac Ed, gyda mwy o fanylion am eu hanturiaethau.
Mae’n ddigon hawdd bod yn sinicaidd am bethau fel hyn, ond dw i wedi cael llond bol o fod yn sinicaidd. Dydy Saeson sy eisiau ail-gysylltu â’u traddodiadau brodorol ddim yn “hen elyn” i fi. Chwarae teg iddyn nhw.
Hefyd, maen nhw wedi f’atgoffa fi o hen ffrind, ac amser braf iawn yn fy mywyd i.
Ffeindiais i ddetholiad Léo Ferré mewn bocs siop elusen wythnos diwetha yn Abergwaun, a dim ond heddi dw i wedi ffeindio’r amser i wrando arno. Roedd e mewn cwmni da; ces i bump albym gan y sanctaidd Jacky yr un pryd.
Mae enw Ferré yn hollol newydd i fi, ond mae hynny’n dweud mwy am fy myopia cerddorol innau nag am werth Ferré.
He took a central place in the French song world and is a prominent figure in this domain. He was involved in anarchism and worked with Radio Libertaire, an anarchist free radio broadcasting in Paris and around France. Along with Georges Brassens and Jacques Brel, he is considered one of the greatest composers and writers of French songs.
Dw i’n dechrau difaru peidio clirio’r bocs yna; oedd pethau eraill gan Ffrancwyr a Sbaenwyr do’n i ddim wedi clywed amdanynt. Och.
Bydda i’n blogio am rywbeth arall ond bodio yn y man, siwr o fod, ond am nawr, dyma rhagolwg “The Forest Prince and the Pig” gan Craig Constantine, ffilm am lwcdeithio yn America.
Os ydy hynny wedi cosi dy fodiau, edrych ar beth ddigwyddodd i seren y ffilm ar ôl iddo benderfynnu bodio i noson gyntaf ei ffilm ei hun, yng Ngŵyl Ffilm Ddogfen Utah.
Mae’r ffilm yn agor ym Mhrydain, yn yr hen Gaergrawnt i fod yn fanwl gywir, yfory.
Ces i lot o sbort bodio i’r gogledd dros y Sul. Bore Gwener, fe es i o Blwmp am 9 o’r gloch y bore i’r Gledrid (ger Y Waun) am 1.45 y prynhawn. Gan gofio ei fod yn cymryd o leia 2 awr a hanner i yrru’r 100 milltir yma, dyw hynny ddim yn ffôl o gwbl. Bues i’n lwcus iawn o gael lifft o Langurig yr holl ffordd i’r Waun, bron a bod, ond hyd yn oed wedyn, do’n i ddim yn aros am fwy na chwarter awr yn unrhyw le ond yn Aberaeron, sy’n llawn twristiaid, o hyd.
Yr un stori dod yn ôl, ond i mi roi’r gorau i’r bodio yn Aberystwyth, gan fod y glaw bach yn rhy drwm, a bws ar gael ar ôl i mi gael cinio.
Prif nodwedd y bodio, ar wahan i ba mor hawdd oedd cael lifftiau, yw bod pob un lifft wedi dod o bobl yn eu 40au neu’n hŷn, ar wahan i’r lifft bach ola o Lanarth i Synod Inn gan foi ifainc oedd ar ei ffordd i wylio’r pêl droed yn nhafarn Ffostrasol. Oedd yn syndod i fi cymaint o bobl Twitter oedd yn synny mod i’n (1) bodio o gwbl a (2) yn llwyddo cael lifftiau. Prif nodwedd y bobl yno yw bod nhw’n ifancach na fi. Fel dwedodd un gyrrwr o gyn-athro wrtha i, rhywle rhwng Llanbadarn a Llangurig:
We’re really good at teaching kids about “stranger danger”, but not so good at showing them that they don’t have to be afraid for the rest of their lives.
Dw i ddim eisiau darllen gormod mewn i’r ffaith bod pobl ifainc wedi colli’r arfer o ffawdheglu, ond mae yn drist bod cenhedlaeth gyfan yn meddwl bod rhywbeth od am ei wneud.
Y peth gorau am fodio, ar wahan i’r ffaith ei fod yn rhad ac am ddim mewn arian a charbon, yw bod pobl yn siarad â chi. Wnes i gwrdd â rhyw ddwsin o bobl newydd dros y Sul, ac oedd gyda phob un ohonyn nhw eu storiau diddorol. O’r hen Gymro oedd wedi bodio yn ystod ei gyfnod o Wasanaeth Cenedlaethol yn y 50au, i’r Almaenwyr oedd newydd gosod paneli haul ar eu tŷ er mwyn dod oddi ar y grid. O’r Brummie oedd yn isel oherwydd colli ei wraig, ei fusnes, a’i hunan hyder (ond oedd wedi cadw ei Range Rover hynafol) i’r Dyn o Gaint oedd newydd adael ei ferch a’i cheffyl yn y coleg ger y lli, ac oedd yn gyrru yn ôl i ddyfnderoedd Lloegr mewn horsebox gwag. Pobl ffeind, bob un.
“Ond mae bodio yn beryglus“, wrth gwrs.
Ydy e? Oes tystiolaeth, neu ydyn ni’n gadael i’r Toris a’r tabloids rheolu ein ysymwybod yn ogystal â’n gwleidyddiaeth?
Sori am fod yn hipi, ond dim ond (rhannu) reid yw e. Mae rhaid i chi fod yn gall, wrth reswm, ond dydy hynny ddim yn golygu bod ag ofn pawb am byth. Mae bodio yn llawer saffach na hedfan, ym mhob ystyr.
‘Sai detholiad naturiol ddim eisiau i ni fodio, pam mae ein bodiau mor anhygoel o hyblyg?
The eyes of fear wants you to put bigger locks on your door, buy guns, close yourself off.
(Ro’n i wedi anghofio i mi sgwennu cofnod am fodio nôl ym mis Mawrth eleni, felly ymddiheuriadau am y dwbli isod. Rhaid mynd ma’s mewn munud, felly dim amser i’w olygu.)
Mewn erthygl yng nghylchgrawn yr Ecologist, mae Adam Weymouth yn gofyn “ai bodio yw’r ffordd werddaf o deithio does neb yn ei defnyddio?”:
Last week I hitched from Oxford to Salisbury, a two hour drive which took me four. I chatted with a technician about cuts to the sciences, encouraged someone to take to the road themselves, and had an hour’s lecture on how to make my own diesel from chip fat. There aren’t many forms of transport where you find all that. And regardless of these pleasures, hitchhiking should be thriving. With petrol prices rising weekly, people struggling to make ends meet, record youth unemployment and an urgent need to cut carbon emissions, a revival seems to be long overdue.
Mae’r erthygl yn decrau gan sôn am y “ffaith” taw dim ond 9% o yrrwyr heddiw yn debyg i gynnig lifft i fodiwr, wrth cymharu â ffigwr o rhyw 25% chwarter canrif yn ôl. Nawr, fel mae’r awdur yn sôn, dydy 9% ddim mor isel â hynny – dw i’n ei ffeindi braidd yn anodd credu, a bod yn onest – ond mae un pwynt pwysig am y “ffaith” yma dydy’r awdur ddim yn rhoi sylw iddo, sef bod llawer mwy o draffig ar y ffyrdd y dyddiay yma. Os ydy’r rhifau yna yn iawn, dydy cwymp o 25% i 9% ers yr 80au ddim mor syfrdanol â hynny.
Nid newid agwedd y gyrrwyr sy’n gyfrifol felly, ond newid agwedd y bobl sydd, yn draddodiadol, yn fwy tebyg na neb i estyn bawd i fynd o A i B: pobl ifainc. Eto, mae’r ystadegau melltigedig yn cefnogi’r tybiaeth: y rhai rhwng 18 a 24 yw’r grŵp lleia tebyg i fodio bellach, a dych chi’n llai tebyg o gael lifft gan un o’r to ifanc hefyd.
Fel mae’n digwydd, dw i’n perthyn i’r genedlaeth a ddaeth i’w hoed yn ystod Oes Auraidd Olaf bodio, sef canol yr 80au i’r 90au cynnar. Fel myfyriwr serchus ond di- gerbyd yn y Sowth, byddwn i’n dibynnu ar lwcdeithio i nghario at fy nghariad yn y Mers bob yn ail benwythnos. Yn aml iawn, bydde’r daith o Bontypridd i Groesoswallt yn gyflymach wrth fodio na mynd ar y trên. Des i yn gyfarwydd â phob twll a chornel* y ffordd rhwng y ddwy dref bert yna, a dod i nabod ugeiniau o bobl ddifyr hefyd.
Ddes i byth ar draws yr agwedd “pam yn y byd wyt ti’n bodio?” adeg hynny, ond y tro diwtha i mi fodio lawr i Gaerdydd, oedd pobl yn siarad â fi fel yr oedd rhywbeth bach yn anarferol am y ffaith: car broken down, has it?
Wel, ta waeth am hynny, gyda’r pris petrol fel y mae, dw i’n meddwl ei fod yn hen amser i ni ddechrau meddwl am fodio fel “yr unig ffordd (gall) o deithio” unwaith eto.
A fel “ni”, dw i’n meddwl y fi.
Felly, oni bai bod y rhagolygon tiwedd am y penwythnos nesa yn wael iawn, dw i am fodio lan i’r Waun, am y tro cyntaf ers, gylp, 10 mlynedd. Os chi’n gweld dyn tew canol oed yn sefyll wrth ochr yr A44 ddydd Gwener nesa, cofiwch codi eich bys canol a chwerthin ar ei ben, a wna i gofio gweddîo dros eich enaid colledig.
(Diolch @paulbrichardson, am y trydariad gwreiddiol!)
Os dych chi wedi dod yma ar ôl y sesiwn hyfforddi Moodle yn Llandrindod, mae’r Moodle prawf fan hyn. Does dim llawer i’w weld yno, ond pan caf i amser, byddaf yn ychwanegu bach o gynnwys. Yn y cyfamser, mae croeso i unrhywun sy eisiau chwarae, greu cyfrif.
Rhowch wybod (nicdafis [malwoden] gmail [dot] com) os dych chi eisiau i fi newid eich statws defnyddiwr ar y Moodle i chi gael creu cyrsiau arno.
AAAAAArrrrrgh! Mae hyn yn hala fi’n grac tu hwnt. Dw i’n siwr ei fod e’n hawdd iawn ei drwshio fe, ond dw i’n methu’n llwyr, a dw i wedi bod ati am rhyw awr y bore ‘ma.
Mae ‘na wall bach yng nghyfieithiad Cymraeg WordPress, sy’n achosi hyn, ar y ffurflen hala sylwadau:
Dw i’n gallu ffeindio’r gwall yn y ffeil cy.mo, ar lein 887:
..ond dw i’n methu golygu’r ffeil .mo heb ei dorri.
Dw i’n gallu golygu’r ffeil cy.po, ond yn hwnna, dw i’n methu ffeindio’r gwall.
Oes ‘na feistr Jedi ma’s yna gyda 5 munud i sbâr?
Wedi ffilmio yn Fforest, Cilgerran ac yn Aberteifi.
Mae sawl person ni’n nabod yn y fideo, gan gynnwys dysgwyr a phontwyr yr ardal (siaradwyr rhugl sy’n dod i’r dosbarthiadau i helpu’r dysgwyr “croesi’r bont”).
Cerddoriaeth hyfryd, a fideo bendigedig. Debyg iawn i arddull cariad@iaith. Yr un criw?
Dw i’n dal ati, mynd trwy archif Morfablog, tacluso teitlau cofnodion a gafodd eu stwnsho blynyddoedd yn ôl wrth fewnforio cynnwys y blog i WordPress, ac yn y blaen, ac yn y blaen.
Braidd yn siomedig gweld cynlleiad o gynnwys y we o’r flwyddyn 2001 sy dal yn bodoli, neu’n hytrach, sy dal yn bodoli yn yr un lle. Er bod rhai, fel y BBC, y Guardian, a’r Register wedi bod yn ofalus i gadw eu cynnwys o dan yr un URLiau, mae llawer iawn gormod o sefydliadau sy ddim yn poeni iot am hyn.
(Dw i’n byw mewn tŷ gwydr fan hyn, wrth gwrs, gan fy mod i wedi symud o Blogger i Movable Type i WordPress, a newid cyfeiriadau cofnodion yma o leia tair gwaith wrth wneud.)
Un peth dw i’n dysgu wrth wneud y gwaith yma, yw pa mor bwysig yw e i gynnwys dyfyniadau mewn cofnodion blog. Yn aml iawn, byddwn i’n dod ar draws cofnod fel hyn, gweld bod un o’r dolenni naill ai wedi marw neu wedi’i thorri, a chan mod i ddim wedi dyfynnu dim byd, mae’n amhosibl ffeindio’r cynnwys eto. Yn yr achos hwn, roedd e’n lwcus mod i wedi cynnwys y linc i’r stori yn y Register, ac eu bod nhwthau wedi dyfynnu geiriau Rhodri Morgan; dim ond wedyn oedd yn bosibl i ffeindio y datganiad i’r wasg yn ei hafan newydd.
Felly, nodyn i fy hun, dyfynna wrth flogio, ychan.
Newydd sylweddoli bod un o’r lluniau dw i’n defnyddio ym mhenawd y blog bellach* yn edrych fel sylw ar y busnes “iaith y mynci”. Dyw e ddim. Damain a hap, fel y rhan fwya o’r stwff sy’n digwydd rownd fan hyn.
Oni bai… bod newyddiaduron y Daily Mail wedi bod yn ymweld â Morfablog, ac arna i mae’r bai am bopeth. Os felly, mae’n flin iawn ’da fi.
Ar y cwestiwn o sut i ymateb i’r adolygiad erchyll o’r llyfr Bred of Heaven, dw i’n tueddu cytuno â Carl, er i mi ddeall, a chydymdeimlo â phwynt Seimon Brooks hefyd:
Yn yr achos penodol hwn, dw i’n credu taw’r peth cyntaf dylen ni wneud yw prynu y llyfr. Dw i wedi dechrau arno heddi; mae’n dda iawn, ac mae’n delio â rhagfarn y wasg Seisnig yn erbyn Cymru a’i phobl yn y pennod cyntaf oll.
* [Gol. 26/08/11] wedi dileu’r lluniau yn y pennawd.
Un o fy hoff orielau Cymru yw’r un fach adran grochenwaith Prifysgol Aberystwyth, sy lawr stâr yn y Ganolfan Gelfyddydau. Ro’n i’n arfer cerdded heibio i hon heb feddwl aros ac edrych, nes i Philippa fy llusgo mewn un diwrnod, ac ers hynny dw i’n ffan mawr y lle. Dim ond dwy stafell gweddol bach yw hi, yr un ffrynt ag arddangosfeydd newidiadol, a’r cefn yn dangos dewisiadau o gasgliad cerameg y coleg.
Yn yr oriel flaen ar hyn o bryd mae arddangosfa Allan o Gaerfaddon (tudalen uniaith Saesneg, am ryw reswm), gwaith gan raddedigion cwrs ceramig Prifysgol Ffynnon Caerfaddon. Fy ffefrynnau i o’r casgliad oedd cwpl o weithiau gan Chun Liao (gweler uchod) a dau ddarn wych gan Matt Chambers (gweler isod).
Nid y darnau dw i wedi cynnwys yma sydd yn yr arddangosfa, ond pethau tebyg.
Mae’r sioe ar agor tan 21 Awst 2011. Diwedd yr wythnos!
(Ypdêt 16/08/11: mae adolygiad.com bellach yn fyw. Tagiwch eich twîts ag #adolygiad i chwarae gyda ni.)
Rhywbryd yn gynharach yr wythnos ’ma, wnaeth Seimon Brooks ddechrau postio adolygiadau sydyn o dai bwyta ac ati i’w ffrwd Twitter, ac yn defnyddio’r hashtag #adolygiad arnynt.
Mae wythnos yn amser hir ar Twitter. Yn fuan iawn, wnaeth y Twitfyd Cymraeg ddechrau efelychau syniad Seimon, ac mae’r hashtag eisioes wedi ennill ei le yn y pantheon o dagiau defnyddiol.
Wedyn, y prynhawn ’ma, dyna sgwrs bach yn arwain at hyn:
…ond aeth ymlaen i ddweud
Os dw i’n deall Seimon yn iawn, beth sy gyda fe mewn meddwl yw rhywle sy’n casglu pob twît sy’n defnyddio’r tag #adolygiad, er mwyn creu archif chwiliadwy o adolygiadau sydyn. Gwendid Twitter yw er bod pob neges yn cael ei harchifo, nid yw’n hawdd dod ar draws hen stwff.
Yn dangos fy niffyg dealltwriaeth llwyr o bethau technegol, dwedais i:
Dylwn i fod wedi gadael i Carl ateb hwnna, cyn i mi ruthro mewn fel ffŵl ac ychwanegu
… sy ddim hyd yn oed yn wneud synnwyr. Yn anffodus, wnaeth Seimon ddeall beth o’n i’n meddwl, ac wedi derbyn fy nghynnig.
Felly, fel y gwelwch chi yn y cofnod hwn, dw i wedi llwyddo ffeindio ategyn WordPress sy’n gadael i rhywun cynnwys twît “brodorol” mewn cofnod blog, ond dw i’n methu’n llwyr (hyd yn hyn) dod ar draws ffordd o awtomeiddio’r broses. Dw i ddim hyd yn oed yn siwr a fyddai’n syniad da i adael i’r peth fod yn hollol awtomatig: byddai hynny’n gadael y peth ar agor i sbamwyr a phob math o abiws.
Amser swper. Beth dych chi’n feddwl? Oes modd wneud hyn yn awtomatig?
[Eto, cofnod sy wedi'i gopio o'r blog iaith methedig.]
Mae Lameen Souag wedi olrhain hanes y gair Cabileg šnu, sy wedi newid ei ystyr o “gasineb” i “ganu” mewn dau gam hawdd:
In Classical Arabic, there is a fairly rare verb šani’a شنئ, meaning “to hate” [..] This has barely survived in spoken Arabic, but (according to de Prémare) the causative šənnā is still used in Tangier (Morocco), meaning “to taunt someone by showing him something he wants that you won’t give him.”
Sy’n swnio braidd yn Fonty Python-aidd i fi, ond mae’e Lameen yn nabod ei stwff, dw i’n siwr.
Anodd oedd peidio allosod o fan’na a gweld cysylltiad â’r traddodiad Celtaidd/Cymreig o ganu dychan, a dyna’r sylw cyntaf i’r blogiad yn wneud yn union hynny, ond yng nghydestun Iwerddon:
Early Irish law shows that poets’ use of satire had to be regulated so that it would not drive honest men to despair and suicide, but satire was itself a kind of legal punishment, especially applied to the rich who were above most other kinds.
[Wedi copio'r cofnod isod o flog "ieithyddol" dechreuais arno ac wedyn anghofio amdano. Eisiau dileu'r blog, ond oedd y cofnod hyn yn werth ei gadw.]

Bu stori yn y Guardian wythnos diwetha ym mis Ebrill am ddau siaradwr olaf iaith Ayapaneco, yn rhanbarth Tabasco, Mecsico, sy ddim yn siarad â’i gilydd:
There are just two people left who can speak it fluently – but they refuse to talk to each other. Manuel Segovia, 75, and Isidro Velazquez, 69, live 500 metres apart in the village of Ayapa in the tropical lowlands of the southern state of Tabasco. It is not clear whether there is a long-buried argument behind their mutual avoidance, but people who know them say they have never really enjoyed each other’s company.
Mae swnio mor annhebyg, ond yw e? Ond y peth wnaeth fy nharo fi yw nid dyma’r tro cyntaf i mi glywed stori fel hyn. Yn ei lyfr The Practice of the Wild, mae Gary Snyder yn sôn am fynd gyda chyfaill i weld Louie, un o siaradwyr olaf iaith y Nisenan yng nghanolbarth Califfornia:
Finally my friend broke his good news: “Louie, I have found another person who speaks Nisenan,” There were perhaps no more than three people alive speaking Nisenan at that time, and Louie was one of them. “Who?” Louie asked. He told her name. “She lives back of Oroville. I can bring her here, and you two can speak.” “I know her from way back,” Louie said. “She wouldn’t want to come over here. I don’t think I should see her. Besides, her family and mine never did along.”
That took my breath away. Here was a man who would not let the mere threat of cultural extinction stand in the way of his (and her) values. To well-meaning sympathetic white people this response is almost incomprehensible. In the world of his people, never over-populated, rich in acorn, deer salmon, and flicker feather, to cleave to such purity, to be perfectionists about matters of family or clan, were affordable luxuries. Louie and his fellow Nisenan had more important business with each other than conversations. I think he saw it as a matter of keeping their dignity, their pride, and their own ways&emdash;regardless of what straits they fallen upon&emdash;until the end.
Rhaid cyfadde mod i wedi bod un o’r bobl gwynion yna mwy nag unwaith, ond mae’r darn yna yn gwneud mwy o synnwyr i fi bob tro dw i’n ei ddarllen. Does dim sut peth â “marwolaeth iaith”: pobl sy’n marw, nid ieithoedd.