Bron â bod 10 mlynedd yn ôl i’r diwrnod, bues i wrthi symud ma’s o’m fflat yng Nghaerdydd. Cario bocs o lyfrau lawr stâr i’r fan o’n i wedi’i fenthyg am y dydd, wne si golli’r stâr ola a throi fy migwrn de yn wael iawn. Dw i ddim yn cofio poen fel ‘na o’r blaen - ond dw i wedi bod yn ddigon lwcus yn fy mherthynas â phoen dros y blynyddoedd, mae rhaid dweud.

Heddi, aethon ni â’n car i Huw Seilach, y mecanig a tyfwr llysiau o fri. Mae problem gyda’r brêcs, mae’n debyg, felly rhaid yw sorto fe ma’s. Gan ei fod yn ddiwrnod gweddol, dyma ni’n penderfynnu cerdded arde. A dyma fi, wrth gamu mewn i’r clawdd i adael i dractor mynd heibio, troi fy migwrn chwith, yr un mor boenus â deng mlynedd yn ôl. Methu rhoi pwysau arno fe o gwbl, ac mae wedi chwythu fel balwn.

Tipyn o flogio i ddod dros yr wythnos nesa ‘te.

Postiwyd 24 Awst 2007. Cei di ddilyn y trafodaeth trwy’r ffrwd RSS 2.0. Cer i’r diwedd i adael sylw. Mae pingiadau ar gau.

5 Sylw

  1. Dwi’n cydymdeimlo. Newydd ddod nôl o A&E (neu’r ‘DacA’) i gael peledr X ar fy nhroed chwith ar ôl chwarae pêl-dored neithiwr. Dwi wedi torri un o fysedd fy nhroed.

    Dim i’w wnued o’n rhoi fy nhraed i fyny medde nhw :-)

  2. Rhaid i flogwyr undrâd uno!

  3. Dwi di neud yr un peth dwywaith o’r blaen. Un ar bob ffêr. Y dwytha, ges i fy nharo ar y tu mewn i fy nghoes yn rygbi, ei droi a mynd lawr efo crac mawr. Meddwl bod fi di torri fy ffêr, ond ’sprain’ yn unig, ond un drwg iawn. Chwyddo gymaint, o ni methu gwisgo rhai parau o sgidie.

  4. Ai, cofia torri bys troed blynyddoedd yn ôl trwy chwarae gormod o judo yn erbyn pobl lot gwell na fi.

    Prynu lot fawr o morphine sydd isio - roedd Coleridge yn ei dallt hi…

  5. Syniad da. Mae’n dal i frifo - meddwl am fynd i’r doctor fory. Wedi blino beidio mynd am fy nhro beunyddol.

Gadael Sylw