Diolch i Suw, dw i wedi bod yn chwarae gyda’r app gwe Twitter am gwpl o ddiwrnodau, ac heddi sylweddoli y bydd modd i mi ei ddefnyddio i flogio, o’r ffôn mudol, o faes y Steddfod.

Dw i wedi addasu’r côd Jafa tamaid bach i gael popeth yn Gymraeg - os dych chi am ddefnyddio hwnna, a wnewch chi ei gopio i’ch gweinydd eich hunan yn gyntaf, os gwelwch yn dda?

Postiwyd 3 Awst 2007. Cei di ddilyn y trafodaeth trwy’r ffrwd RSS 2.0. Cer i’r diwedd i adael sylw. Mae pingiadau ar gau.

4 Sylw

  1. Ond beth ydy dy enw ar twitter?

  2. nicdafis - mae linc dan bob post. ;-)

  3. Hmmm, bob un ond yr un diwetha wedi diflannu nawr - problem gyda’r @ ‘na efallai.

  4. 4
    Melangell 
    Dydd Gwener, 3 Awst 2007

    Wedi mwynhau darllen dy flog, diolch nicdafis. Mae ‘twitter’ yn wych ac wedi rhoi cyfle i fi ddefnyddio fy iaith. S’dim lot o gyfleoedd da fi o gwbl fel arfer.

Gadael Sylw