Fel Rhodri, dw i heb flogio am hyn tan nawr. Mae’n anodd gwybod beth i’w ddweud am ddigwyddiad mor hurt. Dydy hynny ddim yn stopio pobl maes-e, wrth reswm.
Postiwyd 14 Mehefin 2007.
Cei di ddilyn y trafodaeth trwy’r ffrwd RSS 2.0.
Cer i’r diwedd i adael sylw. Mae pingiadau ar gau.
3 Sylw


Dydd Mawrth, 19 Mehefin 2007
Mae rhai wedi dweud fod gan y boblogaeth Gymraeg rym masnachol ac y dylid penedrfynnu peidio defnyddio’r cwmni eto, ac y byddai Thomas Cook yn deall iaith y geiniog. Ond canran fechan iawn o’r gymuned Gymraeg sy’n mynd i wneud hyn- ni fydd hyn yn cael effaith fawr ar elw y cwmni. ‘Does gan y Gymraeg ddim grym enfawr h.y. o ran arian.
Dydd Iau, 21 Mehefin 2007
Neu mewn geiriau eraill- dwi’n amau rhywsut y bydd yna gannoedd o e.e. bobol ifanc o Ynys Mon a Sir Gaernarfon yn penderfynu codi day fys at y cwmni. Os oes yna gynnig arbennig yn y siop e.e. disgownt- wythnos o wyliau yn Benidorm sy’n rhatach yno nag yn unrhyw le arall,yna…wel, diwedd y gan yw’r geiniog.
Bydd digwyddiadau y diwrnodau diwethaf yn cael mymryn bach o effaith ar elw y cwmni- ond dim byd enfawr. Yn iaith y Gogledd- ni fydd bosus Thomas Cook ar lefel Prydeinig yn cachu planciau.
Dydd Gwener, 22 Mehefin 2007
Aran Jones on Thomas Cook’s Welsh language ban- y fideo ar youtube.
“Strength of the response to this”- gor-ddweud. Ni welais lawer iawn o bobl y tu allan i’r siop yn protestio.
“Of course they will speak to their customers(yn y Gymraeg) or they will loose all their money”- ond os oes yna gynnig arbennig e.e. wythnos o wyliau yn Sbaen am £100, yna gallaf feddwl am sawl Cymro a Chymraes a fyddai’n malio dim pa iaith i’w defnyddio yn y siop.
Yn y pendraw, mae pethau megis gwyliau kitsch, pres, dillad a.y.y.b. yn bwysiacach i lawer iawn o bobl (ond nid pawb).