Neges gan Steffan Cravos, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

Annwyl gyfaill

Ar ddydd Mawrth 2ail o Awst am 10 o’r gloch, Llys Ynadon Caerdydd, Adamsdown,
bydd Angharad Blythe o flaen ei ‘gwell’ am achosi difrod troseddol i Bencadlys
Llywodareth y Cymnulliad. Ym mis Hydref 2005 fe baentiodd slogan yn galw am
ddeddf iaith newydd ac yn mynni parch i’r iaith.

MAE ANGEN EICH CEFNOGAETH - Dewch draw i ddangos eich ochr.

Dyma fydd yr achos olaf o’r gyfres o weithredoedd uniongyrchol gan Gymdeithas yr
Iaith dros Ddeddf Iaith Newydd yn ystod 2005.

Mae achos Angharad dros chwe mis ers y weithred wreiddiol! Goiriwyd yr achos
wreiddiol am fod yr wys a dderbyniodd i ymddangos ger bron y llys heddiw yn
uniaith Saesneg. Yr hawl i gael gwys Cymraeg oedd ymgyrch gyntaf y Gymdeithas
yn 1962!

Pan ymddangosodd Angharad yn y Llys ymn mis Mehefin. Cafodd yr achos Llys yn
erbyn Angharad Blythe ei ohirio tan Awst 2il am fod yr wys a dderbyniodd i
ymddangos ger bron y llys heddiw yn uniaith Saesneg. Fe feiodd y barnwr yn yr
achos Heddlu De Cymru am hyn a dywedodd y byddai yn anfon cwyn swyddogol atynt.
Cyhuddodd yr heddlu o wyrdroi drefn gyfreithiol drwy beidio cadw at ganllawiau’r
Cynllun Iaith.

Angharad Blythe yw’r aelod diweddaraf o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg i ymddangos
gerbron y llysoedd fel rhan o ymgyrch weithredol y mudiad dros
Ddeddf Iaith Newydd. Ers mis Hydref mae 40 o aelodau wedi cymryd rhan yn yr
ymgyrch weithredol hon.

Bydd gan Angharad cymeriad tyst eithaf enwog yna i’w chefnogi!

Dewch draw i gefnogi!

Steffan Cravos

Postiwyd 28 Gorffennaf 2006. Cei di ddilyn y trafodaeth trwy’r ffrwd RSS 2.0. Cer i’r diwedd i adael sylw. Mae pingiadau ar gau.
Gadael Sylw