Cofnod PingMag ar losins a thegannau o Siapan. Llawer o hwyl.

Aros am fy nysgwyr bore ddoe, yn festri capel Bethania, heb lot i wneud, es i drwy drar yn yr hen ddesg o’n i’n eistedd wrtho, a des i ar draws papurau Spangles a ches i drawiad hiraeth surfelys - ie, jyst fel y losin ei hunan.

Sbwci.

Mae’r papur yn fy waled nawr, jyt rhag ofn.

Trwy Number Six, blog brawd Mikal Dyas (isod).

Postiwyd 3 Mai 2006. Cei di ddilyn y trafodaeth trwy’r ffrwd RSS 2.0. Cer i’r diwedd i adael sylw. Mae pingiadau ar gau.

3 Sylw

  1. 1
    Ray Diota 
    Dydd Iau, 4 Mai 2006

    Mochyn. Ti newydd gyfaddef i ddwyn o gapel!!!

    Un brwnt wyt ti.

  2. Mae hyn yn wir. Lwcus bod Duw ddim yn darllen fy mlog.

  3. OND MI YDWI… A MI GEI DI WOTFFOR!!!

Gadael Sylw