Erthygl ddiddorol yn Nunatsiaq News sy’n sôn am bwysigrwydd tafodieithoedd Inuit. Fel gyda llawer o bethau ym maes TSI, byddai’n hawdd iawn i roi’r gair “Welsh” i mewn am “Inuit”.

At present, many Inuit use English when they meet someone who speaks a different dialect, the author of the report notes in a summary of the report. But this is likely a symptom of the erosion of Inuit languages in general, and not a sign that dialects are mutually incomprehensible.

Mae myth bod Gogleddwyr a Hwntws ddim yn gallu deall ei gilydd yn parhau’n gryf yng Nghymru, yn enwedig ymysg pobl di-Gymraeg falle. Yn aml iawn, mae pobl yn dod i ddosbarth Wlpan wedi byw yng Nghymru am sawl blwyddyn, ac maen nhw wedi llyncu’r myth hwn, diolch i’w cymdogion Cymraeg, sy’n ymfalchïo yn y “ffaith” bod eu hiaith nhw mor arbennig o anodd i ddysgu a’i deall.

Postiwyd 18 Ebrill 2006. Cei di ddilyn y trafodaeth trwy’r ffrwd RSS 2.0. Cer i’r diwedd i adael sylw. Mae pingiadau ar gau.

5 Sylw

  1. Erthygl arall, sy’n sôn am yr angen i greu “Bwrdd yr Iaith Inuktitut”.

  2. Ydy math yr ymagweddiad yma’n eang yng Nghymru? Dw i’n meddwl am y perthnasau rhwng Cymry Cymraeg a’r dysgwyr newydd — yn fy mhrofiad fyfi, mae’r siaradwyr yn awchus iawn i’r dysgwr eu deall nhw, a maen nhw’n tueddu i fychanu pwysigrwydd y gwahaniaethau tafodieithol

  3. Mae’n dibynnu ar y Cymry, siwr o fod, ond mae’n debyg mod i wedi gor-ddweud yma - ddylwn i ddim blogio yn syth ar ôl yfed coffi ;-)

    Wedi dweud hynny, faint o Gymry “arferol” wyt ti’n nabod, Pavel? Os wyt ti’n sôn am y fath o bobl ti’n debyg i gwrdd â nhw ar y we, neu mewn sefyllfaoedd ar gyfer dysgwyr yn arbennig, ti’n fwy tebyg i gwrdd â rhai gydag agwedd positif tuag at ddysgwyr. Mae ‘na lot fawr o Gymry Cymraeg sy erioed wedi meddwl am ddefnyddio’r iaith ar lein, er enghraifft.

  4. Wel, dim llawer ohonynt, siwr o fod, ond Cymry sy’n byw yma ym Mosgo ydyn nhw. A dw i ddim yn credu fod yma gyfundeb rhwng y ffaith bod nhw’n byw yn Rwsia a’w hagweddu nhw tuag at y dysgwyr! Fyddai hi ddim yn rhyfedd iawn os fyddai’r math’ma (sy wyt ti’n sgwennu amdanyn) o bobl ar gael yma hefyd — ond dydy hi ddim yn wir.

  5. Cymro gorau, Cymro alltud? ;-)

Gadael Sylw