Mae gwefan Blogathon 2005 yn fyw!
Fel dw i wedi sôn o’r blaen, eleni bydda i’n blogio dros Hosbis Tŷ’r Eos yn Wrecsam.
Os dych chi am fy sbonsro, mae rhaid i chi gofrestru gyda’r Blogathon, ac wedyn ymweld â fy nhudalen ymgyrch. Os cewch chi unrhyw broblemau, cysylltwch â fi a wna i ngorau i hwyluso’r broses (dyw e ddim yn arbennig o glir ar hyn o bryd, ond dw i’n credu bod staff y Blogathon yn gweithio ar bethau i wneud y wefan yn haws i’w defnyddio). Dim ond doleri Americanaidd mae Blogathon yn deall, felly mae rhaid conferto y swm o bunnoedd (£5 = $8.75, mwy neu lai).
Dw i’n bant o fory tan dydd Llun, ac wrth gwrs mae’r Steddfod yr wythnos nesa, felly fydd dim llawer o gyfle i mi gasglu noddwyr ar lein, ond dw i wedi casglu sawl un ar ffurflenni papur, ac mae Mam a’r teulu oll wedi bod yn helpu hefyd, felly pwy â wyr faint o arian maen nhw wedi codi. Edrych ymlaen at weld yfory.
Os wyt ti’n meddwl am gymryd rhan yn y Blogathon - a dylet ti, mae’n llawer o hwyl - dw i wedi agor seiat newydd ar maes-e, i drafod strategaeth ac yn y blaen.
Bydd angen logo Cymraeg, ond am y tro:


Dydd Gwener, 22 Gorffennaf 2005
Wps, dyma fi’n dilyn dy ddolen o faes-e cyn darllen y post hwn a dwi jyst wedi cyfrannu £5.00 trwy’r wefan justgive.com, a dwi’n sylweddolii rwan na fydd hyn yn ymddangos ar dy dudalen Blogathon. O wel, dim ots mae gyd yn mynd i’r un lle.
Dydd Gwener, 22 Gorffennaf 2005
Diolch yn fawr am hynny Rhys, ond os ti moyn cofrestru ar safle y Bloathon, cei di wneud hynny hefyd - jyst anwybyddu’r ebost y cei di ar ol y peth i ddweud wrthot ti i dalu. Dydy’r Blogathon ei hun (na fi, am hynny) i fod i handlo’r arian, felly byddan nhw’n dweud wrthot ti i wneud yn union beth wyt ti wedi wneud - ond bydd dy gyfraniad yn ymddangos ar fy swm terfynnol fi
Diolch ‘to.