Tro cynta i mi weld un o bosteri hiliol y Ceidwadwyr o’n i’n meddwl oedd yn jôc. Wedyn, ar ôl syweddoli pa mor isel mae’r Toris wedi syrthio, ro’n i’n meddwl pa mor hawdd byddai fe i’w newid i ddweud rhywbeth arall.
Ond nawr, cei di wneud dy boster hiliol dy hunan gyda’r teclyn bach ‘ma.
Croeso i unrhywun sy moyn creu un i’w ebostio fe ata i, a wna i bostio’r goreuon yma.
Dyma un gan Aran:



Dydd Mercher, 20 Ebrill 2005
Byddai’n anodd curo dy un di chwarae teg.
Dydd Mercher, 20 Ebrill 2005
Aw, dere mlan!
Dydd Mercher, 20 Ebrill 2005
Fi mor falch bod un ‘na o Bontllanfraith (*sniff*), er, do’n i ddim yn credu fod unrhyw un digon deallus i wneud hynna ar ol wedi i fi adael.