Ces i lot o sbort bodio i’r gogledd dros y Sul. Bore Gwener, fe es i o Blwmp am 9 o’r gloch y bore i’r Gledrid (ger Y Waun) am 1.45 y prynhawn. Gan gofio ei fod yn cymryd o leia 2 awr a hanner i yrru’r 100 milltir yma, dyw hynny ddim yn ffôl o gwbl. Bues i’n lwcus iawn o gael lifft o Langurig yr holl ffordd i’r Waun, bron a bod, ond hyd yn oed wedyn, do’n i ddim yn aros am fwy na chwarter awr yn unrhyw le ond yn Aberaeron, sy’n llawn twristiaid, o hyd.
Yr un stori dod yn ôl, ond i mi roi’r gorau i’r bodio yn Aberystwyth, gan fod y glaw bach yn rhy drwm, a bws ar gael ar ôl i mi gael cinio.
Prif nodwedd y bodio, ar wahan i ba mor hawdd oedd cael lifftiau, yw bod pob un lifft wedi dod o bobl yn eu 40au neu’n hŷn, ar wahan i’r lifft bach ola o Lanarth i Synod Inn gan foi ifainc oedd ar ei ffordd i wylio’r pêl droed yn nhafarn Ffostrasol. Oedd yn syndod i fi cymaint o bobl Twitter oedd yn synny mod i’n (1) bodio o gwbl a (2) yn llwyddo cael lifftiau. Prif nodwedd y bobl yno yw bod nhw’n ifancach na fi. Fel dwedodd un gyrrwr o gyn-athro wrtha i, rhywle rhwng Llanbadarn a Llangurig:
We’re really good at teaching kids about “stranger danger”, but not so good at showing them that they don’t have to be afraid for the rest of their lives.
Dw i ddim eisiau darllen gormod mewn i’r ffaith bod pobl ifainc wedi colli’r arfer o ffawdheglu, ond mae yn drist bod cenhedlaeth gyfan yn meddwl bod rhywbeth od am ei wneud.
Y peth gorau am fodio, ar wahan i’r ffaith ei fod yn rhad ac am ddim mewn arian a charbon, yw bod pobl yn siarad â chi. Wnes i gwrdd â rhyw ddwsin o bobl newydd dros y Sul, ac oedd gyda phob un ohonyn nhw eu storiau diddorol. O’r hen Gymro oedd wedi bodio yn ystod ei gyfnod o Wasanaeth Cenedlaethol yn y 50au, i’r Almaenwyr oedd newydd gosod paneli haul ar eu tŷ er mwyn dod oddi ar y grid. O’r Brummie oedd yn isel oherwydd colli ei wraig, ei fusnes, a’i hunan hyder (ond oedd wedi cadw ei Range Rover hynafol) i’r Dyn o Gaint oedd newydd adael ei ferch a’i cheffyl yn y coleg ger y lli, ac oedd yn gyrru yn ôl i ddyfnderoedd Lloegr mewn horsebox gwag. Pobl ffeind, bob un.
“Ond mae bodio yn beryglus“, wrth gwrs.
Ydy e? Oes tystiolaeth, neu ydyn ni’n gadael i’r Toris a’r tabloids rheolu ein ysymwybod yn ogystal â’n gwleidyddiaeth?
Sori am fod yn hipi, ond dim ond (rhannu) reid yw e. Mae rhaid i chi fod yn gall, wrth reswm, ond dydy hynny ddim yn golygu bod ag ofn pawb am byth. Mae bodio yn llawer saffach na hedfan, ym mhob ystyr.
‘Sai detholiad naturiol ddim eisiau i ni fodio, pam mae ein bodiau mor anhygoel o hyblyg?
The eyes of fear wants you to put bigger locks on your door, buy guns, close yourself off.


Wedi bod yn amser hir ers i mi fodio – gweld ei golled, weithia. Es i fyny i’r Alban unwaith, cychwyn yn Llundain – amser gwych, gan gynnwys y noson dan bont rhywle i’r gogledd o Firmingham!
Ond mae’r ‘gwyn ar ddu’ yma yn brifo fy llygaid, wir yr…;-)
Ie, oedd hynny bach yn rhy drwm, ond oedd?
Odi hyn yn well?