CCofnoda dy blydi Sylw!

AAAAAArrrrrgh! Mae hyn yn hala fi’n grac tu hwnt. Dw i’n siwr ei fod e’n hawdd iawn ei drwshio fe, ond dw i’n methu’n llwyr, a dw i wedi bod ati am rhyw awr y bore ‘ma.

Mae ‘na wall bach yng nghyfieithiad Cymraeg WordPress, sy’n achosi hyn, ar y ffurflen hala sylwadau:

Dw i’n gallu ffeindio’r gwall yn y ffeil cy.mo, ar lein 887:

..ond dw i’n methu golygu’r ffeil .mo heb ei dorri.

Dw i’n gallu golygu’r ffeil cy.po, ond yn hwnna, dw i’n methu ffeindio’r gwall.

Oes ‘na feistr Jedi ma’s yna gyda 5 munud i sbâr?

3 thoughts on “CCofnoda dy blydi Sylw!

  1. Fe wnes gywiro hwn fy hun pan ges i’r cyfieithiad diweddaraf. Dyma gyfarwyddiadau ar gyfer ei wneud ar y gweinydd.

    Yn gynta, newid fformat y ffeil .mo i .po
    msgunfmt cy.mo >cy.po

    Golygu’r ffeil .po

    Wedyn newid nol i binary
    msgfmt cy.po -o cy.mo

    OND, roedd gwall bach yn y ffeil .po hefyd felly dwi ddim yn siwr os fydd e’n trosi nôl yn iawn.

    Ar y llaw arall, pan o’n i’n hanner cyfieithu thema twenty eleven, wnes i fe ar GlotPress a chael y ffeil o fynna.

  2. Diolch yn fawr, ond anghofiaist ti Cam Un: dysgu Unix. Sa i wedi defnyddio’r command line ers 1985. ;-)

    Trial y fersiwn diweddara o GlotPress nawr.

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>