Dw i’n dal ati, mynd trwy archif Morfablog, tacluso teitlau cofnodion a gafodd eu stwnsho blynyddoedd yn ôl wrth fewnforio cynnwys y blog i WordPress, ac yn y blaen, ac yn y blaen.
Braidd yn siomedig gweld cynlleiad o gynnwys y we o’r flwyddyn 2001 sy dal yn bodoli, neu’n hytrach, sy dal yn bodoli yn yr un lle. Er bod rhai, fel y BBC, y Guardian, a’r Register wedi bod yn ofalus i gadw eu cynnwys o dan yr un URLiau, mae llawer iawn gormod o sefydliadau sy ddim yn poeni iot am hyn.
(Dw i’n byw mewn tŷ gwydr fan hyn, wrth gwrs, gan fy mod i wedi symud o Blogger i Movable Type i WordPress, a newid cyfeiriadau cofnodion yma o leia tair gwaith wrth wneud.)
Un peth dw i’n dysgu wrth wneud y gwaith yma, yw pa mor bwysig yw e i gynnwys dyfyniadau mewn cofnodion blog. Yn aml iawn, byddwn i’n dod ar draws cofnod fel hyn, gweld bod un o’r dolenni naill ai wedi marw neu wedi’i thorri, a chan mod i ddim wedi dyfynnu dim byd, mae’n amhosibl ffeindio’r cynnwys eto. Yn yr achos hwn, roedd e’n lwcus mod i wedi cynnwys y linc i’r stori yn y Register, ac eu bod nhwthau wedi dyfynnu geiriau Rhodri Morgan; dim ond wedyn oedd yn bosibl i ffeindio y datganiad i’r wasg yn ei hafan newydd.
Felly, nodyn i fy hun, dyfynna wrth flogio, ychan.
Cyngor da iawn (parthed dyfynnu).
Tra’n gwglo ar gyfer sillafiad Tony Haigh, Brithdir, (wrrh is-deitlo Byw yn yr Ardd wythnos yma) des ar draws cofnod yma amdano (ond wedi ei sillafuam, a gonddot mewn sylw ar Flickr, fel Tony Haig!), ac rwyt wedi rhoi dolen o’i enw at erthygl BBC Cymru, ond hyd y gwelais, dodd dim son am Tony yn yr erthygl. Ai ti roddodd y ddolen anghywir, neu eu tudalennau nhw sy wedi symud sgwn i?
Heeeeeefyd, nid bod o wedi set the world alight, ond fydd cofnodion Cwrwydro’n cael eu hatgyfodi yma? Os ti’n meddwl bod gwerth, gellid rhoi trydariad am bob un perthnasol gyda’r tag #adolygiad
Hmm, debyg mod i wedi coco lan y dolenni yna, wna i edrych yn y man. Tony Haigh yw e, ond os dw i’n cofio’n iawn, oedd e’n sillafu’n heb yr “h” am sbel.
Bosib bod Cwrwydro wedi mynd, wna i tseco hynny yn y man, hefyd.
Chwarae poker…
Damo, wnes i adael iddo farw.
Cwrwydro, hynny yw, nid Tony Haigh.
Sori Rhys, dylwn i fod wedi wneud copi o’r cofnodion, ond anghofiais i.
Mae’r gronfa ddata dal yna, wna i weld os yw’n bosibl cael y cofnodion ma’s ohoni.