Dydd Llun: hwn oedd y diwrnod gorau o’r gwyliau ar ran tywydd; perffeithrwydd, trwy’r dydd.
Wrth cyrraed Niwbwrch, aethon ni ar goll, trwy gam-ddarllen arwydd ffordd: mae “Llys Llewelyn” yn edrych yn debyg iawn i “Ynys Llanddwyn”, o’r pellter, mewn car, yn y bore, dim digon o goffi, ac yn y blaen.
Wedi ffeindio ein ffordd i’r maes parcio cywir, wnaethon ni sylwi bod dim amser gyda ni i wneud y wâc yn ein llyfryn yn y drefn iawn, pe hoffen ni gyrraedd yr ynys lanw cyn iddi gael ei hynysoli gan y môr. (Fel oedd yn digwydd, doedd dim rhaid i ni boeni, gan fod y llanw mor isel. Hyd yn oed ar ei uchelbwynt, gallen ni fod wedi rhydio’r stribed cul o ddŵr rhwng yr ynys a’r traeth yn hawdd, heb wlychu’n penliniau.) Penderfynnu, felly, i wneud pethau’n bendraphen. Wastad yn syniad da.
Mae Ynys Llanddwyn yn lle anhygoel, un o’r llefydd mwya trawiadol dw i wedi ymweld â fe erioed. Oedd hi’n helpu bod y tywydd mor berffaith, wrth gwrs, ac ein bod ni wedi cyrraedd cyn y torfeydd. Mae yn natur “Ynys y Cariadon” bod peth rhamant o’i chwmpas, ond mae’r gofalwyr wedi gwrthsefyll y temptasiwn i’w hail-frandio yn ormodol ar gyfer twristiaid. Mae ’na dwtshys bach o darth y Celt ambytu’r lle, ond hyd yn oed i sinig rhonc fel fi, mae pethau fel hyn yn tynnu gwên, yn hytrach na gwg:
Ar ben draw’r ynys fach, mae bwthynnod pilotiaid, lle mae arddangosfa fach sy’n olrhain hanes/myth Dwynwen, hanes mwy diweddar yr ynys, a pheth am fyd natur y lle.
Erbyn i ni wneud ein ffordd yn ôl i’r tir mawr, oedd yr ynys fach yn dechrau llenwi â thwristiaid. Sylwer beth wnes i yna.
Cerdded wedyn trwy’r coed ac at, mewn theori, Llys Rhosyr, ond gan mod i’n methu darllen y map yn iawn, aethon ni’r ffordd hir rownd, a cherdded rhyw dair milltir ma’s o’n llwybr. Ymyl arian y gwyriad oedd dod ar draws patsyn o goed ceirios gwyllt, a chael gwledd suddlon i’n cadw i fynd tan cinio.
Rhaid dweud bod Llys tywysogion Gwynedd braidd yn siomedig ar ôl yr henebion gwelon ni y diwrnod cynt, ond mae’n siwr bydd y safle traphwysig yma yn datblygu mewn amser; am wn i, mae’r gwaith cloddio dal yn mynd yn ei flaen.
Darn olaf y daith oedd ar hyd ffin Cwningar Niwbwrch, ond heb ddigon o amser/egni i fynd yn unlle ond yn ôl i’r car, welon ni ddim llawer ohono.
Gyda’r nos, ac wedi’n “swper pabell” arferol, ma’s i dafarn y Llong, Traeth Coch. Tafarn dda ar ran cwrw (Rampart, bragdy Conwy, perffaith ar ran lleoliad, ac yn hollol Seisnig ar ran naws y lle. Hyn oedd un o themau’r gwyliau; “I’m sorry?” yw Saesneg sir Fôn am “Do I look Welsh to you?”, mae’n debyg.
Serch hynny, ar ôl diwrnod bendigedig, a sychedig, y cwrw ffein a’r olygfa wych oedd yn plesio mwy na’r Seisnigwrydd yn digalonni.
O.N. Dyma fi’n blogio’n hirwyntog. Joio.


Croeso ‘nôl! Falch nes i gadw’r cysylltiad ar fy mlog.
Diolch am gadw’r ffydd, Boyo bach.
Diolch am rannu dy wyliau gyda ni – mae’n neis cael blas ar Gymru gan Gymru weithiau, yn hytrach na thrwy dwyslyfrau gan bobl o’r tu fas, fel y Rough Guide,(sydd, er yn wych, weithiau yn edrych am rhywbeth gwahanol i beth ni ar ei ol).
Er i mi astudio ym Mangor am diar blynedd, ges i byth fy nhemptio dros y bont – falle achos nad o’n i’n dod ymlaen yn dda iawn gyda dim un o’r Monwysion oedd yn y brifysgol ar y pryd – mae’n ystrydeb falle, ond mae pobl Sir Fon yn wahanol!
Wedi graddio, cafodd ffrind oedd ar yr un cwrs a fi swydd warden Ynys Llanddwyn dros yr haf a soniodd wrtha i a Sarah (y ddau ohonom yn ddi-waith ar y pryd) bod y Cyngor Cefn Gwlad yn chwilio am wardeiniiaad preswyl gwirfoddol am yr haf, felly buodd y ddau ohoonom yn aros ym mythynod y peilotiiad am tua 6 wythnos. Roedd yn piece-of-piss, mond hel sbwriel, helpu gyda cynnal llwybrau a ballu. Yr unig beth anodd oedd rhesymu gyda pherchnogion cwn oedd methu darllen arwyddion ‘No Dogs’ (mae’n warhcjodfa natur wedi’r cyfan) a yuppies yn glanio oddi ar gychod crand a chael barbeciws!
Ni heb fod yn ol i’r ynys ers hynny (1999) ond wastad yn deud ein bod eisiau mynd – mae’n le ffantastig.
Diolch am y tips am y tafarndai hefyd.
“..r Gymru gan Gymry ddylai fod” – school boy error
Good to have you back. Google Translate is still a bit pants, though. Glad you had a lovely holiday.