Diolch i Dafydd am dynnu fy sylw at y ffaith bod ffrwd RSS Morfablog ddim yn gweithio ers dechrau mis Mawrth. Rhaid cyfadde mod i ddim yn deall sut mae’r RSS yn gweithio yn iawn ar WordPress, ac ar ôl treulio awr a hanner pori trwy fforymau cymorth, newid patrymluniau, tynnu ma’s bob ategyn (a’u rhoi nhw yn ôl), dw i’n methu’n lân ffeindio beth sy’n achosi’r broblem. Ac mae’r haul yn gwenu, ac mae llwth mawr o goed tân ’da fi i’w torri.
I gyd dw i’n gallu awgrymu, i chi’r bobl sy’n defnyddio Google Reader, yw tanysgrifio i’r ffrwd Atom, gan gopio a gludo’r linc
feed://morfablog.com/feed/atom/
yn y bocs “Add a Subscription”.
Mae hwnna’n gweithio i fi, ta beth.
Mae’n flin ’da fi am y ffwdan, a byddaf yn ddiolchgar iawn ’sai rhywun yn gallu awgrymu sut alla i gael y pethach RSS yn ôl.
Wyt ti wedi golygu’r ffeiliau WordPress o gwbl? Efallai copïa’r system WordPress drosto fe eto.
Ces i broblem debyg unwaith, yr achos oedd dychwelydd sbar ar ddiwedd ffeil yn y thema!
Newydd ail-osod 3.1.1, dim lwc. Wedi colli’r Gymraeg o’r rhyngwyneb ddo.
Meh. Mynd i ddarllen llyfr. Llai o hasl.
Diolch am fynd i’r drafferth..
Yr unig beth alla’i feddwl yw fod angen diweddaru dy .htaccess. Hynny yw, fe fydd angen i’r gweinydd allu sgrifennu i’r ffeil a wedyn Gosodiadau>Dolen Parhaol i’w sgrifennu. Neu falle fod rhyw ategyn arall eisiau sgrifennu fewn i’r ffeil hefyd.
Ta waeth, mae’r RSS fformat atom yn gweithio i fi felly mae popeth yn iawn yn y byd.
Dwi di bod yn derbyn cofnofion yn Google Reader yn gwbl ddi-drafferth…
Mae 11 wedi tanysgrifio i’r ffrwd Atom (sy’n gweithio), a 41 wedi tanysgrifio i’r un sy ddim yn gweithio ers 2 o Fawrth.
Hmm, newydd sylwi bod ‘na flaensleis ychwanegol yn y cyfeiriad RSS: href=”/http://morfablog.com/feed/”
Tybed ai hynny sy’n achosi’r broblem? Dim angen gweithio ma’s o ble mae’r côd yna yn dod nawr – dyw e ddim yn patrymlun, header.php
Oedd e yn y header.php wedi’r cwbl, ond doedd e ddim yn achosi’r broblem.
Morfablog » Morfa Bychan