27 di-derfyn

Dw i wedi dechrau defnyddio fuelly.com i gadw llygad ar faint o danwydd ni’n llosgi yn y car, ac am y tro cyntaf erioed, dw i’n sylwi beth yw pris petrol, i’r ceiniog. I’r degfed rhan o’r ceiniog, i fod yn fanwl gywir.

Y bore ’ma, rhoddais i werth £37 yn union, am 136.9c y liter, ond anghofiais i sgwennu lawr sawl liter oedd wedi mynd mewn. Nawr dw i’n sylwi bod 3700 / 136.9 = 27.027027027027027 ac yn y blaen, ac mae hyn wedi codi fy nghalon. Ond yw rhifau’n bert?

Ydw, dw i’n darllen Alex’s Adventures in Numberland o hyd. Ac hefyd, 2666.

Fuelly

  1. Mae’n dechrau gwasgu, tydy? Cwch gofod ni yn cymryd £70 i’w lenwi, sydd jesd â gwneud i mi grio. Dw i’n cofio llenwi dau danc Jag mawr yn Dubai am £10…

  2. Dwi wedi bod yn colli fy ffics ar Morfablog dros y mis dwetha, Nic! A dim ond nawr dwi wedi trafferthu edrych beth oedd yn digwydd. Mae’r cofnod dwetha yn Google Reader ar Fawrth 2il. Mae rhywbeth o’i le ar /feed/

    Unrhyw syniad?

  3. Morfablog » RSS wedi diflannu

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>