We know from the laws of Ine of the late seventh century that British subjects of Anglo-Saxon kings were treated in a discriminatory manner compared with English ones. But by that time who were the British? The definition must surely have been essentially linguistic. Language shift in the case represented a shift in ethnicity. The British were not genocidally dispersed; by language shift they too became English.
Doedd yr un peth ddim wedi digwydd trwy’r adeg oedd y Rhufeiniaid ym Mhrydain; roedd y Brythoniaid wedi cadw eu hiaith, er iddynt fenthyg o’r Lladin. Dim ond dan y Sacsoniaid ddiflanodd y Frythoneg o’r tir a fyddai’n dod yn “Lloegr” yn y pen draw.
(Ymwadiad diangen: Nid Ydwyf yn Ieithydd Hanesyddol. Os ydych chi’n deall y stwff yn well na fi, neu yn gwybod lle alla i ddarllen rhagor er mwyn deall yn well, defnyddiwch y blwch sylwadau, da chi.)
Diolch i Robert Humphries (ar Facebook) am y linc i’r erthygl.

Diolch, Nic. Doeddwn i ddim yn siwr y byddai unrhyw un ddilyn y ddolen hon. Mae’n rhyfedd, dwi’n credu, bod y Gernyweg wedi goroesi mor hir. Mae dyfodiad y Sacsoniaid ac eu goresgyniad ieithyddol y Brythoniaid yn bwnc dadleuol sy’n fy niddori. Siwr o fod, roedd ‘na lawer o “Wealhas” yn Lloegr am ganrifoedd ar ôl sefydliad y teyrnasoedd Eingl-Sacsonaidd.
Diolch hefyd am y ddolen i’r blog. Newydd ddod adre o’r ysbyty (roedd angen i Rhiannon gael llawdriniaeth brys), a chyn gynted ag y casglaf fy meddyliau, byddaf yn postio unwaith eto.