
Fe fues i ar y radio heddiw; do, ar Taro’r Post. Fi oedd y filler, yr eitem “Ac yn ola…”, yn llenwi’r pwt bach rhwng y ddadl ffyrnig ynglŷn ag enw newydd cynyrch Hufenfa De Arfon a Newyddion Un.
Fel arfer, fyddwn i ddim wedi cytuno bod ar y rhaglen. Dim byd yn erbyn y rhaglen ei hunan, dim ond mod i ddim yn hoffi clywed fy hunan ar y radio. Dw i wastad yn meddwl mod i’n swnio fel Hwntwr sy’n trial yn galed i beidio dynwared Gog, neu efallai fel Gog sy ddim eisiau swnio fel Cardi, neu rhyw gyfuniad o bob posibiliad yna.
Smo fi’n leicio fo, ’na beth dw i’n treial gwêd, ‘sti?
Ta waeth, pan ges i’r galwad y bore ’ma, oedd y cwestiwn “fasech chi’n fodlon siarad am dy brofiadau bodio/hitch-heico?” mor annisgwyl, ro’n i wedi cytuno cyn i fi gofio mod i ddim yn leico bod ar y radio.
Ro’n i ar ddeall byddai criw bach o bobl ar y lein i drafod bodio, ond na, fi wrth fy hunan diflas bach, treial meddwl am hanesion diddorol o’m hamser fel Prif-Fodiwr Ffordd Blaenau’r Cymoedd (1987 i 1992), cyn i ferch o’r Llyfrgell Genedlaethol ddod arno i siarad am Islwyn Roberts, Llanbedr, boi wnaeth lwcdeithio o gwmpas y byd, am sbort. Roedd e’n rhoi fy stori i am ba mor anodd oedd e cael lifft ma’s o Gaerdydd ar Gyffordd 32 mewn rhyw fath o berspectif. (Am fwy o berspectif, dyma boi o Ffindir sy’n byw heb arian, ac yn bodio ei ffordd trwy Ewrop.)
Ta waeth. Un o’r cwestiynau gofynnodd Dylan i fi oedd ambyti “profiadau annifyr”, ac oedd rhaid i mi ei siomi, gan mod i ddim erioed wedi cael y fath brofiad ar wahan i un boi meddw ar yr M4. Roedd hwnna eisiau i mi ddarllen un o’r cylchgronau arbennig oedd ’da fe yn y blwch menig, ac i “ymlacio”. Ro’n i wedi gweld Two Lane Blacktop digon o weithiau i wybod ble oedd hynny am fynd. Ond hyd yn oed wedyn, i gyd wnaeth y boi oedd pwdu tipyn bach pan ofynnais i iddo fy ngadael wrth ymyl y ffordd ger Swindon yn lle mynd “yr holl ffordd” i Gaerdydd gyda fe.
Fel dwedais i ar y rhaglen, dim ond profiadau braf dw i wedi cael wrth fodio, oherwydd mai dim ond pobl neis sy’n rhoi lifftiau i fodwyr. Ar wahan i ambell hilgi o yrrwr lori, does ’na un person sy wedi rhoi lifft i fi yn yr 25 mlynedd dw i wedi bod wrthi na fyddwn i’n fodlon mynd am beint gyda nhw.
Beth na ddwedais i, ond dylwn i fod wedi, yw bod yr unig bobl gas ti’n debyg i ddod ar eu traws wrth i chi fodio unrhywle ym Mhrydain yw’r cociau dryw sy’n codi eu bodiau nhwthau atat ti wrth gyrru heibio dan chwerthin. Byddai hyn yn digwydd o leia unwaith bob hanner awr o aros, ble bynnag fues i. Ond hyd yn oed wedyn, doedd hyn ddim yn fy hala fi’n grac. Does dim cylchdro glawiog yn y byd sy’n fwy diflas na gorfod rhannu car gyda rhywun â’r lefel ’na o hiwmor, felly o’n i bob tro yn diolch iddyn nhw am beidio stopio.
Ond wnes i ddim dweud hynny. Wnes i ddim hyd yn oed meddwl amdano, tan pum mumud ar ôl i fi ddod off y ffôn. Dyna rheswm arall dw i ddim yn rhy hoff o fod ar y radio. Dw i wastad yn meddwl am y pethau dylwn i fod wedi eu dweud pan mae’n rhy hwyr.
Lwcus bod blog ’da fi.
Oes ’na fodwyr, neu gyn-fodwyr, eraill ma’s fan’na? Rhywun sy wedi cael un o brofiadau annifyr bondigrybwyll yna?