Gan mod i ddim yn chwarae pocyr yn y dafarn ar hyn o bryd, naci’n yfed chwaith, dw i yn fy ngwely cyn tri o’r gloch nos Fercher, sy’n anarferol. Fel canlyniad, dw i’n cael gweld bore dydd Iau, ac yn cerdded gyda Philippa i’r bws (dw i ddim yn gweithio ddydd Iau, oni bai am ddosbarth nos nes ymlaen). Y bore ’ma, roedd popeth mor anhygoel o hardd, dan ei flanced o rew crisial, a’r lleuad llawn yn suddo yn euraidd dros y caeau, a phob dim yn dawel, roedd yn anodd poeni am ddim byd. Ar goll. Meddwl am eiriau Annie Dillard ar gerdded yn y bore:
…and my left foot says Glory and my right foot says Amen
Mae’r hen fyd ’ma mor anhygoel, a ni yw’r mynciod mwya lwcus arno fe.

Post gwych Nic. Mae mynd am dro yn y peth agosaf at weddio yn fy mywyd i hefyd.