Y Llong / The Ship,
Llangrannog,
Ceredigion, SA44 6SL
01239 654510
GoogleMap | Facebook | Twitter | Tumblog
(Blogiad wedi’i addasu o fan hyn.)
Fy local arall, er mod i ddim yn mynychu’r Llong cweit mor aml ag ydw i’r Pentre. Ers i’r dafarn gael ei phrynu gan deulu o Gymry â gwreiddiau dwfn yn Llangrannog, mae’r hen Ship wedi ennill enw i’w hunan fel y dafarn fwya Cymraeg yn yr ardal, yn ogystal â bod â bwydlen wych a dewis eang o gwrwau bendigedig. A gwin, sbo.
Mae o leia tri chwrw ar gael fel arfer, gyda’r pwyslais yn diweddar ar gynnyrch bragdy y Mŵs Piws.
Mae grwp CYD Llangrannog yn cwrdd yn y Llong ar y nos Fercher gyntaf a’r tryddedd bob mis, o hanner awr wedi saith ymlaen.
(Diolch i Rhys am y llun uchod, ac am y trwydded Comins Creadigol sydd arno. Methu credu bod dim llun deca ’da fi fy hun o’r hen Ship.)

Wedi cael bwyd da iawn yn y Ship ar y ddau achlysur bues ui yna. Gwell bwyd na Ship Tresaith (ac mae staff fan’ny yn gyndyn o siarad Cymraeg) a dewis gwell o gwrw.