Gwaed ar yr Eira Gwyn

(Diolch i Dyl Mei am drydar hyn.)

Alun Tan Lan a Richard James yn canu clasur Tecwyn Ifan.

Dw i ddim yn gwybod amdanoch chi, ond ma’n well gen i’r fersiwn hwn, na’r gwreiddiol. A finnau’n Gymro ail-iaith, sy ddim wedi’i fagu ar ganu ysgafn Cymraeg y 60au a’r 70au, mae cerddoriaeth yr adeg yn gallu swnio’n hen ffasiwn iawn. Dw i’n methu gwrando ar Dafydd Iwan o gwbl, er enghraifft, ac er mor fawr fy edmygedd o Tecwyn Ifan, mae ei steil yntau yn rhy gapelaidd i fy nant i, a phrin iawn dw i’n gwrando arno. Mae’n cymryd rhywbeth fel yr ail-fersiwn hyfryd yma, wedi’i wneud gan ddau a gafodd eu magu ar ganeuon clasurol yr adeg (dw i’n cymryd) i wneud i fi weld pa mor wych yw’r gân.

4 thoughts on “Gwaed ar yr Eira Gwyn

  1. Ches i ddim plentyndod Cymraeg yn y 60au a’r 70au chwaith.

    Ond does dim ots achos mae Dafydd Iwan wastad wedi bod yn geidwadol – fel cerddor.

    Dw i’n methu gwrando ar gerddoriaeth BBC Radio Cymru yn ystod yn ddydd am yr un rhesymau. Diffyg agwedd “punk”. Sa’ i’n gallu meddwl am air gwell. Dw i’n hoffi cerddorion o’r nos! (Dw i’n hoffi Meic Stevens.)

    Welaist ti Gadael yr Ugeinfed Ganrif gan Gareth Potter? Mae fe’n sôn am yr un teimlad gyda Tecwyn Ifan. Daeth Tecwyn ychydig yn hwyrach na Dafydd Iwan gyda “Y Dref Wen” pan oedd post-punk yn digwydd.

    Dylwn i ychwanegu bod Tecwyn Ifan yn foi cyfeillgar iawn. Aeth e i’r carchar dros yr iaith yn y 70au gynnar dwywaith.

  2. Fersiwn hyfryd gan Alun Tan Lan (dychmygaf pe tasai Phil Mitchell o ‘Eastenders’ i ganu yn Gymraeg fasa fo’n swnio fel hyn!) er rhaid cyfadde bod llais Tecwyn yn fy mlesio. Ond mae’n rhaid diffodd y radio y dyddiau ‘ma pob tro dwi’n clywed enw grwp gyda ‘hogiau’ ynddo. Mae ‘na swn penodol (piano yn taro’r rhythym arpeggio-aidd, harmoniau ‘eisteddfodol’ triawd hogiau o ryw ardal neu’r llall) sy’n mynd o dan fy ngroen!

  3. Carl: dw i’n nabod Tecwyn, sy’n byw yng Ngoledd Sir Benfro, a ti’n llygad dy le – arwr yw e. Dw i’n cytuno â ti am Dafydd Iwan a Meic Stevens hefyd. Mi oedd Meic yn bync cyn ei amser, ac er bod caneuon DI ag agwedd rebel, mae eu harddull yn geidwadol dros ben. Am resymau teilwng iawn, yn eu hamser, wrth gwrs. ‘Sai “Carlo” a “Peintio’r Byd yn Wyrdd” wedi swnio fel y Sex Pistols, dyw e ddim yn debyg y bydden nhw wedi bod yn ganeuon mor bwysig.

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>