Mae’n disgrifio ei gerddoriaeth fel “Melodramatic Popular Song” ar ei dalen MySpace, ac mae drama yma yn y storiau mynegiadol, wedi’i lliwio gan offer acwstig hen ffasiwn. Dych chi bron â bod yn gallu aroglu’r llwch o’r harmoniwm mewn caneuon fel “And She Is”; dyma un o’r CDs mwya analog dw i wedi clywed ers meityn.
Mae adleisiau yma o Nick Cave a’r Red House Painters, ac hefyd efallai Rheinallt H. Rowlands, ac er bod ’na hiwmor yma hefyd, dyw e ddim ag ofn dweud stori drist mewn llais trist. Mae perygl yn y steil ’ma o gerddoriaeth o fod yn rhy po-faced, wrth gwrs, rhywbeth mae Nick Cave wedi gor-gompensêto amdano yn diweddar nes ei fod e bron yn hunan-barodi. Does dim sut ofn yng nghaneuon D.Gwalia – mae e’n cerdded y wifren uchel rhwng y Grand Guignol a’r pantomeim heb edrych i lawr.
Mae sawl cân ar gael ar sianel YouTube D.Gwalia, gan gynnwys fy ffefryn hyd yn hyn The Cruel Ship’s Captain, mae MP3 i’w lawrlwytho fan hyn, ac mae’r CD ei hun ar gael gan gysylltu â D.Gwalia trwy ei dudalen MySpace.

Newydd wrando ar Red House Painters eto am y tro cyntaf ers y 90au, a dechrau meddwl mod i’n meddwl am rywun arall. Pwy ydw i’n meddwl amdano?