Hacio iTunes

Wedi lawrlwytho iTunes 10 neithiwr, do’n i ddim yn hapus i weld bod Ping yn ymddangos fel eicon di-angen yn y bar ochr. Yn ôl beth o’n i’n gallu ffeindio ar y we, yr unig ffordd i droi hyn bant yw i fynd i mewn i ddewisiadau “Rheoliaeth Rhieni” iTunes a datddewis “iTunes Store”. Felly dyna beth wnes i. Nawr dw i hyd yn oed yn llai tebyg i ddefynddio siop Apple i brynu MP3s.

Sori, Steve.

Tra mod i’n chwarae o gwmpas gyda iTunes, dw i wedi wneud bach o waith trosi ar y ffeil Localizable.strings, er mwyn cael rhyngwyneb (arwynebol) Cymraeg. Dw i ddim wedi mynd yn ddwfn iawn efo’r cyfieithiad, ond mae popeth dw i’n gweld fel arfer wedi’i drosi, sy’n ddigon da i fi.

Oedd ’na brosiect anffurfiol blynyddoedd yn ôl i leoli llawer o raglenni Apple i’r Gymraeg, ond dw i ddim yn cofio a gâth iTunes ei wneud amser hynny. Rhywun arall yn gybod?

(O.N. newydd sylwi mod i wedi camsillafu “Teclynnau” yn y trosiad. Y twpsyn.)

6 thoughts on “Hacio iTunes

  1. “…converting the file Localizable.strings…”? Isn’t that dabbling in the darks arts? Good luck, though and I hope all your hard work doesn’t get undone by the next update ;-)

    Any problems with iTunes in general? I’ve been holding off updating iTunes or iOS4.2 on the iPods.

  2. Not sure what happened with that last post, looks like I started hitting keys at random.

  3. Ah, you’ll soon be writing perfect Welsh, if you stick to the “hitting keys at random” approach.

    It looks like GoogleTranslate has been tripped up by the word “trosi” – I meant it as “translate”, although “convert” is another possible meaning.

    I wouldn’t rush into downloading iTunes 10, unless you really want to use Ping. I usually prefer a clean interface, but I think they might’ve gone a bit too far down the minimalist road with this one. I expect I’ll get used to it, but I miss the gris layout of iTunes 9. This is how it looks now:

  4. Fel yn gwmws wyt ti’n ei gyfieithu? Dwi’n mynd mewn i localisable strings ac yn newid e i’r Gymraeg ond dyw e ddim yn ymddangos amser dwi’n agor Itunes lan?

  5. Y ffeil haciais i Contents/Resources/en_GB.lproj/Localizable.strings

    Mae sawl ffolder “lproj” yn Resources – rhaid wneud yn siwr dy fod di’n newid y fersiwn mae iTunes yn defnyddio ar dy sustem di.

    A wneud bacyp yn gyntaf!

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>