Prin iawn bod chi ddim wedi clywed am hyn eto, ond mae’n ddiwrnod Pethau Bychain heddiw ’ma, ac mae’r rhithfro ar dân fel Ysgol Fomio Penyberth ers talwm. Yn anffodus, bydd rhaid i mi golli’r rhan fwya o’r miri wrth iddo ddigwydd, gan ein bod ni’n disgwyl ymwelwr arbennig yn y man, ond byddai’n trial dal i fyny nes ymlaen.
Dw i wedi dechrau blog bach ar yr ochr, sy jyst yn gasgliad (dyddiol? gawn ni weld) o gerddi dw i wedi dod ar eu traws ac yn hoffi am un rheswm neu’r llall.
Dyddiol dyddiol!
Dw i’n postio at y dyfodol wrth i ni siarad, Carl.
Pingback: Pethau Bychain – casgliad amser cinio | Pethau Bychain
“trydar mewn catrawdau” — cerddi gwych. Dwi’n hoffi’r blog bach newydd ar yr ochr.