Separado!


(Gwyliwch y fersiwn fwy, mae’n lot well.)

Dw i’n edrych ymlaen yn arw at weld Separado!, ffilm gan Dylan Goch am ymdrechion Gruff Rhys i ganfod y cerddor o’r Wladfa, René Griffiths. Bydd ymddangosiad yng ngŵyl y Dyn Gwyrdd, y lle delfrydol i weld ffilm ffordd seicadelig Gymreig, tybiwn i.

Mae rhifyn newydd Sight & Sound yn cynnwys adolygiad da o’r ffilm, sy’n ddiddorol o agored ynglyn ag anwybodaeth cyffredinol y Sais am hanes Cymru:

..the most striking (especially for anyone outside of Wales unaware of this particular historical byroad) is the sheer strangeness of Argentines named Griffiths or Jones dipping from Spanish into Welsh [..] Not knowing any better, one might be tempted to take this for an elaborately staged leg-pull..

Drueni am capsiwn y llun aeth gyda’r erthygl: Powys ranger: Gruff Rhys. Sdim ots bod Gruff ddim yn dod o Bowys, mae e’n Gymro, ac yn gwisgo helmed. Dim byd mawr, wrth gwrs, ond digon i gadw fi ar-dihun y bore ’ma am bump o’r gloch, ar ôl dihuno i fynd i’r tŷ bach.. Rant i flog arall, falle.

One thought on “Separado!

  1. Mae rhifyn newydd Sight & Sound yn cynnwys adolygiad da o’r ffilm, sy’n ddiddorol o agored ynglyn ag anwybodaeth cyffredinol y Sais am hanes Cymru

    Dw i’n deall, baswn i ddisgwyl mwy o newyddiadurwr Sight & Sound.

    Ond dyma reswm arall pam dw i’n meddwl bod ffilm fel Separado! yn wych. Ac albymau fel Mwng ac Yr Atal Genhedlaeth! Kudos i Gruff Rhys achos mae fe’n deall sut i “allforio” (fy ngair) diwylliant Cymraeg i’r byd.

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>