Hwyl fawr, Ronnie James Dio. \m/
Wedi bod yn meddwl am ddechrau blog newydd er mwyn cofnodi ein teithiau cerdded, ac i fod yn aide-mémoire i fi, sy’n cofio popeth am y gig cyntaf i mi weld 30 mlynedd yn ôl, ond ddim i ble es i am dro wythnos diwetha.
Ni chwardder, blantos, mi ddaw i chwi hefyd.
Wedyn, cofiais i fod blog ’da fi eisioes, a hwnna heb ei ddefynddio am ddim byd y dyddiau ’ma. Mewn ysbryd di-wastraff yr oes, dyma fi felly yn ail-gylchu yr henflog i fod yn ddyddiadur personol a fydd o lai o ddiddordeb byth i neb arall nag oedd Morfablog ers talwm. Ar wahan i ddysgwyr yn fy nosbarthiadau, sy’n hoff iawn o ddod yma a chywiro’r gwallau iaith.
Mae’n bosib y bydd ambell i gofnod sy’n cofnodi’r gorffennol yn ymddangos yma, os dw i’n ffeindio’r amser i sgwennu am y teithiau cerdded dw i wedi wneud yn diweddar. Bydda i’n eu nôl-ddyddio nhw, a fydd hynny’n bryfoclyd iawn i unrhywun sy’n dilyn hyn ar ddarllenydd RSS. Sori.
Wâc bach arferol bore Llun heddi, yn hebrwg Philippa lan i Bentregât. Trïo esbonio pwysigrwydd Ronnie James Dio iddi gan ddweud bod “hen ganwr Black Sabbath wedi marw”. Hithau’n edrych arna i yn syn. “Na”, ychwanegais, “nid Ozzy, y boi wnaeth gymryd drosodd, Ronnie James Dio.” Mwy o syndod byth. Doedd hi ddim yn gwybodbod cysylltiad rhwng Ozzy Osbourne a Black Sabbath, heb sôn bod cantorion eraill i gael. Meddwl am fynd ymlaen i ddilyn hanes coeden achau Sabbath, ond sylweddoli bod hynny yn waith wâc10 milltir, a dim ond 2 filltir yw hi i Benregât. Dylwn i fod wedi meddwl am hyn ddoe, ond do’n i ddim wedi clywed am Dio tan neithiwr.
Cerdded yn ôl gan wrando ar bodlediad In Our Time ar William James a’r Varieties of Human Experience. Un o’r pennodau gorau o’r raglen wych yma. Heb ddarllen James ers dyddiau coleg, ac eisiau wneud hynny nawr, sy’n tueddu disgwydd ar ôl IoT da.
Tybed ai hwn fydd y blogiad cyntaf i gael ei dagio ag enwau William James a Ronnie James Dio?