Ynys Bŷr

Llun gan informationtakesover ar Flickr

Llun gan informationtakesover ar Flickr

Penwythnos gweddol rhydd felly bant â ni ddydd Gwener i Ynys Bŷr, rhywle dw i heb fod ers mhlentyndod. Sdim llawer o lefydd mae dyn yn gallu dweud hyn amdanynt: so fe wedi newid o gwbl. Mae o leia 30 mlynedd ers i mi fod ar yr ynys, efallai 35, ac er bod fy nghof amdano mor frith (eithin, persawr, mynachdy a goleudy) roedd popeth fel petai wedi’i gadw mewn amber. Er bod y lle yn dibynnu ar dwristiaeth, ac mae digon o bethach kitsch yn y siop anrhegion, does dim hysbysebion hufen iâ ac ati, a dim cerddoriaeth cefndirol ond am glochau hyfryd yr eglwys a bach o plainchant yn y swyddfa bost. Do’n i ddim yn cofio’r cwch glanio gwych, felly mae’n debyg oedd y llanw yn uwch y tro diwetha i mi fod yma.

Mae’r lle yn drysordy o gorneli bach tawel, a gweithiau celf hardd heb lawer o ddim i dynnu sylw’r twristiaid atyn nhw. Mae bedyddfaen yn Eglwys Sant Illtud sydd, yn ôl ei olwg, a’r llyfryn bach gwelais i yn y siop, o waith Eric Gill, ond dw i’n methu ffeindio dim byd ar lein i gadarnhau taw Gill wnaeth. Mae’n edrych fel ei waith, ond dw i ddim yn arbennigwr. Ddim yn hawdd yw Gwglo “Eric Gill” a “font”, wrth reswm.

Ar ôl dod yn ôl i’r tir mawr, a gwastraffu bach o amser edrych yn y siopau yn Ninbyh-y-Pysgod, aethon ni i Faenorbyŷr, lle sawrodd fy hwyliau tamaid bach gan Seisnigrwydd y castell yna. Ddim yn siwr pam bod hyn wedi fy moddran cymaint; doedd e ddim fel bod Dinbych a’r Ynys ei hun â llawer o Gymreictod i’w weld, ond mae castell Normaniaidd gyda dim un gair o’r hen iaith i groesawu darpar ymwelwyr yn gam yn rhy bell mewn i Loegr Fychan. Aethon ni i Dafarn y Castell am beint bach o Aur yr Ymennydd.

Tafarn Sinc gan traed mawr ar Flickr

Tafarn Sinc gan traed mawr ar Flickr


Bant â ni wedyn i ymweld â ffrind sy’n byw yn Rosebush. Tra bod hi a Philippa yn mynd â mab y tŷ i gig yn Arberth, es i i un o hoff dafarnau’r ardal i ddarllen a llyncu cwpl o beints o laeth y mwnci.

Diwrnod tawel ddoe, tywydd ddim yn arbennig. Trist oedd clywed y newyddion am Iwan Llwyd yn y bore, a nes ymlaen am Dennis Hopper. Dau rebel mewn un diwrnod.

Gyda’r nos, ma’s i Gastell Newydd Emlyn i helpu ffrind a chyd-diwtor Cymraeg, Richard Vale, ddathlu agoriad ei fenter newydd, Paned Un. Caffi bach drws nesa i dafarn y Pelican ydyw, a neithiwr wnaethon nhw rostio mochyn druan, a chynnig cacennau heb eu hail.

Dod adre â’m bola’n dynn, i dreulio gweddill y noson gwylio’r iPlayer ar y Wii, gan fod ein teledu dal ddim yn gweithio’n iawn.

Wedi bwriadu mynd am dro heddi, ond ffeindio bod poen yn fy mhenglin, rhywbeth sy wedi mhoeni o’r blaen. Debyg bod cysylltiad rhwng y bola tyn a’r penglin bregus, felly dim mwy o gacennau, a bach llai o gwrw, i fi am am sbel.

Crwydro Llandudoch

[Blogiad gwadd eto gan Carol Holloway, sy'n mynychu fy nosbarth Canolradd yng Ngholeg Ceredigion. Y tro ’ma, adroddiad taith gerdded gyda Cherddwyr Cylch Teifi yn Llandudoch. Os hoffech chi gael gwybod am deithiau'r dyfodol (ddim jyst i ddysgwyr), rhowch wybod yn y sylwadau yma.]

Roedd criw tri deg tri o bobl wedi cwrdd ym maes parcio Llandudoch yn awyddus i gychwyn taith gerdded o dan arweiniad Roy Davies.

Aethon ni ar lan afon Teifi, heibio i “gerrig ateb” a sawl coeden enfawr sydd wedi cael eu torri ar lan yr afon. Croeson ni’r ffordd i ymuno â llwybr sy’n mynd heibio i Gastell Abro. Mae hen dloty/gweithdai yno. Cafodd e ei ddefynddio tan y tridegau, ces i fy synnu i weld yr adeiladau sy’n dal i edrych yn gryf. Maen nhw’n dweud bod crwydriad oedd yn gallu cael rhyle i gysgu a brecwast yno, os roedden nhw’n gweithio yn torri cerrig i’r ffyrdd. Roedd y cyntaf o lawer o gamfeydd yma, yn wahanol i gyd, ac roedd blodau’r gwanwyn yn blodeuo, megis llysiau’r ychen, blodau’r gwynt, llygaid Ebrill, briallu, a chlychau’r gog. Cafodd eithin ei blygu yma hefyd, sy’n anghyffredin iawn.

Cyn i ni groesi’r ffordd sy’n mynd i Drewyddel ro’n i’n mynd heibio i ardd bert iawn gyda rhododendron wedi blodeuo. Ro’n ni’n cerdded tua ardal Cwm Degwel. Mae’r cwm yn serth iawn! Cafodd e ei wneud yn yr oes iâ. Pasion ni’r tŷ pinc, sy’n enwog iawn y dyddiau ’ma, achos cafodde ei adeiladu gyda bêls gwellt.

Aethon ni i lawr i’r pentre eto ac aethon ni heibio i arwyddion y cwymp tir. Ro’n ni’n mwynhau cwpaned neu drinc a sgwrs wedyn, i orffen y bore. Mae hi wedi bod yn fore arbennig o dda gyda chwmni da iawn ac oedd cymaint o bethau arbennig o prydferth. Roedd y blodau gwyllt ar eu gorau a’r tyfaint yn newydd iawn. Yn wir dyn ni mor lwcus!

Diolch i Carol am ganiatâd i rannu ei gwaith cartre! Dyma manylion y wâc nesa, a’r un ola i ni cyn i ni gael toriad am yr haf:

————————————————————
DYDD SADWRN, 12 MEHEFIN 2010
————————————————————
CERDDWYR CYLCH TEIFI – Y PRESELAU
Y Preselau: Foel Drygarn a Charn Meini
Cwrdd yn y lle parcio ger Croes Mihangel (SN 165 331), ar fin y ffordd sy’n arwain o Grymych i Fynachlog-ddu, am 10.30yb.
Arweinydd: Dyfed Elis-Gruffydd

Daytum

Daytum - Cwrw yr Wythnos Hon

Wedi cofrestru ar Daytum, safle digon syml sy’n gadael i ddyn gasglu gwybodaeth am bethau pwysig ei fywyd, fel faint o gwrw mae’n yfed mewn wythnos, ac yn fwy pwysig byth, faint o gwrwau gwahanol mae’n llyncu.

Erbyn i chi ddarllen hwn, bydd y data uchod wedi newid, gan fod un botel Wainwright ar ôl ’da fi lawr stâr.

17 peint mewn wythnos. Lightweight.

Hand it Over

Cerdded i’r bws y bore ’ma, y tro cyntaf mae wedi teimlo’n ddigon twym i fod yn wanwyn. Ar y bws, un o’r gyrrwyr gwallgo, sy’n gyrru fel ynfytyn er mwyn cyrraedd Aberteifi â digon o amser i sbario i gael mwgyn bach cyn gyrru nôl i Aberystwyth. Gyda bonws ychwanegol o gael Wunnerful Radio One yn chwarae yn uchel dros y lle i gyd. Rhaid bod yn anghymdeithasol a plygio mewn i’r iPod. A beth sy’n dod lan ar y shyffl ond, wel, Brothers and Sisters, are you ready to testify?

Cyrraedd y dre a digon o amser i ffeindio rhywbeth newydd i’w ddarllen. A’r peth cyntaf i mi weld yn Smiths yw stondin llawn I Am Ozzy, ar bris arbennig o £3.99. Wedi bod yn darllen trwy’r dydd heddi a heno, ac mae’n sgrech o lyfr. Bob stori Sabbath dych chi wedi clywed o’r blaen, ac un neu ddau chi ddim. Newydd gyrraedd rhan dau o’r llyfr, sef Ozzy ar ei ben ei hun, neu’n hytrach, Ozzy dan adain Sharon Arden. Rhywsut, dw i ddim yn meddwl bydd ail hanner y llyfr cymaint o hwyl â’r hanner cyntaf.

Gweld David Edwards amser cinio, sy’n dweud ei fod e wedi priodi! Ddim yn siwr os yw e’n tynnu nghoes neu beidio, yn enwedig pan mae’n mynd ymlaen i ddweud ei fod yn dechrau recordio eto cyn bo hir gyda band newydd, Dave Datblygu a’r IRA Bomb Threat. Dweud hefyd ei fod e’n edrych ymlaen at adeg llawer mwy creadigol iddo fe, nawr bod gennym lywodraeth Tori eto, ac yn joio eironi bod David Cameron i fod yn ffan y Smiths, band a berfformiodd gân â’r teitl Shoplifters of the World Unite.

Ar ôl y dosbarth, ffeindio cwpl o lyfrau ail-law hardboiled mewn siop elusen: Another Little Drink gan Peter Cheyney a Deep Water gan Patricia Highsmith, hen ffefryn ac awdur cyfres anfarwol Tom Ripley.

Ar y bws adre, dechrau gwrando ar hen albyms Sabbath wrth ddarllen llyfr Ozzy, a chyrraedd hanner ffordd trwy Paranoid (dyma fe ar Spotify) erbyn i mi gerdded adre. Am newid, ddim wedi treulio noson gyfan chwarae WoW, ond wedi gwylio cwpl o bennodau’r cyfres Outnumbered gyda Ph, a drama bach yn dodji am y Royal Wedding.

Tawelwch ym Myd Crefft Rhyfel

Mae Byd Creftt Rhyfel yn lle swnllyd weithiau, felly roedd yn braf darganfod rhyw dro yn ôl ei fod yn bosibl troi bant effeithiau sain fesul un, os oes digon o amynedd gyda chi. Yn anffodus, bob tro dw i’n cael llond bol o’r gêm a dileu popeth o’r cyfrifiadur, dw i’n angohio cadw copi o sut i dawelu pethau, ac mae rhaid ail-ddysgu hyn y tro nesa i mi gwympo oddi ar y gambo. Dyma fe, felly:

  • Llawrlwythwch gopi o’r rhestr ffeiliau sain – hwnna yw fersiwn patsyn 3.3.3, Gwglwch wow sounds update txt am y fersiwn diweddaraf.
  • Ffeindiwch enw ffeil y sŵn pryfoclyd. Dyma’r darn mwya anodd, achos nid bob tro bydd yn amlwg pa ffeil sy’n perthyn i ba sŵn yn y gêm. Rhai dw i wedi eu darganfod (a chael gwared ohonynt) yw:
    • ../Sound/Doodad/Ancient_Draenei_Lamppost.wav
    • ../Sound/Doodad/Ancient_Draenei_Lamppost.wav
    • ../Sound/Doodad/DR_Cables01.wav
    • ../Sound/Doodad/DR_Cables01.wav
    • Sound/Doodad/GuildVault_Goblin_01Stand.wav (Guild Bank swnllyd)
    • ../Sound/Vehicles/MotorcycleVehicleStand.wav
  • Creu ffeil testun gwag, a’i enwi gyda enw’r ffeil chi moyn dileu.
  • Creu llwybr yn eich ffolder WoW/Data/Sound/ sy’n dilyn llwybr llawn yr enw ffeil yn y rhestr testun, gan greu is-ffolderi newydd lle bo angen
  • A dyna fe.

Gallwch arbofi gydag enwau ffeil gan copio’r enw ffeil a’i gludo mewn i sianel sgwrsio yn y gêm. Er enghraifft, os teipiwch chi /script PlaySoundFile("Sound\\Vehicles\\MotorcycleVehicle\\MotorcycleVehicleStand.wav"),fe glywch chi sŵn motobeic.

Rhaid i mi (ail-)ffeindio enwau ffeil iâr-feic y nôm nesa.

(Dw i’n poeni tipyn bach bod y blog yn fishi dro yn ddim byd mwy na lle i mi gadw copi o bethau dw i ddim eisiau eu hanghofio.)

Blogia imi flogiad, blogiwr wyt

Hwyl fawr, Ronnie James Dio. \m/

Wedi bod yn meddwl am ddechrau blog newydd er mwyn cofnodi ein teithiau cerdded, ac i fod yn aide-mémoire i fi, sy’n cofio popeth am y gig cyntaf i mi weld 30 mlynedd yn ôl, ond ddim i ble es i am dro wythnos diwetha.

Ni chwardder, blantos, mi ddaw i chwi hefyd.

Wedyn, cofiais i fod blog ’da fi eisioes, a hwnna heb ei ddefynddio am ddim byd y dyddiau ’ma. Mewn ysbryd di-wastraff yr oes, dyma fi felly yn ail-gylchu yr henflog i fod yn ddyddiadur personol a fydd o lai o ddiddordeb byth i neb arall nag oedd Morfablog ers talwm. Ar wahan i ddysgwyr yn fy nosbarthiadau, sy’n hoff iawn o ddod yma a chywiro’r gwallau iaith.

Mae’n bosib y bydd ambell i gofnod sy’n cofnodi’r gorffennol yn ymddangos yma, os dw i’n ffeindio’r amser i sgwennu am y teithiau cerdded dw i wedi wneud yn diweddar. Bydda i’n eu nôl-ddyddio nhw, a fydd hynny’n bryfoclyd iawn i unrhywun sy’n dilyn hyn ar ddarllenydd RSS. Sori.

Wâc bach arferol bore Llun heddi, yn hebrwg Philippa lan i Bentregât. Trïo esbonio pwysigrwydd Ronnie James Dio iddi gan ddweud bod “hen ganwr Black Sabbath wedi marw”. Hithau’n edrych arna i yn syn. “Na”, ychwanegais, “nid Ozzy, y boi wnaeth gymryd drosodd, Ronnie James Dio.” Mwy o syndod byth. Doedd hi ddim yn gwybodbod cysylltiad rhwng Ozzy Osbourne a Black Sabbath, heb sôn bod cantorion eraill i gael. Meddwl am fynd ymlaen i ddilyn hanes coeden achau Sabbath, ond sylweddoli bod hynny yn waith wâc10 milltir, a dim ond 2 filltir yw hi i Benregât. Dylwn i fod wedi meddwl am hyn ddoe, ond do’n i ddim wedi clywed am Dio tan neithiwr.

Cerdded yn ôl gan wrando ar bodlediad In Our Time ar William James a’r Varieties of Human Experience. Un o’r pennodau gorau o’r raglen wych yma. Heb ddarllen James ers dyddiau coleg, ac eisiau wneud hynny nawr, sy’n tueddu disgwydd ar ôl IoT da.

Tybed ai hwn fydd y blogiad cyntaf i gael ei dagio ag enwau William James a Ronnie James Dio?