Diolch i Júda adael sylw ar y cofnod isod, dw i wedi darganfod ei flog, Digital Words. Ieithydd yng Nghaersalem yw Júda, gyda diddordeb mewn ieithoedd Celtaidd, ymysg eraill. Mae’r rhan helaeth o’i flog wedi’i sgwennu yn Hebraeg, ond gyda chymorth ein cyfaill Google, dw i’n gallu cael y gist. (Drueni bod y cyfieithydd yn gweithio cymaint yn well o Hebraeg i’r Saesneg, yn hytrach nag i’r Gymraeg, ond dyna fe.)
Ond ffeindiais i un cofnod Saesneg, ambwytu’r Gymraeg ac iaith elfaidd Tolkien, Sindarin: Dull Tengwar Cymraeg, ac wedi pori’n bellach, copi o’i bapur (yn Saesneg eto) ar agweddau cyfieithu Harri Potter i’r Gymraeg.
Hefyd, newydd ddod ar draws y papur Between Narrative and Dialogue: Syntactical Features of Signalling Speech in Narrative in Modern Welsh, sy’n edrych yn ddifyr ond bydd rhaid i fi ei ddarllen fory, os bydd amser.
Talwrn y Beirdd yn Hermon nos fory, gyda Tîm Tanygroes yn erbyn Crannog, a’r Cŵps yn erbyn Glannau Teifi.
Tamaid i aros pryd, gan fy hoff fardd yn y byd mawr crwn:
Cegin
Rwy’n disgwyl, mewn gwael hwyliau – i gogydd
y gegin dymhorau
agor y ddôr i ryddhau
aer ei wanwyn i’m ffroenau.
Swnio’n ddoleni difyr, bydd rhaid i fi gael sbec.
Yn Hermon Sir Aberteifi, ta Hermon Iwdea oedd y talwrn (o ystyried prif bwnc y cofnod!)
Ha, do’n i ddim wedi meddwl am hynny.
Ddim un o’r ddau. Hermon, Sir Gâr yw e, neu “Hermon y Bwyd” fel y’i gelwir gan selogion y Talwrn.