Coleg Sir Benfro a GoogleTranslate

Mae gan Coleg Sir Benfro wefan uniaith Saesneg sydd erbyn hyn yn cynnwys teclyn GoogleTranslate i ddarparu fersiwn Gymraeg o’r safle, ynghyd â fersiwn bob iaith arall dan yr haul.

Dyma’r enghraifft cyntaf dw i wedi gweld o sefydliad a ddylai fod yn ddwyieithog sy’n dewis defynddio cyfieithydd Google er mwyn arbed bach o arian. Mae’n methu ar gymaint o lefelau mae’n anodd gwybod ble i ddechrau.

O’r gorau. Os dych chi’n mynd i adael i’ch defnyddwyr ddibynnu ar beiriant cyfieithu, dyw e ddim yn syniad da i gynnwys testun mewn JPGs ar eich tudalen blaen. Dyma “fersiwn Gymraeg” y dudalen flaen:

Picture 1

Pa mor Gymraeg yw hynny?

Unwaith mae defnyddiwr yn mynd i mewn i’r wefan ei hunan, mae GoogleTranslate yn wneud jobyn eitha da o gyfieithu’r cynnwys (ond yn wneud job lot well o’i gyfieithu i Ffrangeg, siwr o fod), bron a bod yn ddigon da i rywun sy wir eisiau defnyddio dim ond y Gymraeg gael wneud hynny.

Bron a bod.

Dyma’r dudalen am Bagloriaeth Cymru. Eto, mae ’na dalp mawr o destun uniaith Saesneg sy mewn ffurf graffeg a felly yn anweledig i Google. Wedyn mae perlau yn y cyfieithiad, fel hyn:

Gofynnodd Exeter (Caerdydd) ar gyfer dau brecwast yn lefel-A a basio i Fagloriaeth Cymru i astudio bioleg yno, roeddent yn awyddus iawn ar y Bac Cymreig yn fy cyfweliad.

“Exeter (Caerdydd)” yw Prifysgol Caerwysg a’r “dau brecwast” yw dwy radd B (pwy a ŵyr pam).

Nawr dw i’n gwybod fy mod i wedi bod yn efengylaidd am GoogleTranslate yma yn y misoedd diwetha, a does dim byd yma sy’n newid fy meddwl ar werth y teclyn ei hunan. Ond wedi dweud hynny, fi oedd un o’r cyntaf i pw-pwio pryderon y rhai llai efengylaidd pan dwedon nhw y bydd pobl yn defnyddio GoogleTranslate yn lle cyflogi cyfieithwyr go iawn.

A dyma fe’n digwydd eisoes, mewn sefydliad addysg bellach.

A oes ots ’da myfyrwyr y Coleg?

This entry was posted in Iaith, Technoleg and tagged , . Bookmark the permalink. Post a comment or leave a trackback: Trackback URL.
[Digg] [Facebook] [Google] [MySpace] [Reddit] [Technorati] [Twitter] [Email]

5 Comments

  1. Posted Rhagfyr 23, 2009 at 3:32 pnawn | Permalink

    Urgh! Ofnadwy!

    Mae gwahaniaeth rhwng pobol a “chwmniau” yn fawr iawn. Dw i’n awgrymu Google Translate am “gist” o’r Gymraeg – yn unig.

    Ddylai coleg ddim yn defnyddio Google Translate o gwbl. Hmm, mae’n teimlo “anghywir” i defnyddio fe i gyfieithu pethau i mewn Gymraeg yn cyffredin.

    Efallai dylen ni creu flowchart yn Saesneg – “am I allowed to use Google Translate?” e.e. “Are you an individual with a blog?”, “Are you a company or organisation?”

  2. neilwyn
    Posted Rhagfyr 23, 2009 at 6:54 pnawn | Permalink

    Mae’n cywilydd o beth bod Coleg yng Nghymu sy’n meiddio rhoi eu henw Cymraeg ar eu ‘logo’ yn mor ddiog a difater ynglŷn â un o ieithoedd swyddogol eu gwlad, mae’n sarhaus mewn gwirionedd! Tybed os mae ‘na gyrsiau cyfrwng Cymraeg i gael yna?

  3. Posted Rhagfyr 23, 2009 at 7:40 pnawn | Permalink

    Oedd llythyr yn y Teifi-Seid (papur lleol Aberteifi) ynglyn ag agwedd gwael Cyngor Sir Benfro tuag at yr iaith yn diweddar. Wna i drial ffeindio fe.

  4. Posted Rhagfyr 23, 2009 at 10:41 pnawn | Permalink

    Dwi wedi sylwi fod ‘ail-ddylunio gwefan’ yn un o’r esgusion cynta mae rhai cyrff yn defnyddio i beidio cynnwys cyfieithiad Cymraeg. Ydi cyngor Torfaen wedi cyfieithu’u gwefan eto? Na.. beth yw hynny nawr.. saith mlynedd ar ôl ail-lansio?

    Wrth edrych ar yr archif dwi’n gweld fod gan Coleg Sir Benfro wefan ddwyieithog yn 2006. Fe ddiflannodd yn ail-ddyluniad 2007 gyda’r neges hynod ddefnyddiol:

    Nid yw’r dudalen hon ar gael yn y Gymraeg ar hyn o bryd, felly fe’ch cynghorir i glicio ar y ddolen yma er mwyn i chi gael y wybodaeth berthnasol neu cysylltwch â Swyddog Datblygu’r Iaith Gymraeg y Coleg ar 01437 753435 am wasanaeth Cymraeg.

    Ar y llaw arall ar ôl blynyddoedd o wefan saesneg yn unig, mae fwy o gynnwys Cymraeg yng nghwefan Coleg Gwent, heblaw am bethau fel newyddion a chyrsiau – diffyg sydd yn cael ei nodi yn eu “cynllun laith” (sic).

    Y broblem o hyd yw fod y cyrff yma i gyd yn gallu paratoi cynllun iaith sy’n cael eu ‘gymeradwydo’ gan Fwrdd yr Iaith ond does gan y bwrdd ddim unrhyw ffordd alla’i weld o sicrhau fod e’n cael ei weithredu.

  5. Posted Rhagfyr 24, 2009 at 3:05 pnawn | Permalink

    Mae Polisi Iaith Coleg Sir Benfro 2006-2009 ar wefan y Bwrdd.

    Mae’n agor gan ddweud:

    ‘Mae Coleg Sir Benfro wedi derbyn yr egwyddor y bydd wrth weithredu busnes cyhoeddus yng Nghymru yn rhoi triniaeth gyfartal i’r ieithoedd Saesneg a Chymraeg. Mae’r Cynllun yn amlinellu sut y bydd Coleg Sir Benfro yn gweithredu’r egwyddor honno wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru.’

    Hefyd, o dan adran “Hunaniaeth Gorfforaethol y Coleg”

    8.1.6 Bydd y gwaith o ddatblygu gwefan ddwyieithog y Coleg yn parhau yn ystod oes y Cynllun hwn.

    Mae gyda nhw jyst dros wythnos i bennu’r gwaith, felly. Pob lwc gyda hynny.

Post a Comment

Your email is never published nor shared. Required fields are marked *

*
*

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

  • Now Available in the Language of Your Choice (More or Less)

  •  

  • Archif

  •  

  • Pigion

  • Sylwadau Diweddar