Mae gan Coleg Sir Benfro wefan uniaith Saesneg sydd erbyn hyn yn cynnwys teclyn GoogleTranslate i ddarparu fersiwn Gymraeg o’r safle, ynghyd â fersiwn bob iaith arall dan yr haul.
Dyma’r enghraifft cyntaf dw i wedi gweld o sefydliad a ddylai fod yn ddwyieithog sy’n dewis defynddio cyfieithydd Google er mwyn arbed bach o arian. Mae’n methu ar gymaint o lefelau mae’n anodd gwybod ble i ddechrau.
O’r gorau. Os dych chi’n mynd i adael i’ch defnyddwyr ddibynnu ar beiriant cyfieithu, dyw e ddim yn syniad da i gynnwys testun mewn JPGs ar eich tudalen blaen. Dyma “fersiwn Gymraeg” y dudalen flaen:
Pa mor Gymraeg yw hynny?
Unwaith mae defnyddiwr yn mynd i mewn i’r wefan ei hunan, mae GoogleTranslate yn wneud jobyn eitha da o gyfieithu’r cynnwys (ond yn wneud job lot well o’i gyfieithu i Ffrangeg, siwr o fod), bron a bod yn ddigon da i rywun sy wir eisiau defnyddio dim ond y Gymraeg gael wneud hynny.
Bron a bod.
Dyma’r dudalen am Bagloriaeth Cymru. Eto, mae ’na dalp mawr o destun uniaith Saesneg sy mewn ffurf graffeg a felly yn anweledig i Google. Wedyn mae perlau yn y cyfieithiad, fel hyn:
Gofynnodd Exeter (Caerdydd) ar gyfer dau brecwast yn lefel-A a basio i Fagloriaeth Cymru i astudio bioleg yno, roeddent yn awyddus iawn ar y Bac Cymreig yn fy cyfweliad.
“Exeter (Caerdydd)” yw Prifysgol Caerwysg a’r “dau brecwast” yw dwy radd B (pwy a ŵyr pam).
Nawr dw i’n gwybod fy mod i wedi bod yn efengylaidd am GoogleTranslate yma yn y misoedd diwetha, a does dim byd yma sy’n newid fy meddwl ar werth y teclyn ei hunan. Ond wedi dweud hynny, fi oedd un o’r cyntaf i pw-pwio pryderon y rhai llai efengylaidd pan dwedon nhw y bydd pobl yn defnyddio GoogleTranslate yn lle cyflogi cyfieithwyr go iawn.
A dyma fe’n digwydd eisoes, mewn sefydliad addysg bellach.
A oes ots ’da myfyrwyr y Coleg?
