Gwefannau y Canolfannau

Dw i wedi cael cynnig bach o waith cynnal a chadw y gwybodaeth ar wefan Canolfan Cymraeg i Oedolion y Ganolbarth, sy’n hala i fi feddwl am strwythr darpariaeth Cymraeg i Oedolion, ac yn enwedig ei bresenoldeb ar y we.

Cafodd maes CiO ei ail-strwythro yn sylfaenol sawl blwyddyn yn ôl, pan sefydlwyd chwe chanolfan rhanbarthol sydd erbyn hyn yn gyfrifol am ddarparu dosbarthiadau. Mae Canolfan y Ganolbarth yn cyfro ardal eang iawn, ac yn contracto ma’s y darpariaeth; yng Ngheredigion, i Brifysgol Aberystwyth sy’n darparu cyrsiau dwys, Wlpanaidd, ac i Gyngor Sir Ceredigion sy’n wneud y cyrsiau unwaith-yr-wythnos. Mae’r Ganolfan hefyd â chyfrifoldeb dros Powys a Meirionydd, a sa i’n siwr pwy sy’n gyfrifiol am y dosbarthiadau yna. Mae’r sefyllfa yn rhannau eraill Cymru yn debyg, am wn i, gyda Chanolfannau yn gweithio mewn partneriaeth â darparwyr y dosbarthiadau, ac yn gyfrifol yn uniongyrchol am bethau fel marchnata cyrsiau ac hyfforddi staff.

Mae gan pob un o’r chwe Chanolfan ei gwefan ei hunan, sef (yn nhrefn eu pellder o Gaerdydd, natch):

Reit. Dyma fy mhwynt cyntaf. Heb edrych yn ôl at y rhestr uchod, dych chi’n gallu cofio un o’r URLiau? Dim ond un ohonyn nhw sy’n cynnwys enw y ganolfan, mae dau ohonyn nhw bron yn union yr un peth, un arall yn debyg iawn, a’r ddau ola yn byw mewn is-ffolder ar wefannau’r colegau sy’n rhoi llety i’r Canolfannau.

Pa mor anodd byddai prynu un parth a rhoi un cyfeiriad sy’n wneud synnwyr, ac sy’n hawdd i gofio, i bob Canolfan? Rhywbeth fel hyn:

Gwaith 5 munud oedd creu’r cyfeiriadau yna, ond dw i nawr yn gallu dweud wrthoch chi beth yw cyfeiriad gwe pob Canolfan Cymraeg i Oedolion trwy Cymru gyfan, a dyw e ddim wedi costio dim byd i’r Cynulliad.

Hei, croeso.

Pwynt dau. Gan fod pwrpas a chynnwys pob un o’r gwefanau yn debyg iawn i’w gilydd, pam oedd rhaid talu i ddatblygu chwe gwefan hollol newydd yn y lle cyntaf?

O’r gorau, mae ateb i hwnna tu hwnt i fi.

This entry was posted in Blogio a'r We, Dysgu and tagged . Bookmark the permalink. Post a comment or leave a trackback: Trackback URL.

5 Comments

  1. Posted Tachwedd 20, 2009 at 4:29 pnawn | Permalink

    O’n i’n arfer gofyn yr un peth am y Mentrau Iaith. 23 o wefannau (24 yn cynnwys Patagonia) gwahanol, o wahanol safon a delwedd gan gwmniau gwahanol. O’n i’n meddwl bydde nhw wedi sortio hyn erbyn nawr..

  2. Posted Tachwedd 20, 2009 at 4:53 pnawn | Permalink

    Wel, mae rhai y Gogledd wedi cyfuno, felly mae rhywbeth wedi newid yna.

    Mae lot o safleoedd y De (Rhondda Cynon Taf, Bro Ogwr ac Abertawe, er enghraifft) wedi’u hadeiladu ar yr un patrymlun, felly mae’n debyg bod arian wedi’i arbed yna.

    Anodd dweud pwy fyddai’n ennill mewn cystadleuaeth i gynllunio gwefan hyllaf bosibl. Dw i’n dechrau hiraethu am Geocities ar ôl pori trwy’r pethau ‘na am ddeg munud.

  3. Posted Tachwedd 22, 2009 at 10:38 bore | Permalink

    Wedi gweithio i ddau Ganolfan ac un Menter Iaith mae hwn yn agos at fy nghalon.

    Mae’r holl Fentrau (fel y Canolfanau) i gyd yn endidau annibynol, ond mae ychydig o gydweitho yn digwydd. Yn y de ddwyrain un person sydd wedi bod yn gyfrifol am sefydlu’r holl wefannau o Gastell-Nedd Port Talbot hyd at y gororau. Mae o wedi gwnuud y peth yn wirfoddol mwy neu lai, er mae’n amlwg bod Penri’n treulio rhan helaeth o’i ymddeoliad yn creu a chynnal y gwefannau hyn. Mae o wedi dysgu php i ‘w hun, ac er nad yw’r gwefannau’n edrych yn wych, mae’nt i gyd yn darparu sustem CMS i staff y Mentrau, ac mae RSS gyda nhw ar gyfer digwyddiadau a newyddion (i gyd yn cael eu bwydo i iaith.org).

    Gwendid hyn oll ydy nad yw’r Mentrau efallai’n sylweddoli faint yn union yw gwerth ariannol yr holl waith a phan fydd Penri wedi cael digon, efallai na fydd eraill yn deall sut i gynnal y wefan. Yn ddiweddar mae Penri wedi gofyn i mi os ydw i’n nabod rhywun sy’n dallt php a fyddai’n gallu cymryd drosodd, ond alla i ddim dychmygu neb yn fodlon cymryd yr holl beth ymlaen yn wirfoddol.

    Tyd’r Mentrau ddim yn derbyn llawer o gyllid yn ychwnaegol i gostau staff, felly mae rheged gweithgareddau a’u hyrwyddo’n gorfod cael eu gwneud ‘ar y tsiep’.

    Mae yma gyfle efallai i unigolyn neu gwmni ddod ymlaen a chynnig pecyn i’r Mentrau (gallant ofyn am wahoddiad i un o gyfarfodydd chwarterol Mentrau Iaith Cymru) i adeiladu 23 gwefan syml ar WordPress i bob un, gyda’r union yr un ffunctions (CMS a digwyddiadur), ond am bris rhesymol. [Carl, Rhys Llwyd?]

    O ran gwefannau’r canolfannau, mae nhw’n amrywio o ran edrychiad a safon. O ran edrychiad, dw i’n meddwl mai un Gwent sy’n edrych orau ac mae gyda nhw adran digwyddiadau a newyddion sy’n cael eu diweddaru, er does yna ddim RSS (pwyntias hyn allan iddynt pan gafodd y wefan ei lawnsio, ond doedd dim diddordeb/dealltwriaeth gyda nhw). Biti rili, achos cwmni allanol gafodd ei dalu i’w wneud o a ddim adran TG Coleg Gwent ei hun.

    Mae un Caerdydd yn OK, mae llawer o wybodaeth arno, ond mae’n anodd dod o hyd i bethau. Mae gyda nhw swyddog sy’n canolbwyntio ar TG sy’n cael rhyddid i arbrofi tipyn. Mae gwefan y Ganolfan yn defnyddio GoogleCalendr ar gyfer digwyddiadau a blog Typepad ar gyfer newyddion dysgwyr, gyda’r ddau wedi eu integreiddio i’r wefan, ac hefyd wedyn yn darparu RSS (dw i wedyn wedi ei gysylltu a chyfrifi Twitter @deddwyrain). Mae gan y ganolfan gyfrif YouTube, cyfrif ar wasanaeth podledu ac o leiaf 2 grŵp facebook (sydd ddim yn cael eu defnyddio!).

    Dw i’n licio’r ffordd syml ac effeithiol ti’n cyfuno Delicious a Google Docs i restru digwyddiadau dysgwyr ardal Aberteifi, Nic – wyt ti am ddefnydio rhywbeth tebyg i’r Ganolfan?

  4. Posted Tachwedd 22, 2009 at 1:48 pnawn | Permalink

    Nic, y pwynt cyffredinol yw branding dros pob cyfrwng. Mae URLiau yn perthnasol ond dylen nhw yn gweithio gyda hysbysebu, ymgyrch gwasg, ayyb.

    Beth bynnag, rwyt ti wedi gwneud pwynt pwysig. Mae dysgu.com yn gweithio yn dda fel “proof of concept“.

    Dw i’n datblygu strategaeth cyfryngau cymdeithasol am Cymraeg i Oedolion gyda DCELLS ar hyn o bryd.

    Y prif URL mae nhw yn defnyddio yw welshforadults.org
    Mae brand “Welsh for Adults” yn dda, mae’n hawdd i sillafu a deall (i pobol di-Gymraeg).

    Mae’n pwysig i defnyddio yr un URL led led Cymru – achos hysbysebu, ymgyrch gwasg. Ond dyn ni wedi cael problemau bach gyda hwn hefyd (os ti’n ymweld ti’n cael tiwtoriaid…). Felly dyn ni’n trio i datblygu rhywbeth sy’n cyson a gweithio i dysgwyr.

    Sori os mae manylion yma yn amlwg. Diod rhywbryd? Hoffwn i trafod mwy.
    :-)

    Rhys, swnio fel prosiect WordPress MU efallai. Ond rhaid i mi darllen y manylion.

  5. Posted Tachwedd 22, 2009 at 2:52 pnawn | Permalink

    Diolch am yr atebion, y ddau ohonoch chi.

    Rhys: do’n i ddim yn gwybod am waith Penri, ac yn amlwg dw i’n teimlo fel casddyn nawr am ddweud nhw y safleoedd yn hyll. Dyw’r cylchlythyr wythnosol ddim yn rhan o ngwaith i’r Ganolfan, gyda llaw, jyst rhywbeth dw i’n wneud er mwyn helpu dysgwyr yr ardal. Roedd sôn am nhalu am y gwaith, ond a bod yn onest dw i’n hapusach wneud e am ddim – ‘sai fe’n dod yn rhan o’r gwaith byddwn i’n teimlo’n wahanol amdano. Mae hefyd issue o breifatrwydd; i fi mae pobl wedi rhoi eu cyfeiriadau ebost, nid i’r Ganolfan.

    Carl: falch clywed dy fod di’n gweithio gyda DCELLS. Dw i’n cytuno am welshforadults.org fel URL sy’n hawdd i gofio, a gobeithio bydd defnyddio callach ohono fe yn y dyfodol. Dw i’n cytuno am bwysigrwydd brading yn y cydestun, jyst drueni bod y wahanol Canolfannau yn ail-ddyfeisio’r olwyn gyda’u gwefannau.

Post a Comment

Your email is never published nor shared. Required fields are marked *

*
*

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

  •  

  • Archif

  •  

  • Pigion

  • Sylwadau Diweddar