(Dim Cymraeg? Get the gist with Google Translate.)
Darllen stori ar Golwg360 ambytu tafarn ym Mhontypridd sydd wedi ymestyn eu busnes gan agor deli yn y dafarn. Difyr.
Mae’r dafarn yn rhan o fusnes Bragdy Otley, a wnaeth hynny dal fy sylw oherwydd i mi arfer yfed yn yr Otley Arms, Trefforest, amser o’n i yn y coleg yna. Do’n i ddim wedi clywed bod y teulu Otley wedi symud ymlaen i’r byd bragu, a dw i ddim wedi gweld eu cwrw ar werth rownd fan hyn, ond mae gyda nhw syniadau diddorol ynglŷn â sut i farchnata cwrw go iawn.
Traditionally Real Ales have suffered from what I call, “the woolly cardigan and beard syndrome”. The way most real ales have been promoted in the market place is like that of an old comfort blanket. Names that express snuggled up feelings, quiet places in the country side, old lost uncles and tired innuendos are too numerous to mention and as much as the responsible brewers think they are being witty, they are only seeming tired, droll, over ripe and worst of all they end up alienating a large portion of the market.
Yn llygaid eu lle. Mae ’na gwrwau da dw i ddim yn eu prynu oherwydd eu henwau “doniol” a’r delweddau cawslyd maent yn yn rhoi ar eu poteli. Ydy’r bragdai yna wir yn credu yn y delwedd ystadebol o ddyn canol oed, barfog a thew fel yr unig bobl sy’n prynu cwrw da? Nid dim ond aelodau CAMRA sy’n mwynhau cwrw go iawn, ac nid pob aelod y gymdeithas hynod yna sy’n ffito’r ystrydeb flinedig, wrth gwrs. Mae ond eisiau edrych ar y cwrw sydd ar gael o siop ar-lein Otley i weld enghreifftiau lu o’r ffug-ddonioldeb mae Otley’n ceisio ei osgoi: Ale Mary, High As a Kite, Taffy’s Tipple, Ramnesia. Dw i’n hoff iawn o’r un ola yna, sy’n dod o fragdy lleol i ni, Pen-lôn, ond mae enwi cwrw cryf fel hyn yn wneud i ddyn eisiau yfed llai ohono fe, nid mwy. Sut mae hynny’n gweithio’n dda i’r bragdy?
Dw i’n gwybod taw beth sydd yn y botel sy’n bwysig, nid beth sy ar y label, a dw i ddim yn awgrymu y byddwn i’n mynd am Carlsberg dros Bishop’s Finger petai hynny oedd yr unig ddewis, ond mae’n rhywbeth gwerth meddwl amdano, ac mae’n bosibl bod gormod o fragdai yn cymryd y llwybr amlwg heb feddwl am y bobl sy ddim yn rhan o’r farchnad “draddodiadol” cwrw go iawn.
5 Comments
Est ti’r Otley Arms yn Nhrefforest? Tafarn da iawn. Gallen ni cwrdd yna rhywbryd.
Dyn ni’n trefnu ein digwyddiad bach yna – weithiau.
http://hedyn.net/geekcluster
Sa i wedi bod yna ers blynydde, ddim ers gadael y coleg yn 1990.
Ond hoffwn i, wrth gwrs.
Mae cwrw Otley yn fendigedig, ac ar gael yn y Mochyn Du a Chlwb y Bont reit aml.
Tydy’r enwau a delweddau naff ar labeli poteli cwrw go iawn ddim yn poeni cymait arna i (mae’n debyg gan mod i wedi eu derbn fel ‘part-and-parcel’ o’r profiad ‘sbo, ond mae’n debyg tydy o ddim o anghenraid y ffordd gorau o ddenu yfwyr newydd.
Wedi bod i’r Otley yn Nhrefforest unwaith – y dafarn gynta i fi fod ynddi ar nos Sadwrn ble roedd Noson Lawen ymlaen ar y teledu (ond gyda’r sain i ffwrdd diolch byth).
I don’t think I ever made to the Otley. I used to travel over 200 miles to visit you and Ade, only to sit indoors all weekend. It might have been nice to have been shown the sights of Treforest
Like the label. I’ll look out for it at Utobeer, Borough Market.