Pwy fydd yn meddwl am y plant?

Newydd gweld hwn ar Golwg360, am y poster diweddaraf gan Gymdeithas Dyneiddwyr Prydain.

Mae’r posteri’n dangos plant yn sefyll o flaen y neges, gyda disgrifiadau amdanyn nhw – “Plentyn Catholig, Plentyn Protestannaidd, Plentyn Mwslim, Plentyn Hindŵ a Phlentyn Sikh”.

Er bod y llun ar wefan Golwg ddim yn ddigon o seis i’w ddarllen yn hawdd, mae’r poster hefyd yn cynnwys y disgrifiadau eraill, megis Plentyn Dyneiddaidd, Plentyn Anffyddiol, a fy ffefryn i, Plentyn Ôl-Fodernaidd.

Does dim sôn am y rhain yn yr erthygl, sy’n ddiddorol ynddo ei hunan.

3mx12m_w565

Dw i’n methu’n lân gweithio ma’s beth sy’n wneud y poster yma yn “beryg i blant”, chwedl Linda Morgan, cynghorydd Dinas Caerdydd. Dyw’r poster ddim yn sôn am beidio dysgu plant am grefydd, na ddim hyd yn oed am fynd â nhw at eglwys neu fosg, dim ond i beidio eu labeli cyn iddyn nhw gyrraedd oedran pan allen nhw ddewis eu labeli eu hunain.

Ond mae newyddion da i gael, hefyd:

Er ei bod yn cydnabod bod gan Gymdeithas Dyneiddwyr Prydain “yr hawl i gyfathrebu neges o’r fath” doedd y cynghorydd, Linda Morgan, sy’n Gristion a Cheidwadwr, ddim yn licio’r syniad, meddai.

Dw i’n falch gweld nag yw Cyng. Morgan yn meddwl bod dim hawl i Gymdeithas Dyneiddwyr Prydain godi’r fath bosteri achos byddai dweud rhywbeth fel hynny yn ffasgaidd. Felly, diolch am beidio bod yn ffasgydd, Linda. Mae hynny’n golygu llawer. Ond mae hefyd yn ddiddorol gweld bod chi’n eistedd ar Cyngor Sefydlog Ymgynghorol dros Addysg Grefyddol yn y Brifddinas. Does bosib bod eich safbwynt ar bosteri’r Dyneiddwyr wedi’i liwio gan eu hymgyrch ehangach yn erbyn ysgolion ffydd?

This entry was posted in Newyddion and tagged , . Bookmark the permalink. Post a comment or leave a trackback: Trackback URL.

5 Comments

  1. Posted Tachwedd 19, 2009 at 9:57 pnawn | Permalink

    Be dwi ddim yn hoffi yw’r posteri o gwmpas Caerdydd sy’n hyrwyddo digwyddiadau sy’n ‘hawlio’r ddinas dros Grist’ (ar gyfer un sefydliad ac enwad penodol). Mae nhw’n yn targedu myfyrwyr y brifysgol hefyd. Fe allech chi alw rhain yn ‘beryg i bobl ifanc’, carfan o gymdeithas sydd yn aml yn chwilio am arweiniad ac atebion mewn tref (neu wlad) anghyfarwydd.

    Un peth da am bosteri yr ‘All Nations Church’ yw ei bod nhw’n cael eu gorchuddio yn fuan iawn gan flyers am gigs ac ati.

  2. Posted Tachwedd 19, 2009 at 10:15 pnawn | Permalink

    O fflipin fflip, mae eu gwefan nhw fel rhywbeth fyddet ti’n disgwyl ffeindio ar yr Onion. Dw i ddim am yrru traffig o fan hyn, ond mae’n ddigon hawdd i’w Gwglo.

    Er enghraifft:

    Get Stuck In?

  3. Posted Tachwedd 19, 2009 at 10:37 pnawn | Permalink

    Y peth clyfar/sinistr yw eu bod nhw’n cael tipyn o arian oddi wrth y Brifysgol (Caerdydd a’r un Agored) oherwydd fod ganddyn nhw adeilad cynadledda fodern a lle i gynnal arholiadau. Fe wnaeth Vaughan Roderick nodi hyn hefyd.

  4. Posted Tachwedd 19, 2009 at 11:27 pnawn | Permalink

    Hôli môli! Tro cyntaf i fi glywed am y criw ’ma.

  5. neilwyn
    Posted Tachwedd 21, 2009 at 12:26 bore | Permalink

    Dwi’n erbyn ysgolion ffydd, yn enwedig y rhai sy’n cael eu hariannu gan y llywodraeth.
    Wrth cwrs yn y pendraw mae gan rhieni’r hawl i fagu eu phlant mewn pa bynnag ffydd eu bod nhw’n ei dilyn, ond dylai pob plentyn cael yr hawl i addysg mewn ysgol diragfarn, ac heb cael eu pwylldreisio (gobeithio mai hynny’n golygu ‘breinwasio’…) mewn un ffydd yn penodol. Fan hyn mae gynnon ni ysgolion gramadeg o hyd (yn y sector ‘stêt), rhywbeth arall sy’n hollol anghywir yn fy marn i, ond na chafodd y llywodraeth Llafur erioed y ceilliau i neud dim byd amdanynt, felly pa siawns o wneud unrhywbeth am ysgolion ffydd…. dim llawer tybiwn i…

Post a Comment

Your email is never published nor shared. Required fields are marked *

*
*

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

  •  

  • Archif

  •  

  • Pigion

  • Sylwadau Diweddar