Hen Bysgodyn

Syndod i weld Morfablog mewn rhestr o 10 Blog “Amatur” Gorau ar wefan Golwg360. Ddim yn siwr beth dw i wedi wneud i haeddu’r fath sylw. Fel mae’r erthygl yn awgrymu, prif nodwedd Morfablog yn diweddar yw fy mod i’n sôn byth a beunydd am roi’r gorau i’r blogio yn gyfan gwbl.

Mae Carl yn tynnu sylw at y gair “amatur” yn y darn. Ond fel dwedais i yn mewn sylw ar yr un cofnod, mae’n fwriad gen i i beidio bod mor negyddol trwy’r amser, felly dw i am gofleidio’r anrhydedd â chalon agored, a dechrau gweithio ar strategaeth i adael i fi oddiweddyd Dogfael a Rhys erbyn Nadolig. Bydd pasio gîcs Metastwnsh yn hawdd wedyn. Byddan nhw i gyd yn rhy fishi chwarae gyda’r teclynnau newydd mae Siôn Corn wedi stwffio yn eu sanau i sylwi bod yr hen bysgodyn am godi eto.

Bwahaha!

This entry was posted in Blogio a'r We, Morfablog and tagged . Bookmark the permalink. Post a comment or leave a trackback: Trackback URL.

4 Comments

  1. Posted Tachwedd 18, 2009 at 10:31 bore | Permalink

    Y rheswm wnes i gynnwys y gair ‘amatur’ ydi nad oeddwn i eisiau gorfod rhoi sylw i flogiau proffesiynol sy’n cael digon o sylw yn barod. Fel arall mae;n siwr y byddai Vaughan Roderick neu rywbeth yn rhif 1 – ond mae pawb yn gwybod am y blog yna ac yn ei ddarllen yn barod. Roeddwn i eisiau rhoi sylw i flogiau eraill sy’n cael eu pweru gan ddim ond dyfalbarhad a gwaith caled.

    A mae ‘amatur’ yn fyrrach na ‘deg blog gora nad yw’r awdur yn cael eu talu i’w sgwennu nhw’, ayyb. ;)

    Prif Is Hen Bysgodyn Golwg 360

  2. Posted Tachwedd 19, 2009 at 1:07 pnawn | Permalink

    Chwarae teg, Ifan. Basai e’n braf os fydd pobol yn dechrau blogiau newydd ar ol dy erthygl. Rydyn ni gyd yn gallu byw a chyhoeddi gyda’n gilydd!

    Gyda llaw, allen nhw ysgrifennu dy enw wrth dy erthyglau?

    Sori am fy gramadeg.

  3. Posted Tachwedd 19, 2009 at 4:38 pnawn | Permalink

    Dw i ddim yn poeni am y gair “amatur”, ond dw i ddim yn gweld bod rhaid gwahaniaethu rhwng blogwyr sy’n cael eu talu a’r rhai sy ddim. Mae rhywbeth naill ai yn werth ei ddarllen neu dyw e ddim. Dyw e ddim yn poeni fi bod blog Vaughan Roderick yn boblogaidd – o leia mae ei flog e yn teimlo fel blog “go iawn”, wrth gymharu â rhywbeth mae rhywun yn cael ei orfodi wneud i fod “i lawr gyda’r plantos”.

    Ta beth, oedd yn erthygl ddiddorol, ac mae’n flin ‘da fi os ydw i wedi dod ar draws fel hen bysgodyn cribachllyd wrth ei thrafod. Fe wnes i wir chwerthin yn uchel pan welais i fy enw ‘na, ond doedd e ddim mor ddoniol â gweld yr erthygl ar Wikipedia oedd rhywun wedi sgwennu amdana i (ar ôl darllen dy beth di?):

    His regularly updated and highly informative blog, morfablog.com, still attracts a keen and loyal following, testament to the esteem in which he is held by many from all quarters of modern-day Welsh society. He is recognised amongst many in the Welsh internet fraternity as the undisputed Godfather of Welsh language blogs.

    Miow. ;-)

  4. Posted Tachwedd 20, 2009 at 3:28 bore | Permalink

    ‘ undisputed godfather of Welsh language blogs.’
    Yn ddios ! Dy flog di oedd y cyntaf i lawer o flogwyr Cynraeg ei ddilyn , a ti ddaru fy ysgogi fi i ddechrau sgwennu Blog .
    Ti’n haeddu bod yn y deg uchaf ‘chan. :)
    Miow !

Post a Comment

Your email is never published nor shared. Required fields are marked *

*
*

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

  •  

  • Archif

  •  

  • Pigion

  • Sylwadau Diweddar