Mae dros 6 blynedd ers i mi sgwennu cofnod yma a oedd yn dwyn y teitl Dim Gair Diolch. Cwyno o’n i yn y cofnod hwnna bod pobl yn tueddu anfon dogfennau MS Word fel atodiadau, heb feddwl a fyddai’r bobl oedd yn eu derbyn yn gallu eu hagor, ac heb boeni chwaith am yr amser sy’n cael ei wastraffu yn y broses. Soniais i yn 2003 am yr ymgyrch yn erbyn atodiadau MS Word; dw i’n falch o weld bod y wefan yna dal yn bodoli, ond prin iawn bod ei neges wedi lledu yn bell.
Ces i ebost neithiwr oedd yn cario atodiad 560KB Microsoft Word.
Am hwyl, ar ôl i mi lawrlytho’r peth, a’i agor yn Google docs, wnes i copi a gludo’r testun mewn i Textedit, i weld faint o wybodaeth defnyddiol oedd wedi’i gynnwys yn yr hanner megabeit yna.
4KB.
Y gweddill, bob 556KB ohono, oedd rwtsh fformatio MS Word, a’r logos anochel sy’n rhan o unrhyw ddogfen sy’n cael ei creu mewn sefydliad yng Nghymru.
Mewn geiriau eraill: 0.71% oedd yn neges, 99.29% oedd yn sŵn.
Nawr, mae pethau wedi newid ers 2003. Mae band llydan ’da fi erbyn hyn, er enghraifft, felly doedd dim rhaid i fi aros munud neu ddwy i lawrlwytho’r ddogfen yn y lle cyntaf, a thalu am y fraint. Ond dydy hyn ddim yn wir i bawb, yn enwedig yn y rhan yma o Gymru.
Y peth arall sy wedi newid yw mod i’n gallu agor atodiadau MS Word erbyn hyn, naill ai gan ddefynddio Open Office neu trwy Google Docs, fel y gwnes i’r tro ’ma. Ond nid hynny yw’r pwynt. Pam yn y byd dylwn i gael fy nghorfodi agor rhaglen arbennig arall er mwyn darllen pwt o destun sy’n llai o faint, ar ran y gwybodaeth go iawn, na’r blogiad pitw yma? Erbyn i mi danio Open Office neu agor Google Docs mewn tab arall a lanlwytho’r ddogfen iddo, gallwn i fod wedi darllen y testun i gyd, pe tasai’r testun yna wedi’i gynnwys yng nghorff yr ebost fel y dylai fe fod wedi.
Na, dw i ddim wedi trafod hyn gyda’r person wnaeth anfon y neges. Wel, ddim y tro ’ma, ta beth. Dw i wedi gofyn i’r person o leia tair gwaith yn y gorffennol i beidio anfon Word Docs fel hyn ond dyw’r neges yna ddim wedi cyrraedd, mae’n amlwg. Ac i fod yn onest, nid fy job i yw e i ddysgu sgiliau sylfaenol Technoleg Gwybodaeth i staff [enw sefydliad].
Mae’n debyg y byddai’r person yma yn dadlau y byddai fe’n cymryd mwy o amser i gopio cynnwys y Word Doc i mewn i neges ebost cyn i anfon. Ond mae’r neges wedi mynd at o leia 20 unigolyn – debyg iawn at lot mwy, ond mae 20 cyfeiriad wedi’u CCio yn y copi ges i. Mae bob un o’r bobl yna wedi gorfod lawrlwytho dogfen 560KB er mwyn darllen gwerth 4KB o destun, wedi gorfod naill ai agor MS Office neu beth bynnag arall sy gyda nhw sy’n gallu handlo’r ddogfen, ac mae rhai ohonyn nhw wedi wneud hyn yn eu horiau gwaith. Felly, er mwyn arbed hanner munud o amser y person a sgwennodd y ddogfen, mae (o leia) 10 munud o amser pobl eraill wedi’i wastraffu. (Dw i ddim yn sgwennu hyn o rant yn fy oriau gwaith, gyda’r llaw, rhag ofn i chi boeni. Dw i’n cael fy nhalu wrth yr awr am fy oriau dysgu. Dyma beth dw i’n wneud am hwyl ar ddiwedd diwrnod o ddysgu Wlpan.)
Ces i gopi arall o’r un neges y bore ’ma, ac mae’n debyg taw nid fi yw’r unig person i gael mwy nag un fersiwn ohoni.
Hyd yn hyn, dw i ddim wedi dod ar draws person arall sy’n meddwl bod y busnes yma o bwys o gwbl. Dw i’n gwybod bod digon o bobl yn meddwl taw wastraff amser llwyr yw Twitter, ond faint sy’n poeni am yr amser sy’n cael ei wastraffu bob dydd mewn sefydliadau ledled Cymru, gan diffyg dealltwriaeth sylfaenol o ymarfer da defnydd Gwybodaeth Technoleg?
Och a gwae.
O leia dyw [enw sefydliad] ddim wedi mabwysiadu Comic Sans fel ei ffont o ddewis ar bob dogfen fewnol, fel [enw sefydliad arall] alla i ei grybwyll.
Rant go dda
Mae gormod o bobl mewn swyddfeydd yn defnyddio cyfrifiaduron heb unrhyw hyfforddiant sylfaenol, yn enwedig ar ddefnydd priodol o wahanol dechnoleg.
Rwy’n derbyn atodiadau Word drwy’r amser gan gleientiaid, ac oherwydd y ffordd ‘ryfedd’ dwi’n darllen ebost (mewn xterm) mae’n cael ei beipio’n syth i antiword, er mwyn dangos y wybodaeth hanfodol – y testun – yn unig.
Weithiau mae rheswm da dros wneud hyn – er mwyn gwneud yn siwr fod testun yn cael ei basio i ni gyda’i fformatio cywir ac yr acenion iawn. Er mae rhan fwyaf o feddalwedd ebost modern yn defnyddio UTF-8 erbyn hyn ac yn gallu trosglwyddo testun yn ddi-drafferth.
Ar adegau eraill, mi fydd rhyw dwpsyn yn dangos ebost yn dweud “Please see attached” gyda dogfen Word gyda un brawddeg ynddo.
Weithiau wrth gwrs mae’r ddogfen yn cynnwys gwybodaeth mwy na testun. Yn aml mae’n cynnwys sgrîn-lun mae rhywun wedi ei gymeryd er mwyn dangos problem ar wefan i ni. Ond dyna broblem gyda creu sgrîn-lun yn Windows. Mae’n debyg fod Windows 7 yn gwneud hyn yn haws ac o bosib yn llawer gwaeth. Dwi ddim yn edrych ymlaen i’r diwrnod pan fyddwn ni’n cael ebost gyda fideo 15MB ynddo i alluogi y defnyddiwr ddangos yn union pam nad yw ei gwefan yn gweithio “fel mae nhw’n ddisgwyl”.
Y broblem fwya cyffredin gyda llaw, yw ei bod nhw yn defnyddio ffycin IE6.
Still using Word at work – there is talk of upgrading to latest version of office soon. I have tried Neo Office at home (can’t run Open Office on my trust PPC iMac!) and although it takes an age to load, and is a bit sluggish, it does the job well. I haven’t really used Google Docs.
I’m working on a book at the moment, where our author has used many of Word’s bells and whistles, but sadly not the more useful ones, that would have saved me more time when paging into our InDesign template. I suppose he thought he was being clever, bless him.
Hoelen, pen, ayyb…:-)
Ond rhaid bod chdi’n tynnu coes am Comic Sans?!
Dw i yn defnyddio Word yn gwaith, ac yn cael y hassle rhyfedda oherwydd bod y words ar y cyfrifiaduron newydd yn safio popeth yn awtomatig yn fformat docx a’r rhai hyn yn eu safio yn fformat doc. Does dim gwahaniaeth rhwng y ddau hyd y gwela’i, a dwi’n dechrau drwgdybio bod o jesd yn esgus i orfodi pobol i dalu am y fersiwn diweddara o word fel bod modd agor ffeiliau docx. Bah!