Cipolwg ar y Gorffennol

Dw i’n mynd trwy hen gofnodion, twtio teitlau, ychwanegu tagiau ac yn y blaen – dim byd rhy Stalinaidd, ni phoener – ond wrth wneud hyn mae’r hiraeth yn llifo fel sbeis. Bydda i’n dympio dolenni i bethau sy’n dal fy llygad fan hyn. Mae’n bosibl bydd y cofnod hwn yn tyfu dros amser…

Gwefannau y Canolfannau

Dw i wedi cael cynnig bach o waith cynnal a chadw y gwybodaeth ar wefan Canolfan Cymraeg i Oedolion y Ganolbarth, sy’n hala i fi feddwl am strwythr darpariaeth Cymraeg i Oedolion, ac yn enwedig ei bresenoldeb ar y we.

Cafodd maes CiO ei ail-strwythro yn sylfaenol sawl blwyddyn yn ôl, pan sefydlwyd chwe chanolfan rhanbarthol sydd erbyn hyn yn gyfrifol am ddarparu dosbarthiadau. Mae Canolfan y Ganolbarth yn cyfro ardal eang iawn, ac yn contracto ma’s y darpariaeth; yng Ngheredigion, i Brifysgol Aberystwyth sy’n darparu cyrsiau dwys, Wlpanaidd, ac i Gyngor Sir Ceredigion sy’n wneud y cyrsiau unwaith-yr-wythnos. Mae’r Ganolfan hefyd â chyfrifoldeb dros Powys a Meirionydd, a sa i’n siwr pwy sy’n gyfrifiol am y dosbarthiadau yna. Mae’r sefyllfa yn rhannau eraill Cymru yn debyg, am wn i, gyda Chanolfannau yn gweithio mewn partneriaeth â darparwyr y dosbarthiadau, ac yn gyfrifol yn uniongyrchol am bethau fel marchnata cyrsiau ac hyfforddi staff.

Mae gan pob un o’r chwe Chanolfan ei gwefan ei hunan, sef (yn nhrefn eu pellder o Gaerdydd, natch):

Reit. Dyma fy mhwynt cyntaf. Heb edrych yn ôl at y rhestr uchod, dych chi’n gallu cofio un o’r URLiau? Dim ond un ohonyn nhw sy’n cynnwys enw y ganolfan, mae dau ohonyn nhw bron yn union yr un peth, un arall yn debyg iawn, a’r ddau ola yn byw mewn is-ffolder ar wefannau’r colegau sy’n rhoi llety i’r Canolfannau.

Pa mor anodd byddai prynu un parth a rhoi un cyfeiriad sy’n wneud synnwyr, ac sy’n hawdd i gofio, i bob Canolfan? Rhywbeth fel hyn:

Gwaith 5 munud oedd creu’r cyfeiriadau yna, ond dw i nawr yn gallu dweud wrthoch chi beth yw cyfeiriad gwe pob Canolfan Cymraeg i Oedolion trwy Cymru gyfan, a dyw e ddim wedi costio dim byd i’r Cynulliad.

Hei, croeso.

Pwynt dau. Gan fod pwrpas a chynnwys pob un o’r gwefanau yn debyg iawn i’w gilydd, pam oedd rhaid talu i ddatblygu chwe gwefan hollol newydd yn y lle cyntaf?

O’r gorau, mae ateb i hwnna tu hwnt i fi.

Cwrw Go Iawn i Bawb

(Dim Cymraeg? Get the gist with Google Translate.)

Darllen stori ar Golwg360 ambytu tafarn ym Mhontypridd sydd wedi ymestyn eu busnes gan agor deli yn y dafarn. Difyr.

Cwrw Otley, PontypriddMae’r dafarn yn rhan o fusnes Bragdy Otley, a wnaeth hynny dal fy sylw oherwydd i mi arfer yfed yn yr Otley Arms, Trefforest, amser o’n i yn y coleg yna. Do’n i ddim wedi clywed bod y teulu Otley wedi symud ymlaen i’r byd bragu, a dw i ddim wedi gweld eu cwrw ar werth rownd fan hyn, ond mae gyda nhw syniadau diddorol ynglŷn â sut i farchnata cwrw go iawn.

Traditionally Real Ales have suffered from what I call, “the woolly cardigan and beard syndrome”. The way most real ales have been promoted in the market place is like that of an old comfort blanket. Names that express snuggled up feelings, quiet places in the country side, old lost uncles and tired innuendos are too numerous to mention and as much as the responsible brewers think they are being witty, they are only seeming tired, droll, over ripe and worst of all they end up alienating a large portion of the market.

Yn llygaid eu lle. Mae ’na gwrwau da dw i ddim yn eu prynu oherwydd eu henwau “doniol” a’r delweddau cawslyd maent yn yn rhoi ar eu poteli. Ydy’r bragdai yna wir yn credu yn y delwedd ystadebol o ddyn canol oed, barfog a thew fel yr unig bobl sy’n prynu cwrw da? Nid dim ond aelodau CAMRA sy’n mwynhau cwrw go iawn, ac nid pob aelod y gymdeithas hynod yna sy’n ffito’r ystrydeb flinedig, wrth gwrs. Mae ond eisiau edrych ar y cwrw sydd ar gael o siop ar-lein Otley i weld enghreifftiau lu o’r ffug-ddonioldeb mae Otley’n ceisio ei osgoi: Ale Mary, High As a Kite, Taffy’s Tipple, Ramnesia. Dw i’n hoff iawn o’r un ola yna, sy’n dod o fragdy lleol i ni, Pen-lôn, ond mae enwi cwrw cryf fel hyn yn wneud i ddyn eisiau yfed llai ohono fe, nid mwy. Sut mae hynny’n gweithio’n dda i’r bragdy?

Dw i’n gwybod taw beth sydd yn y botel sy’n bwysig, nid beth sy ar y label, a dw i ddim yn awgrymu y byddwn i’n mynd am Carlsberg dros Bishop’s Finger petai hynny oedd yr unig ddewis, ond mae’n rhywbeth gwerth meddwl amdano, ac mae’n bosibl bod gormod o fragdai yn cymryd y llwybr amlwg heb feddwl am y bobl sy ddim yn rhan o’r farchnad “draddodiadol” cwrw go iawn.

Pwy fydd yn meddwl am y plant?

Newydd gweld hwn ar Golwg360, am y poster diweddaraf gan Gymdeithas Dyneiddwyr Prydain.

Mae’r posteri’n dangos plant yn sefyll o flaen y neges, gyda disgrifiadau amdanyn nhw – “Plentyn Catholig, Plentyn Protestannaidd, Plentyn Mwslim, Plentyn Hindŵ a Phlentyn Sikh”.

Er bod y llun ar wefan Golwg ddim yn ddigon o seis i’w ddarllen yn hawdd, mae’r poster hefyd yn cynnwys y disgrifiadau eraill, megis Plentyn Dyneiddaidd, Plentyn Anffyddiol, a fy ffefryn i, Plentyn Ôl-Fodernaidd.

Does dim sôn am y rhain yn yr erthygl, sy’n ddiddorol ynddo ei hunan.

3mx12m_w565

Dw i’n methu’n lân gweithio ma’s beth sy’n wneud y poster yma yn “beryg i blant”, chwedl Linda Morgan, cynghorydd Dinas Caerdydd. Dyw’r poster ddim yn sôn am beidio dysgu plant am grefydd, na ddim hyd yn oed am fynd â nhw at eglwys neu fosg, dim ond i beidio eu labeli cyn iddyn nhw gyrraedd oedran pan allen nhw ddewis eu labeli eu hunain.

Ond mae newyddion da i gael, hefyd:

Er ei bod yn cydnabod bod gan Gymdeithas Dyneiddwyr Prydain “yr hawl i gyfathrebu neges o’r fath” doedd y cynghorydd, Linda Morgan, sy’n Gristion a Cheidwadwr, ddim yn licio’r syniad, meddai.

Dw i’n falch gweld nag yw Cyng. Morgan yn meddwl bod dim hawl i Gymdeithas Dyneiddwyr Prydain godi’r fath bosteri achos byddai dweud rhywbeth fel hynny yn ffasgaidd. Felly, diolch am beidio bod yn ffasgydd, Linda. Mae hynny’n golygu llawer. Ond mae hefyd yn ddiddorol gweld bod chi’n eistedd ar Cyngor Sefydlog Ymgynghorol dros Addysg Grefyddol yn y Brifddinas. Does bosib bod eich safbwynt ar bosteri’r Dyneiddwyr wedi’i liwio gan eu hymgyrch ehangach yn erbyn ysgolion ffydd?

Hen Bysgodyn

Syndod i weld Morfablog mewn rhestr o 10 Blog “Amatur” Gorau ar wefan Golwg360. Ddim yn siwr beth dw i wedi wneud i haeddu’r fath sylw. Fel mae’r erthygl yn awgrymu, prif nodwedd Morfablog yn diweddar yw fy mod i’n sôn byth a beunydd am roi’r gorau i’r blogio yn gyfan gwbl.

Mae Carl yn tynnu sylw at y gair “amatur” yn y darn. Ond fel dwedais i yn mewn sylw ar yr un cofnod, mae’n fwriad gen i i beidio bod mor negyddol trwy’r amser, felly dw i am gofleidio’r anrhydedd â chalon agored, a dechrau gweithio ar strategaeth i adael i fi oddiweddyd Dogfael a Rhys erbyn Nadolig. Bydd pasio gîcs Metastwnsh yn hawdd wedyn. Byddan nhw i gyd yn rhy fishi chwarae gyda’r teclynnau newydd mae Siôn Corn wedi stwffio yn eu sanau i sylwi bod yr hen bysgodyn am godi eto.

Bwahaha!

Dal Dim Gair

Mae dros 6 blynedd ers i mi sgwennu cofnod yma a oedd yn dwyn y teitl Dim Gair Diolch. Cwyno o’n i yn y cofnod hwnna bod pobl yn tueddu anfon dogfennau MS Word fel atodiadau, heb feddwl a fyddai’r bobl oedd yn eu derbyn yn gallu eu hagor, ac heb boeni chwaith am yr amser sy’n cael ei wastraffu yn y broses. Soniais i yn 2003 am yr ymgyrch yn erbyn atodiadau MS Word; dw i’n falch o weld bod y wefan yna dal yn bodoli, ond prin iawn bod ei neges wedi lledu yn bell.

Ces i ebost neithiwr oedd yn cario atodiad 560KB Microsoft Word.

Am hwyl, ar ôl i mi lawrlytho’r peth, a’i agor yn Google docs, wnes i copi a gludo’r testun mewn i Textedit, i weld faint o wybodaeth defnyddiol oedd wedi’i gynnwys yn yr hanner megabeit yna.

4KB.

Continue reading