[Blogiad gwadd gan Carol Holloway, dysgwraig yn fy nosbarth Pellach yn Aberteifi. Mae fy sylwadau i ar y daith fan hyn. Diolch yn fawr i Carol am hyn.]
Cwrddon ni ym maes parcio Pwll Gwaelod. Roedd pymtheg ohonon ni, dysgwyr Cymraeg, pobl sy’n rhugl neu bron yn, a phobl sy’n siarad Cymraeg yn naturiol.
Roedd y cynllun i gerdded o gwmpas Pen Dinas mewn cylch gan arweinydd Mark Ellis-Jones. “Dyw e ddim yn ras,” meddai fe; dechrau da.
Dw i wedi ffeindio’r ffordd i fyny Pen Dinas yn eitha serth yn y gorffennol, ond doedd dim problem o gwbl amser hyn! Roedden ni mor brysur siarad gyda’n gilydd, yn Gymraeg wrth gwrs, ac yn mwynhau yr amgylchoedd yn yr awyr adfywiol.
Cymeron ni doriad fach pan cyrhaeddon ni gopa Pen Dinas. Roedd y golygfa yn wych i’r gogledd, o Drefdraeth ac o Garningli, ac i’r de, o’r fferi Abergwaun i Roslair. Doeddwn i ddim yn gallu gweld y goleudy ar Ben-Caer (Strumble Head) ond dysges i y gair! (Dysges i “adfywiol”, “yn yr hwyr” a “hyd yn hyn” hefyd.)
Cyrhaeddon ni Gwm yr Eglwys tua chwarter wedi canol dydd. Roedd y lle bach yn gysgodol a’r tywydd yn braf iawn. Mae tipyn bach o hanes yno, dim ond un mur o’r eglwys yn sefyll y dyddiau yma. Roedd barddoniaeth am Gwm yr Eglwys gyda Philippa, gan gynnwys cerddi gan Waldo Williams a Gwenallt.
Roedd y ffordd yn ôl i’r maes parcio yn hawdd ar y llwybr lefel sy’n mynd yn y bwlch rhwng Pen Dinas a Chroes Dinas. Wedyn roedd cyfle am fwy o glonc yn y “Sailors Rest”.
Yn bendant, roedd popeth yn llwyddiannus iawn. Diolch yn fawr i Mark, ac i Dyfed, Siân, Howard a Philippa am y gwaith trefnu.



Diolch am hanes eich taith gyda ni Carol. Buodd fy ngwraig, Sarah a minnau am daith o gwmpas Pen Dinas ar ddechrau’r haf (RHYBUDD: Coesau gwynion). Am daith mor fer, mae’r tirwedd a’r golyfgeydd yn amrywiol iawn. Gwelsom ni lawr o adar gwyllt ar y clogwyni (yn ffodus iawn, roeddwn wedi cofio fy sbienddrych am unwaith!), ac ar ddiwedd y taith cwasom bryd o fwyd pysgod blasus yn y dafarn ger y maes parcio – roedd un o’r merched a oedd yn gweini yno yn siarad Cymraeg.