Dim Ffineg plîs, Ffinwyr ydyn ni

Fel mae bob dysgwr a chyn-ddysgwr Cymraeg yn gwybod, un o broblemau mwya am ddysgu’r iaith, yn waeth na’r treigladau, y berfau afreolaidd na’r prinder o gerddoriaeth dda ar y radio, yw’r ffaith bod pob Cymro/Cymraeg yn gallu siarad Saesneg. Mae rhaid i’r dysgwr bod yn groendew weithiau a mynnu siarad Cymraeg gyda Chymro sy’n ymateb yn Saesneg.

Nid problem Cymru yn unig yw hon, mae’n debyg:

Something unusual happened to me yesterday — somebody refused to speak to me in English. In Helsinki. They were under 70 years of age and over 7, stone-cold sober and very polite. And I am very grateful to them.

[..]

Having begun speaking in Finnish and soon running out of the vocabulary to describe this unfortunate turn of events, I politely asked the librarian if he spoke English. It’s a kind of non-question that I use by way of a polite request which is invariably answered in English in the affirmative. But to my surprise, the man said, in Finnish, “I speak English badly and you speak Finnish so we can talk in Finnish.” This I could hardly deny and even the recognition that I could speak Finnish at all I took as a huge compliment.

Dw i dal yn cofio’r tro cyntaf i rywbeth fel hyn ddigwydd i fi, yn siop Oriel, ble o’n i’n gweithio amser o’n i’n dysgu’r Gymraeg. Ro’n i’n gweithio tu ôl i’t til, cyfro amser cinio, siwr o fod (do’n nhw ddim yn ddigon ff⊚l i fy ngadael i ma’s ar lawr y siop fel arfer) pan daeth cwsmer ata i a gofyn am rywbeth yn Gymraeg. Er mod i wedi dechrau’r sgwrs yn Gymraeg, oedd y peth oedd e’n gofyn amdano tipyn bach tu hwnt i fy sgilau ieithyddol, a des at at ffwl stop. “Mae’n flin ’da fi,” dwedais i, “dw i’n dysgu Cymraeg, a dw i ddim yn deall beth dych chi moyn. Allwch chi esbonio yn Saesneg?”

“Popeth yn iawn,” daeth yr ateb, “wna i drial eto yn y Gymraeg. Mae dysgu Cymraeg yn fwy pwysig na phrynu llyfrau’n glou.”

Roedd hyn yn wers a arhosodd gyda fi, a dw i’n cicio fy hunan bob tro dw i’n dal fy hun siarad Saesneg â rhywun sy wedi mynd ati i ddysgu’r Gymraeg.

(Diolch i Wil James am y ddolen!)


Mae ochr arall i’r ceiniog ieithyddol yn y Ffindir, hefyd. Er mod i wedi clywed am Svenskfinland, do’n i ddim yn gwybod bod y sefyllfa rhwng grwpiau ieithyddol yna mor fregus ei fod yn beryglus siarad Swedeg weithiau.

An 18-year-old woman was assaulted on Wednesday evening by a pair of Finnish-speakers because she was speaking Swedish. The incident happened in at restaurant Amarillo in Åbo-Turku.

According to the police, such incidents are very unusual and this is an individual occurance. However, the chairman of the student union at Åbo Akademi, Finland’s largest Swedish-speaking university which is based in the city, said that he is aware of violence occuring against people just because they speak Swedish.

Dylai’r ferch fod wedi siarad Saesneg. Llawer saffach.

  1. Ond mae gan Swedeg y Ffindir statws weddol uchel (ac os dwi wedi deall yn iawn mae yna perception, ffug erbyn hyn mae’n debyg, fod y siaradwyr Swedeg yn o gefnog, gan ennyn cenfigen). Mae diwylliant Swediaid y Ffindir yn cael ei ariannu yn dda iawn, gan esbonio pam bod ganddon nhw 5 papur newydd dyddiol jest ar gyfer eu siaradwyr nhw. Ond debyg bod y Ffineg wedi magu mwy o hyder ac yn gwasgu fwyfwy ar yr iaith a’i siaradwyr erbyn hyn.

    Mae siaradwyr Ffineg Swedn (Meankieli) ar y llaw arall efo statws isel iawn yn Swedn. Cymaint felly nad ydy pobol yn coelio eu bod yn Swediaid o glywed eu hacen.

  2. Ah, diddorol, diolch. Tybed oes cysylltiad rhwng y statws cymharol isel y Ffineg yn Sweden a’r tensiynau yn y Ffindir? Dw i’n cofio clywed am y papurau newydd Swedeg yn y Ffindir, adeg dechrau ymgyrch Y Byd, ond doedd dim syniad ‘da fi am yr hanes cymhleth rhwng y ddwy wlad.

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>