Mae grwp cerdded newydd yn ardal Aberteifi, sef Cerddwyr Cylch Teifi, sy wedi tyfu ma’s o’r grwp oedd Aled yn ei drefnu nes iddo adael ei swydd gyda’r Bwrdd yn Aberteifi.
Philippa yw un o’r trefnwyr y grwp newydd, sy’n golygu bod ’na fwy o reswm nag arfer i fi fynychu’r teithiau. Dw i wastad yn mwynhau pan dw i’n mynd, ond dw i’n ddiog tu hwnt. Peth da, felly, bod Philippa wedi ymuno â’r pwyllgor.
Ddoe oedd y daith gyntaf yn y tymor newydd, ac aethon ni i Bwllgwaelod, ar bwys pentre Dinas yn Sir Benfro. Aethon ni i fyny ac o gwmpas Pen Dinas, lawr i Gwm yr Eglwys ac yn ôl i’r dafarn fach ym Mhwllgwaelod. Mae mwy o luniau ar fy nhudalen Flickr.
Am y daith nesa, byddwn ni’n ymuno â chriw Cymdeithas Edward Llwyd ar y 24ain o Hydref, i grwydro ardal Tre-Saith a Phenbryn. Manylion yn y rhaglen.


Dwi’n falch i gweld y grwp yn parhau i gwrdd a cherdded!
Ie, mynd yn dda. Cigerran, nesaf, ar 24 Tachwedd.