Braf i weld, o’r No Good Boyo, bod criw o Gyfeillion Bryn y Briallu am ryddhau eu bro o ddylanwad drwg Ein Prif Pen Pabi, yr hen Iolo Morgannwg. Fel y wyddoch, siwr o fod, mae cofeb i’r sgamster mawr wedi’i ddadorchuddio ar y bryn blodeuog yn Llundain yn diweddar. Dyw’r Cyfeillion ddim yn hapus:
Friends chairman Malcolm Kafetz said: “The man in question, Edward Williams, otherwise known as Iolo Morganwg, had an extraordinary and interesting but not necessarily praiseworthy life. He had a bookshop, wrote poems and folk songs and discovered a series of influential medieval chronicles. It was only after some 100 years that these were discovered to be forgeries. The Friends do not want monuments on the Hill, but particularly not this one.
“This chap was bankrupt and a forger. A bloody criminal. This plaque has just appeared out of nowhere. It is a diabolical cheek.”
Yn gwmws.
I ddangos fy undod gyda Chyfeillion y Briallu, os byddan nhw’n llwyddiannus yn eu hymdrechion i gadw’r bryn yn lân o gofebion i Gymry amheus, fe wnaf i fy ngorau glas i gael gwared â’r llechen i Edward Elgar ar wal yr ardd gymunedol yn Llangrannog. Dw i’n gwybod bod Elgar yn gyfansoddwr gwych, ond mae rhaid cofio ei fod e hefyd yn “ardent Wolverhampton Wanderers fan” ac yn “keen amateur chemist”.
Na fydd unrhyw cysylltiad rhwng fy ymgyrch yn erbyn y llechen a’r ffaith bod Elgar yn Sais ac yn gyfrifol am un o gonglfeini mwya cenedlaetholdeb ei wlad. Dw i’n derbyn bod Elgar yn bwysig i Saeson diwylliedig, ac i’r rhai sy’n mynd i Noson Olaf y Poms hefyd, ond does dim ots ’da fi. Os nag oes lle i Iolo ar Fryn y Briallu, fydd dim lle i Elgar wrth ymyl Rhaeadr y Gerwn. Os nag yw safle geni Gorsedd y Beirdd yn werth ei gofnodi, mae’n anodd gweld sut i gyfiawnhau “Elgar came here once on his holidays” fel sail cofeb barhaol.
Beth amdani, Gyfeillion? Fancy a bit of mutual cultural cleansing?
Dylwn i wneud yn glir, gan fy mod i ddim mor fedrus â’r brwsh direidi a’r Boio, mod i ddim o ddifri am dynnu’r llechen i Elgar. Er mod i’n cofio bod bach yn bemused pan clywais i am y cynllun gwreiddiol, dw i’n derbyn bod Elgar yn artist mawr, ac nid dim ond yn llygaid Lloegr chwaith. (Dw i’n eitha hoff o’i Cello Concerto fy hunan.) A bod yn onest, mae’r plac i Dylan Thomas ar y Pentre Arms yn fy moddran i llawer mwy, gan fod y dafarn yna yn lleoliad o bwysigrwydd diwylliannol go iawn, ond gan fod mwy o dwristiaid wedi clywed am Dylan nac am Fois y Cilie, well i mi beidio wneud gormod o ffws am hwnna chwaith.


Clywch clywch
Mae’ch safle yn edrych yn hyfryd iawn, gyfeillion. Cipio Elgar fel un o’in hunain basa’n syniad well, dwn i – fel nes i a’r Sais digwylydd Vaughan Williams heb i neb sylweddoli.
Hwyl!