Emily

Wedi treulio’r noson casglu dolenni ambyti Emily, y band o Gorwen/Rhuthun/Manceinion/Llundain/Yr Eidal, yn y drefn ‘na, mwy neu lai. Dw i wedi sôn amdanyn nhw ar y maes cyn nawr, ond ddim fan hyn. Gwelais i nhw sawl gwaith yng nghanol yr 80au, pan o’n i’n sgwennu yn gyson at Mark Williams, eu drymiwr a chreuwr sawl ffansîn indie pop.

Ar ôl i mi sgwennu hyn ar y maes, ges i ebost gan Robert Bruce, yn cynnig copiau o MP3au y demo cyntaf erioed, caneuon oedd ’da fi ar dâp blynyddoedd yn ôl, ond ddim wedi clywed ers dyddiau’r coleg. Wrth gwrs, neidiais i ar ei gynnig, a ches i wefr o hiraeth wrth wrando ar y traciau.

Co nhw:

Rhaid cyfadde nag yw’r traciau ‘na wedi dyddio’n dda iawn, ond demos o’n nhw i fod, ac roedd y band yn ifanc iawn ar y pryd; Ollie dan ei 18, siwr o fod. Ces i fy synnu’n fawr heno gan yr albym Rub-Al-Khali, sy’n milltiroedd i ffwrdd o’r jangly pop oedd Emily wedi perffeithio erbyn diwedd y 80au. Mae Rub-Al-Khali yn fwystifil o jam cosmig, gyda offer chwythbrennau, gitarau gwyllt, lleisiau angelaidd a thrac 13 munud gyda’r teitl “Allah”. Mae’n eitha arbennig.

This entry was posted in Cerddoriaeth and tagged , . Bookmark the permalink. Post a comment or leave a trackback: Trackback URL.
[Digg] [Facebook] [Google] [MySpace] [Reddit] [Technorati] [Twitter] [Email]

Post a Comment

Your email is never published nor shared. Required fields are marked *

*
*

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

  • Now Available in the Language of Your Choice (More or Less)

  •  

  • Archif

  •  

  • Pigion

  • Sylwadau Diweddar