Dros y Sul

Wedi cael penwythnos yn y gogledd, gyda’r teulu. Ddydd Sadwrn, fe ddaeth rhyw 70 o ddisgynyddion fy hen hen daid, Jeremiah Williams, i ddathliad mewn gwesty ar bwys y Waun. Beth o’n ni’n dathlu? Bod yn ddisgynyddion Jeremiah Williams, wrth gwrs. Dw i ddim yn ei gofio (bu farw yn y 50au), ond dw i’n cofio ei fab, fy hen daid “Bob Jerry” (Robert Henry Williams) yn dda iawn. Nid yn unig oedd yn arwr i fi, gyda’i bocedi dwfn llawn hud a lledrith, a storws o storiau gwych am ei ddyddiau cynnar, mi oedd Bob yn arwr go iawn.

Ta beth, mi oedd bod mewn stafell gyda plant, wyrion, gorwyrion a gor-orwyrion Bob a’i frodyr a chwiorydd yn fraint ac yn bleser pur. Oedd rhai do’n i ddim wedi clywed amdanyn nhw o’r blaen, criw o bobl oedd wedi teithio o’r Alban, fy nghefnither a’i gŵr o Guernsey, lot o bobl ffein y Waun ac un ail-gefnder dw i wedi bod yn edrych ymlaen at gwrdd â fe ers sawl blwyddyn nawr.

Ar y ffordd i fyny i’r Waun, arhoson ni yn Llanidloes i gael cinio yn y caffi gwych yna, ac i bori yn y siop llyfrau sy’n rhannu’r un enw â’r caffi. Prynais i gopi o River Horse gan William Least Heat-Moon, un o fy hoff awduron teithio. Wedi dechrau ar hwnno heddi, a ffeindio’r daith ar Google Earth i fy helpu fi ddilyn y llyfr. Llyfr arall ges i yn Llanidloes, o siop elusen, oedd The Art of Travel gan Alain de Botton. Ddim cweit y bargen o’n i’n meddwl, gan fod rhyw 30 tudalen ar goll, ac wedyn 30 tudalen cyntaf y llyfr yn cael eu hail-gynnwys, ond dw i newydd bennu darllen beth sydd yna – bydd rhaid edrych yn y llyfrgell fory i weld os oes copi cyflawn gyda nhw. Mae Botton yn sgwennu yn dda iawn, ac yn gadael i’r darllenwr eisiau wneud o leia dau beth: teithio i’r gwledydd mae’n sôn amdanynt, wrth gwrs, ond yn fwy na hynny, i ddarllen yr un llyfrau mae’r awdur yn darllen wrth deithio.

Ar y ffordd yn ôl o’r gogledd pell, arhoswn ni yn Aberystwyth i gael cip yng Nghanolfan y Celfyddydau. Mae arddangosfa wych yn oriel y crochenwaith ar hyn o bryd, sef gwaith Alan a Ruth Barrett-Danes. Mae campweithiau eraill yn yr oriel, ond does dim amser ’da fi nawr i flogio amdanyn nhw.

This entry was posted in Eraill. Bookmark the permalink. Post a comment or leave a trackback: Trackback URL.

4 Comments

  1. Maff
    Posted Hydref 5, 2009 at 8:28 pnawn | Permalink

    The translation to English is working pretty well. Seems to stick an ‘our’ in here and there and I’m not sure what it should be. Your book with the missing pages, are you sure it is 30 page and not 32 pages – just a thought, but books are usually printed in 16 page sections…hello, are you still awake?

  2. Posted Hydref 6, 2009 at 6:42 bore | Permalink

    Glad you’re taking the trouble Maff. It also works as a pretty good spell checker – words I’ve spelled wrong in the original don’t get translated, and so stick out like sore thumbs in the translation.

    You’re probably right about the 32 pages. The book looks perfectly bound, so one section has been missed and the first section added in again.

  3. Posted Hydref 7, 2009 at 2:27 pnawn | Permalink

    Dw i’n darllen Art Of Travel ar hyn o bryd. Dw i ddim yn siwr os Botton yn dda neu ddim. The jury’s still out. Dwedodd fy ffrind copiodd Botton syniadau “gwreiddiol” o enwogion athroniaeth. Does dim digon o gwybodaeth athroniaeth gyda fi!

  4. Posted Hydref 7, 2009 at 5:44 pnawn | Permalink

    Chwarae teg, dyw e ddim yn esgus taw ei syniadau e ydyn nhw, nadi? Mae pob pennod gyda ei arweinydd o athronydd, gyda cryn dipyn o amrywiaeth.

Post a Comment

Your email is never published nor shared. Required fields are marked *

*
*

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

  •  

  • Archif

  •  

  • Pigion

  • Sylwadau Diweddar