(Bron) Popeth (ar y we) yn Gymraeg

Hyd yn hyn, dw i wedi sôn am beiriant cyfieithu Google mewn termau eitha cul, Cymraeg/Saesneg. Ond mae ochr arall i’r ceiniog, sef bod (bron) holl gynnwys y we erbyn hyn ar gael i ni yn ein hiaith ein hunain, os ydyn ni’n fodlon rhoi tipyn bach o waith i mewn.

Er nad ydw i’n debyg iawn i ddarllen Metafilter yn y Gymraeg, mae’n anhygoel bod hynny yn bosibl. Ces i wefr o weld bar-lywio Mefi, rhywbeth dw i wedi gweld bron bob dydd ers 1999, wedi’i gyfieithu i’r Gymraeg, bron pob gair yn ei le:

Picture 1

Gwych o beth, ond ddim digon o reswm i ddewis darllen cyfieithiad carpiog yn lle’r Saesneg gwreiddiol.

Un lle dw i wedi defnyddio teclyn Google heddiw, i ddarllen rhywbeth na fyddai gobaith i mi ddeall heb gyfieithiad cyn nawr, yw gwefan arddangosfa Hermann Hirsch*, sef safle uniaith Almaeneg sydd erbyn hyn yn ddealladwy i Gymry Cymraeg.

Mae’r arddangosfa yn Amgueddfa Trefol o Göttingen, am y tro cyntaf yn yr Almaen yn gwneud yn deyrnged i’r hanghofio unjustly artist. Mae’n darparu daith bywgraffyddol drwy fywyd a gwaith yr artist hyblyg, ac yn gosod pwyslais ar ei Südniedersächsische amser.

Diddorol gweld y gair Saesneg unjustly yn y canol, sy’n awgrymu bod y fersiwn Gymraeg yn dod trwy’r Saesneg yn gyntaf. Diddorol hefyd bod y gair teyrnged (am “eine Würdigung”) yna yn tro’n asesiad os dych chi’n bwydo’r teclyn â’r testun fesul paragraff. “Assessment” yn hytrach na “tribute” yw e yn y Saesneg, ond eto, os dych chi’n rhoi llai o gydestun i’r peiriant, mae’r gair yn newid i “appreciation”.

Mae’r dewisiadau y peiriant braidd ar hap weithiau: gan fwydo’r un ymadrodd uchod mewn ond heb yr atalnod llawn, mae Hirsche yn newid o fod yn “painter” i “artist”.

Ta waith am hynny, dw i dal yn gweld hyn fel datblygiad enfawr yn hanes y Gymraeg ar y we. A tu hwnt, wrth gwrs – cofiwch bod testun bob llyfr yn y byd yn cael ei sganio gan Google, sy’n golygu (mewn theori) y bydd bob llyfr yn y byd ar gael yn y Gymraeg, yn y man. Mae hynny yn dipyn o beth, ond yw e?

* Dw i wedi blogio am Hermann Hirsche yma o’r blaen, y tro diwetha i mi ddod yn ôl ar ôl hoe bach o’r blog, fel mae’n digwydd. Hen ewythr Philippa oedd e, a chafodd bron popeth o’i waith ei “brynu” gan y Natsïaid am brisiau chwerthinllyd. Ond cewch chi ddarllen gweddill ei hanes ar wefan Amgueddfa Drefol Göttingen, os dych chi’n gallu darllen Almaeneg.

  1. Cofnod Murmur ar y teclyn cyfieithu, sy’n codi pwynt holl bwysig:

    Dyw’r dechnoleg ddim yn berffaith eto, ac un o’n pryderon yw y bydd sefydliadau a chwmnïau diegwyddor yn camddefnyddio’r dechnoleg i greu cyfieithiadau carbwl. [..] Nid dyna fwriad Google Translate wrth gwrs: y nod yw cynnig brasgyfieithu ar gyfer pobl na allai ddarllen y testun dan sylw o gwbl fel arall, a hefyd gynnig testun amrwd y gall cyfieithydd dynol weithio arno ymhellach i’w fireinio cyn ei gyhoeddi.

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>