Newydd ddod ar draws teifidancer, blog am gerddoriaeth a barddoniaeth, ar y cyfan. Mae’n cael ei gadw, dw i’n meddwl, gan rywun dw i’n nabod yn Aberteifi, ond gan fod e ddim yn defnyddio ei enw ar y blog, well i mi beidio dweud mwy. Casgliad eclectic o ddolenni a phethau i’w darllen yna, ta beth.
Monthly Archives: Medi 2009
Cyfieithu Thematic
Meirion Alan Ginsberg
Lluniau Meirion Alan Ginsberg, artist o’r gogledd gyda’r enw mwya bît erioed.
MorfaBlog yn diflannu
Peidiwch â phoeni, dw i ddim yn rhoi’r gorau i bethau eto, dim ond i mi ffeindio hen fersiwn o MorfaBlog [sic], sydd â phroblem fach. Am wn i, does dim record o’r manylion mewngofnodi i’r hen gyfrif Blogger o’n i’n defnyddio amser ’ny, felly does dim byd alla i wneud am y peth.
(Bron) Popeth (ar y we) yn Gymraeg
Hyd yn hyn, dw i wedi sôn am beiriant cyfieithu Google mewn termau eitha cul, Cymraeg/Saesneg. Ond mae ochr arall i’r ceiniog, sef bod (bron) holl gynnwys y we erbyn hyn ar gael i ni yn ein hiaith ein hunain, os ydyn ni’n fodlon rhoi tipyn bach o waith i mewn.
Er nad ydw i’n debyg iawn i ddarllen Metafilter yn y Gymraeg, mae’n anhygoel bod hynny yn bosibl. Ces i wefr o weld bar-lywio Mefi, rhywbeth dw i wedi gweld bron bob dydd ers 1999, wedi’i gyfieithu i’r Gymraeg, bron pob gair yn ei le:
Gwych o beth, ond ddim digon o reswm i ddewis darllen cyfieithiad carpiog yn lle’r Saesneg gwreiddiol.
Un lle dw i wedi defnyddio teclyn Google heddiw, i ddarllen rhywbeth na fyddai gobaith i mi ddeall heb gyfieithiad cyn nawr, yw gwefan arddangosfa Hermann Hirsch*, sef safle uniaith Almaeneg sydd erbyn hyn yn ddealladwy i Gymry Cymraeg.
Mae’r arddangosfa yn Amgueddfa Trefol o Göttingen, am y tro cyntaf yn yr Almaen yn gwneud yn deyrnged i’r hanghofio unjustly artist. Mae’n darparu daith bywgraffyddol drwy fywyd a gwaith yr artist hyblyg, ac yn gosod pwyslais ar ei Südniedersächsische amser.
Diddorol gweld y gair Saesneg unjustly yn y canol, sy’n awgrymu bod y fersiwn Gymraeg yn dod trwy’r Saesneg yn gyntaf. Diddorol hefyd bod y gair teyrnged (am “eine Würdigung”) yna yn tro’n asesiad os dych chi’n bwydo’r teclyn â’r testun fesul paragraff. “Assessment” yn hytrach na “tribute” yw e yn y Saesneg, ond eto, os dych chi’n rhoi llai o gydestun i’r peiriant, mae’r gair yn newid i “appreciation”.
Mae’r dewisiadau y peiriant braidd ar hap weithiau: gan fwydo’r un ymadrodd uchod mewn ond heb yr atalnod llawn, mae Hirsche yn newid o fod yn “painter” i “artist”.
Ta waith am hynny, dw i dal yn gweld hyn fel datblygiad enfawr yn hanes y Gymraeg ar y we. A tu hwnt, wrth gwrs – cofiwch bod testun bob llyfr yn y byd yn cael ei sganio gan Google, sy’n golygu (mewn theori) y bydd bob llyfr yn y byd ar gael yn y Gymraeg, yn y man. Mae hynny yn dipyn o beth, ond yw e?
* Dw i wedi blogio am Hermann Hirsche yma o’r blaen, y tro diwetha i mi ddod yn ôl ar ôl hoe bach o’r blog, fel mae’n digwydd. Hen ewythr Philippa oedd e, a chafodd bron popeth o’i waith ei “brynu” gan y Natsïaid am brisiau chwerthinllyd. Ond cewch chi ddarllen gweddill ei hanes ar wefan Amgueddfa Drefol Göttingen, os dych chi’n gallu darllen Almaeneg.
O Fy Nuw
Mae’r teclyn newydd ’na ar yr ochr yn bwerus, ac yn beryglus. Bydd yn demptasiwn i fi fynd yn ôl trwy’r archifau a chywiro cyfieithiad pob cofnod ar y blog.
Bydd temptasiwn arall, sy ddim mor adeiladol, i or-defnyddio idiomau Saesneg yn fy Nghymraeg er mwyn wneud teitlau cofnodion sy’n gweithio yn y ddwy iaith.
Dw i’n troi fy nghefn am fis, ac mae rhywbeth fel hyn yn digwydd.
Morfablog is for everyone
Dw i wedi cael fy ysbrydoli heddi gan gofnod ar Quixotic Quisling ynglŷn â pheiriant cyfieithu Google, sydd erbyn hyn yn gweithio yn y Gymraeg. Mae hyn yn golygu, am y tro cyntaf, bydd yn bosibl, mewn theori, i bobl di-Gymraeg ddeall rhywfaint o’r rwtsh sy’n llenwi’r lle ‘ma.
I’ve been inspired by records on Quixotic Quisling today about Google’s translation engine, which now works for the language. This means, for the first time, it will be possible in theory for people di-Gymraeg understand some of rwtsh filling space here.
Ymwadiad: ar ôl i mi sgwennu’r uchod, a’i gyfieithu gyda’r teclyn Google, oedd rhaid i mi fynd yn ôl drosto fe yn gyflym a newid cwpl o eiriau er mwyn cael canlyniad oedd yn wneud synnwyr yn y Saesneg. Newidiais i “blogiad” i “cofnod”, ac ychwanegu “Dw i” i ddechrau’r frawddeg gyntaf, er enghraifft. Os mai hynny yw’r pris am estyn cynulleidfa potensial o ryw hanner miliwn i gwpl o biliwn, dw i’n gallu byw gyda fe.
Hefyd, bydd Maff yn hapus.
Diagonal
Rhif dau mewn cyfres does neb yn credu bydd yn parhau heibio i heddi, “bandiau gwych gwelais i yn y Dyn Gwyrdd eleni”.
Diagonal oedd y band cyntaf i ni weld ddydd Gwener y Dyn Gwyrdd, ac oedd yn syndod llwyr i fi eu gweld yn y rhaglen.
Ta beth, dechrau arbennig o dda. Ro’n i’n teimlo drostyn nhw gorfod gofyn am help ar ôl i’r basydd dorri tant yng nghanol y set, ac heb ddod ag un sbâr; lwcus bod Sibrydion yn fodlon helpu ma’s a benthyg bas iddo fe.
Mae clip bach o’u perfformiad lan ar y Tiwbs, ond dyw e ddim yn arbennig o dda o ran safon.
Mae’r albym cyntaf ar gael i wrando arno am ddim ar Last.fm, ond mae’n werth cael gafael yn y CD (neu’r feinyl, i’r fetishyddion) i chi gael progo ma’s mewn steil.
Y Wrach
Mississippi Witch, un o’r bandiau gwych gwelais i yn y Dyn Gwyrdd eleni.
Mae’n bosibl, ond ddim yn debyg iawn, taw hwn yw’r cyntaf mewn cyfres “bandiau gwych gwelais i yn y Dyn Gwyrdd eleni”. Ond y gwir yw bod Facebook yn mynd ar fy nhethau cymaint mod i’n gorfod postio stwff fan hyn er mwyn peidio ymweld â’r lle. Dw i’n cael fy sbamio gan fy chwaer fy hun, sy bach yn rhyfedd.
Llongyfarchiadau i No Good Boyo, gyda llaw.

