Mae ’na ddau bysgodyn ifanc yn nofio yn y môr ac maen nhw’n digwydd cwrdd â physgodyn hŷn.
Mae’r hen bysgodyn yn amneidio ar y ddau ifanc a dweud “Bore da, hogia. Sut mae’r dŵr?
Mae’r ddau bysgodyn ifanc yn nofio ymlaen am sbel nes bod un ohonyn nhw yn edrych draw at y llall ac yn dweud “Beth yn y byd ydy dŵr?”
David Foster Wallace, This is Water.
Er mor hyfryd yw’r llyfr uchod, a finne newydd ei brynu, gan fod DFW ddim ambyti’r lle bellach, a chan fod ei gyhoeddwr wedi ymestyn araith chwarter awr i lenwi llyfr 141 tudalen er mwyn codi £11 amdano, dw i ddim yn teimlo’n rhy euog am roi dolen i’r testun llawn. Os nag wyt ti wedi dod ar draws DFW o’r blaen (do’n i ddim wedi tan wythnos diwetha), mae hwnna yn lle da i ddechrau.